Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau ymchwil a wnaed gan grŵp o ymchwilwyr i ystyried sut y gellid gwella cymorth yn y dyfodol i blant yr effeithir arnynt gan riant yn y carchar yng Nghymru.

Amcanion yr ymchwil hon oedd ystyried pa arferion sy'n bodoli i roi cymorth i blant yng Nghymru sydd â rhiant yn y carchar, i ba raddau y maent yn cynrychioli arfer da a beth fyddai angen ei ystyried wrth geisio datblygu model cymorth cenedlaethol. Roedd gan yr ymchwil ddiddordeb arbennig yn y rôl y gallai ysgolion ei chwarae i gefnogi plant sydd â rhiant yn y carchar.

Trefnwyd canfyddiadau'r ymchwil o amgylch naw prif thema:

  1. Dull hawliau plant seiliedig ar gryfderau
  2. Polisi ac adnoddau
  3. Mynediad canolog at wybodaeth ac adnoddau
  4. Gwaith aml-asiantaethol
  5. Hyfforddiant
  6. Nodi plant mewn modd sensitif
  7. Cynnwys pob plentyn
  8. Diogelu
  9. Monitro a gwerthuso

Dylid ystyried y themâu hyn wrth ddatblygu cefnogaeth ar draws Cymru gyfan yn y dyfodol.

Cyswllt

Tom Cartwright

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 03000 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.