Gwasanaethau sy’n cynnig cymorth a chyngor iechyd a llesiant am ddim.
Cynnwys
Iechyd meddwl a llesiant
Llinell Gymorth C.A.L.L.
Mae Llinell Gymorth C.A.L.L. yn linell gymorth iechyd meddwl benodol. Mae'n darparu cymorth cyfrinachol i'ch helpu i ddod o hyd i gymorth sydd ar gael yn eich ardal leol. Mae hyn yn cynnwys sefydliadau gwirfoddol ac elusennol.
Cael help gan y Llinell Gymorth C.A.L.L.
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
Byw heb Ofn
Mae Byw heb Ofn yn rhoi cyngor defnyddiol, cyfrinachol sy’n hawdd cael gafael arno i unrhyw un sy’n dioddef neu wedi goroesi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol – ac i’r rheini sy’n agos atynt, gan gynnwys aelodau o’r teulu, ffrindiau a chydweithwyr – ar amrywiaeth o faterion a all fod yn berthnasol i’w sefyllfa. Mae ar agor 24/7, yn rhad ac am ddim ac ni fydd yn ymddangos ar filiau ffôn.
Cael help gan Byw heb Ofn
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Gallwch hefyd ddefnyddio'r gwasanaeth sgwrsio byw ar-lein.
Cymorth i bobl hŷn
Cyngor Age Cymru
Mae Cyngor Age Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth cyfrinachol a diduedd am ddim. Gall helpu pobl hŷn, eu teuluoedd, eu ffrindiau, eu gofalwyr a gweithwyr proffesiynol i gael gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn.
Cael help gan Gyngor Age Cymru
E-bost: advice@agecymru.org.uk
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Care and Repair
Mae Care and Repair yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau ymarferol sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i aros yn ddiogel, yn gynnes ac yn iach gartref. Maent yn gosod cymhorthion ac addasiadau anabledd, yn darparu gwasanaethau cynnal a chadw cartrefi, yn helpu i sicrhau’r incwm mwyaf a grantiau mynediad, ac yn gwneud cartrefi’n ddiogel i ddychwelyd o’r ysbyty.
Hyd yn oed os credwch nad ydych fel arfer yn gymwys i gael cymorth ariannol, gallech fod yn gymwys i gael rhywfaint o help gyda chostau byw o ddydd i ddydd.
