Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i fenywod Cymru baratoi i chwarae yn y Swistir y penwythnos hwn ar gyfer eu hymddangosiad cyntaf ym mhencampwriaeth Ewro 2025, mae llawer o brosiectau yn digwydd ledled y wlad a thu hwnt i ddathlu'r cyflawniad enfawr hwn.

Cyhoeddwyd gyntaf:
2 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Cronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 Llywodraeth Cymru gwerth £1 miliwn yn cefnogi 16 sefydliad i gynnal amrywiaeth o ddigwyddiadau, prosiectau creadigol ac adnoddau dysgu i dynnu sylw at dalent Cymru, gan adeiladu gwaddol a fydd yn ysbrydoli cenedlaethau'r dyfodol ac yn ysgogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon a diwylliant.

Mae tri phrosiect blaenllaw yn dod â'r dathliad hwn yn fyw:

Mae Llenyddiaeth Cymru wedi comisiynu'r bardd Sarah McCreadie i gofnodi taith Cymru yn yr Ewro gyda phedair ar ddeg o gerddi gwreiddiol. Mae Sarah, a fydd yn teithio gyda'r tîm i'r Swistir, yn dod â'i hangerdd am bêl-droed a barddoniaeth i'r rôl. Dywedodd Sarah:

Dyma fy mreuddwyd! Dw i'n angerddol am bêl-droed a barddoniaeth ac maen nhw'n cydblethu - yn enwedig yng Nghymru. Llên gwerin y gêm, ein hunaniaeth, ergyd fedrus Fishlock, caneuon y Wal Goch – barddonol bob un! Mae'n fraint cael cofnodi ein hantur drwy farddoniaeth.

Mae ffilm newydd bwerus gan y cyfarwyddwr Aaliyah MacKay yn dathlu Eleeza a Rosheen Khan, dyfarnwyr a hyfforddwyr Mwslimaidd benywaidd cyntaf Cymru. Mae'r chwiorydd, sy'n disgrifio eu hunain fel 'actifyddion pêl-droed', yn chwalu ffiniau yn y gêm ac yn ysbrydoli menywod o bob cymuned. Esboniodd Aaliyah:

Wrth wraidd y prosiect hwn mae cwestiynau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Trwy ddangos sut mae dwy fenyw Fwslimaidd wedi herio stereoteipiau, rydyn ni eisiau dangos bod pêl-droed yn perthyn i bob un ohonom

Ychwanegodd Rosheen Khan:

.Yn niwylliant De Asia nid ydych chi'n gweld llawer o ddynion neu fenywod yn y byd pêl-droed ac rydyn ni eisiau creu gwaddol yn y gêm ac ysbrydoli pobl fel ni i gymryd rhan.

Mae murlun nodedig mawr o Jess Fishlock wedi trawsnewid Parc Pêl-droed y Sblot yng Nghaerdydd, gan greu hanes fel y murlun maint cae llawn cyntaf i bêl-droediwr benywaidd yn Ewrop. Wedi'i greu gan yr artist o Gymru Regan Gilflin a stiwdio UNIFY Caerdydd, mae'r gwaith celf yn dathlu gwaddol Fishlock fel y pêl-droediwr sydd wedi ennill y nifer mwyaf o gapiau i Gymru.

Dywedodd Jess Fishlock:

It's a huge honour to represent Cymru and to be part of a first-of-its-kind mural celebrating our history-making appearance at the Euros. I'm so proud seeing the mural in the area I grew up in and played when I was younger. I hope it inspires boys and girls to fall in love with the game.

Bydd y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon, Jack Sargeant, yn mynd i'r Swistir i ddangos ei gefnogaeth i Dîm Cymru. Dywedodd:

Mae'r penwythnos hwn yn drobwynt i bêl-droed Cymru wrth i dîm cenedlaethol y menywod fynd ar y cae ar gyfer eu Pencampwriaeth Ewropeaidd gyntaf erioed. Nid yw'r balchder rydyn ni'n ei deimlo fel cenedl yn ymwneud â'r hyn sy'n digwydd ar y cae yn unig – mae'n ymwneud â'r hyn y mae'r cyflawniad hwn yn ei gynrychioli i Gymru a chenedlaethau'r dyfodol.

Dw i'n falch iawn bod ein Cronfa Cymorth i Bartneriaid Ewro 2025 gwerth £1 miliwn yn dod â phrosiectau amrywiol yn fyw sy'n dathlu'r garreg filltir hanesyddol hon drwy ein lens Gymreig unigryw. Mae pob prosiect yn dal ysbryd Cymru o ran creadigrwydd, cynhwysiant a phenderfyniad.

Mae'r mentrau hyn yn fwy na dathlu cyflawniad heddiw. Maent yn ymwneud ag adeiladu gwaddol parhaol a fydd yn ysbrydoli rhagor o bobl ifanc i ymwneud â chwaraeon. Dw i'n edrych ymlaen at gefnogi ein tîm yn y Swistir a gweld drosof fy hun sut y gall chwaraeon uno cymunedau ac arddangos talent Cymru ar lwyfan rhyngwladol. Pob lwc!