Sut i ofyn i'ch canolfan wirfoddoli leol am help yn ystod y pandemig coronafirus.
Cynnwys
Trosolwg
Mae rhai pobl yn arbennig o agored i niwed ar hyn o bryd, er enghraifft:
- pobl sydd mewn mwy o berygl neu'n 'eithriadol o agored i niwed' yn sgil y coronafeirws (COVID-19)
- pobl sydd dan anfantais lle mae hyn wedi'i wneud yn waeth oherwydd coronafeirws
- pobl sydd ag incwm isel a allai gael anhawster i brynu digon o fwyd neu dalu biliau
Bosib fod angen help ychwanegol ar bobl sy'n agored i niwed, er enghraifft i gael bwyd neu feddyginiaethau neu anghenion eraill. Efallai gall ffrindiau, teulu neu gymdogion helpu.
Os nad oes gennych unrhyw un i’ch helpu, efallai y gallwch gael cymorth gan eich awdurdod lleol neu grwpiau gwirfoddol.