Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn darparu cymorth a hyfforddiant i helpu pobl a busnesau i wella llesiant yn y gweithle.
- cymorth i helpu pobl cyflogedig a hunangyflogedig i reoli eu cyflwr iechyd a naill ai dychwelyd i’r gwaith neu aros yn y gwaith.
- mae hyfforddiant a chymorth hefyd ar gael i helpu busnesau i wella llesiant yn y gweithle.
Mae’r Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith yn cynnig cymorth therapiwtig cyfrinachol am ddim os ydych chi’n gyflogedig neu’n hunangyflogedig ac:
- yn absennol o’ch gwaith oherwydd salwch. Bydd yn eich helpu i ddychwelyd i’r gwaith
- yn dal i weithio ond yn cael anhawster oherwydd eich cyflwr iechyd. Bydd yn eich helpu i aros yn y gwaith
Mae hyfforddiant a chymorth ar gael am ddim i fusnesau i helpu i wella llesiant eu gweithwyr yn y gweithle.
De a De-ddwyrain Cymru
Os ydych chi’n byw ym:
- Mlaenau Gwent
- Pen-y-bont ar Ogwr
- Caerffili
- Casnewydd
- Merthyr Tudful
- Sir Fynwy
- Rhondda Cynon Taf neu Dorfaen
neu os yw eich busnes wedi’i leoli yn un o’r ardaloedd hynny, cysylltwch â Case UK
Rhif ffôn: 02921 676213
Gogledd, De-orllewin a Gorllewin Cymru
Os ydych chi’n byw yn:
- Ynys Môn
- Sir Gaerfyrddin
- Ceredigion
- Conwy
- Sir Ddinbych
- Sir y Fflint
- Gwynedd
- Castell-nedd Port Talbot
- Sir Benfro
- Abertawe
- Wrecsam
Neu os yw eich busnes wedi’i leoli yn un o’r ardaloedd hynny, cysylltwch â Strategaeth Dinas y Rhyl
Rhif ffôn: 01745 336442
E-bost: hello@rcs-wales.co.uk
Canolbarth Cymru
Os ydych chi’n byw ym Mhowys, neu os yw eich busnes wedi’i leoli yn yr ardal honno, cysylltwch â Gwasanaeth Cymorth yn y Gwaith - Mind Canolbarth a Gogledd Powys.
Rhif ffôn: 01597 824411
E-bost: admin@mnpmind.org.uk