Neidio i'r prif gynnwy

Sylwer: Mae'r trefniadau cyllido dros dro hyn wedi'u hymestyn hyd at 31 Mawrth 2026. Hyd yn hynny, mae'r canllawiau hyn yn parhau i fod mewn grym.

Cyflwyniad

Mae trefniadau ar gyfer cynllunio a sicrhau lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol wedi newid fel rhan o’r diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol (ADY). Mae’r canllawiau hyn yn darparu gwybodaeth i awdurdodau lleol am fecanweithiau ariannu ar gyfer lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol o fis Medi 2023.

Cynulleidfa

  • Awdurdodau lleol.
  • Sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol.

Cynulleidfa

Mae Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 (y Ddeddf ADY) a diwygiadau anghenion dysgu ychwanegol (ADY) ehangach yn creu system unedig ar gyfer cynorthwyo plant a phobl ifanc rhwng 0 a 25 oed sydd ag ADY. Mae hyn yn trawsnewid y systemau ar wahân ar gyfer anghenion addysgol arbennig (AAA) (mewn ysgolion neu unedau cyfeirio disgyblion, ac ar gyfer plant nad ydynt wedi’u cofrestru mewn ysgol nac uned cyfeirio disgyblion) ac anawsterau a (neu) anableddau dysgu (AAD) ym maes addysg bellach. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yng Nghod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY). Mae Anghenion dysgu ychwanegol: pecyn cymorth rhieni a gofalwyr yn helpu rhieni a gofalwyr i ddeall y system ADY yng Nghymru.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am ariannu lleoliadau ar gyfer pobl ifanc 16 i 25 oed sydd ag anawsterau dysgu ac sydd angen mynediad at ddarpariaeth arbenigol. Mae’r sefyllfa hon wedi newid fel rhan o’r system ADY. Yr awdurdodau lleol sydd bellach yn gyfrifol am wneud penderfyniadau am leoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol ar gyfer pobl ifanc o dan y system ADY. Nod y newid hwn yw sicrhau bod awdurdodau lleol, sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau hyn, yn gallu cydweithio â phartneriaid amrywiol i ddatblygu a chryfhau darpariaeth ADY arbenigol ôl-16.

Mae’r canllawiau hyn yn nodi trefniadau dros dro ar gyfer cyllid i alluogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau ar gyfer person ifanc sydd wedi symud i’r system ADY, a lle mae awdurdodau lleol wedi penderfynu sicrhau lleoliad ar gyfer y person ifanc mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol.

Mae’r trefniadau a amlinellir yn y canllawiau yn berthnasol i leoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol o fis Medi 2023 ar gyfer pobl ifanc sydd wedi symud i’r system ADY. Bydd y trefniadau hyn yn parhau i fod yn berthnasol i leoliadau sydd wedi’u sicrhau o dan y trefniadau hyn nes bod y lleoliadau wedi’u cwblhau. Rydym yn rhagweld y bydd cyllid yn cael ei drosglwyddo’n llawn i awdurdodau lleol erbyn mis Mawrth 2028.

Bydd y trefniadau dros dro hyn yn galluogi Llywodraeth Cymru i weithio’n agos gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill trwy gydol y cyfnod hwn er mwyn sicrhau bod y trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno yn effeithiol a’u bod yn cyd-fynd yn llawn â’r egwyddorion sy’n sylfaen i’r Cod ADY.

Ceir manylion llawn am ddyletswyddau awdurdodau lleol mewn perthynas ag addysg ôl-statudol yn y Cod ADY.

Anogir awdurdodau lleol i ystyried yr ystod lawn o ddarpariaeth sydd ar gael wrth gynllunio i ddiwallu anghenion pobl ifanc ag ADY. Lle bo hynny’n briodol, gall opsiynau lleol gefnogi cynhwysiant a chynnal parhad i ddysgwyr. Anogir awdurdodau lleol i weithio gyda phartneriaid lleol, megis sefydliadau addysg bellach a darparwyr hyfforddiant, i ddatblygu darpariaeth leol sy’n diwallu anghenion pobl ifanc. Mae sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol yn parhau i fod yn rhan bwysig o’r dirwedd addysg, ond dylid eu hystyried ochr yn ochr ag ystod eang o lwybrau addas, a allai ddiwallu anghenion dysgwyr yn effeithiol.

Cynlluniau datblygu unigol

Fel rhan o’r Ddeddf ADY, yn gyffredinol bydd gan bob plentyn a pherson ifanc sydd ag ADY, waeth beth fo difrifoldeb neu gymhlethdod ei AAD, yr hawl i gael cynllun cymorth statudol a elwir yn ‘cynllun datblygu unigol’ (CDU). Mae CDU yn ddogfen sy’n cynnwys disgrifiad o ADY plentyn neu berson ifanc a’r ddarpariaeth ddysgu ychwanegol (DDdY) sydd ei hangen oherwydd AAD y plentyn neu’r person ifanc. 

Ceir manylion llawn am gynnwys CDU a chyfrifoldebau am lunio, cynnal, adolygu a diwygio CDU yn y Cod ADY.

Yr amserlen

Dechreuodd y Ddeddf ADY gael ei gweithredu ym mis Medi 2021, a symudwyd plant a phobl ifanc yn raddol o’r system AAA i’r system ADY. Yn hytrach na newid ar raddfa fawr, mabwysiadwyd dull ‘llif drwodd’, a symudodd pobl ifanc yn raddol i’r system ADY. O fis Medi 2025 symudodd yr holl bobl ifanc i’r system ADY. 

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol wneud penderfyniadau am leoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol a sicrhau lleoliadau o’r fath ar gyfer pobl ifanc sydd wedi symud i’r system ADY. Mae manylion llawn am rôl yr awdurdod lleol mewn perthynas â’r lleoliadau hyn ar gael yn y Cod ADY. 

Nid yw’r canllawiau hyn yn effeithio ar leoliadau i bobl ifanc sydd â lleoliadau a sicrhawyd ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu lleoliadau yn uniongyrchol ar gyfer pobl ifanc a sicrhawyd gan Lywodraeth Cymru nes iddynt gwblhau eu rhaglenni astudio.

Lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol

Mae’r Cod ADY yn cynnwys manylion cyfrifoldebau awdurdodau lleol mewn perthynas â lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol. Dylai awdurdodau lleol gyfeirio at y Cod ADY i gael rhagor o fanylion am y broses o wneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol.

Y man cychwyn yw bod gan berson ifanc hawl i gael hyd at ddwy flynedd o addysg bellach neu hyfforddiant. Y tu hwnt i hynny, gall awdurdod lleol benderfynu bod gan berson ifanc anghenion rhesymol am addysg neu hyfforddiant mewn amgylchiadau penodol. Fel y nodir yn y Cod ADY, rhaid i unrhyw leoliadau a ariennir gan y trefniadau hyn fod mewn sefydliadau sydd wedi’u cynnwys yn Rhestr Llywodraeth Cymru o Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol. Bydd y rhestr hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd er mwyn adlewyrchu’r sefyllfa ddiweddaraf.

Trefniadau ariannol

Mae cyllid ar gyfer lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol ar gael i awdurdodau lleol trwy Grant Addysg Awdurdodau Lleol. Trefniadau dros dro yw’r rhain hyd nes y bydd cyllid wedi’i drosglwyddo’n llawn i awdurdodau lleol, ac rydym yn rhagweld y bydd y broses hon wedi’i chwblhau erbyn mis Mawrth 2028.

Fel rhan o’u gwaith o wneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol, mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gytuno ar gostau, telerau ac amodau ar gyfer pob lleoliad gyda’r sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol perthnasol, yn ogystal â rhaglen astudio’r person ifanc, a sicrhau cyllid ar y cyd. Bydd Llywodraeth Cymru yn ei thro yn ad-dalu awdurdodau lleol am gostau elfen addysg y lleoliad trwy’r Grant Addysg Awdurdodau Lleol.

Mae cydweithredu ac integreiddio yn enghreifftiau o’r egwyddorion allweddol sy’n sylfaen i’r system ADY. Fel y nodir yn y Cod ADY, gallai awdurdodau lleol a chyrff y GIG ystyried trefniadau ariannu priodol ar y cyd. Dylai awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn defnyddio dull cydgysylltiedig yn fewnol o ariannu elfennau addysg a gofal cymdeithasol lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol. Dylai gwybodaeth sy’n cael ei darparu i Lywodraeth Cymru gynnwys manylion trefniadau ariannu ar y cyd.

Mae dyraniadau grant yn adlewyrchu natur seiliedig ar alw lleoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol, ac maent yn seiliedig ar wybodaeth sy’n cael ei darparu i Lywodraeth Cymru gan awdurdodau lleol. Mae trefniadau hefyd yn caniatáu i awdurdodau lleol hysbysu Llywodraeth Cymru am newidiadau i gostau pan fydd lleoliad wedi cychwyn, er enghraifft os oes unrhyw newidiadau wedi’u cytuno mewn perthynas â chymorth yn ystod y flwyddyn.

Trefniadau adrodd

Wrth i waith yr awdurdodau lleol o wneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau fynd rhagddo, mae’n ofynnol iddynt ddarparu diweddariadau chwarterol i Lywodraeth Cymru yn crynhoi eu dealltwriaeth ddiweddaraf o leoliadau mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol. Bydd Llywodraeth Cymru yn darparu ffurflen at ddibenion darparu’r diweddariadau hyn. Bydd y diweddariadau hyn yn cynnwys:

  • manylion pob lleoliad mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol a ragwelir neu a gadarnhawyd 
  • statws pob lleoliad, hynny yw lleoliad sy’n cael ei ragweld, lleoliad sydd wedi’i sicrhau, lleoliad sydd wedi cychwyn neu leoliad sydd wedi’i gwblhau
  • costau pob lleoliad, hynny yw costau a ragwelir, costau wedi’u cadarnhau neu gostau gwirioneddol, gan gynnwys manylion unrhyw drefniadau ariannu ar y cyd
  • crynodeb byr o’r rhaglen astudio (gan gynnwys unrhyw newidiadau i’r rhaglen astudio y cytunwyd arni os yw’n berthnasol)
  • manylion absenoldebau (tymor byr neu hirdymor) neu bobl yn tynnu’n ôl o leoliadau

Gall Llywodraeth Cymru ofyn am ragor o wybodaeth i gefnogi ceisiadau awdurdodau lleol am gyllid.

Defnyddir yr wybodaeth hon i gyfrifo dyraniadau grant, ac at ddibenion cynllunio a monitro yn ogystal â gweithredu fel tystiolaeth i gefnogi ceisiadau am gyllid i Lywodraeth Cymru gan awdurdodau lleol. Nid proses ymgeisio yw hon. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am gyflawni eu dyletswyddau yn unol â’r hyn a nodir yn y Cod ADY, sy’n cynnwys gwneud penderfyniadau a sicrhau lleoliadau ar gyfer pobl ifanc lle bo hynny’n berthnasol. 

Gwneud penderfyniadau ynghylch lleoliad mewn sefydliadau ôl-16 arbennig annibynnol

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am sefydlu prosesau i’w galluogi i gyflawni eu dyletswyddau fel y nodir yn y Cod ADY wrth ystyried a ddylai person ifanc gael ei leoli mewn sefydliad ôl-16 arbennig annibynnol. Dylai’r prosesau hyn adlewyrchu’r pum egwyddor sy’n sail i’r Ddeddf ADY fel y’u nodir ym Mhennod 3 o’r Cod ADY, a sicrhau bod y rhanddeiliaid priodol yn cael eu cynnwys wrth lywio’r broses benderfynu hon.

Cwestiynau

Dylid anfon unrhyw ymholiadau am y canllawiau hyn i Post16ALN@llyw.cymru.