Gallech gael cymorth ar gyfer gofal plant tra byddwch yn hyfforddi ac yn ennill sgiliau i gael swydd.
Mae prosiect PaCE yn rhoi cymorth personol ichi gyda chynghorydd. Maent yn eich helpu ac yn eich cefnogi i ddod o hyd i swydd.
Mae'r prosiect yn cael ei ariannu trwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop.
Mae'r cymorth y gallech ei gael yn cynnwys:
- cyllid sydd ar gael ar gyfer gofal plant
- canllawiau am fudd-daliadau y gallwch eu cael tra byddwch yn gweithio
- cyngor am ysgrifennu CV
- gwneud cais am hyfforddiant
- dod o hyd i swydd
- cyngor am ba hyfforddiant a chymwysterau y mae eu hangen
Cymhwystra
- rheini nad ydynt yn gweithio
- rheini nad ydynt mewn addysg
- rheini nad ydynt eisoes yn cael hyfforddiant
- rheini nad ydynt yn gallu trefnu gofal plant tra bônt yn ceisio ennill sgiliau neu gael swydd
Gwneud cais
Cam 1
Gwneud cais trwy anfon e-bost atom.
Bydd yn rhaid ichi ddweud wrthym:
- enw
- cyfeiriad
- rhif ffôn
Cam 2
Anfonir eich manylion at un o'n cynghorwyr yn eich awdurdod lleol.
Cam 3
Bydd cynghorydd yn cysylltu â chi i drefnu cyfarfod i drafod a ydych yn gymwys.
Cam 4
Cyfarfod â chynghorydd i weld a ydych yn gymwys.
Cam 5
Os ydych yn gymwys, caiff cyfarfod ei drefnu â chynghorydd i drafod y cymorth y mae arnoch ei angen.