Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych symptomau haint anadlol neu os ydych wedi profi’n bositif am COVID-19.
Cynnwys
Amddiffyn eich hun rhag heintiau anadlol
Mae heintiau anadlol yn cylchredeg drwy gydol y flwyddyn ac yn rhan o fywyd bob dydd. Bellach, mae COVID-19 yn un o nifer o heintiau anadlol sy’n parhau i effeithio ar bobl.
Gall lledaeniad yr heintiau hyn newid dros amser. Gall hyn ddigwydd yn y DU a ledled y byd.
Gall heintiau anadlol ledaenu drwy’r aer, naill ai fel gronynnau aerosol mân sy’n gallu aros yn yr aer am beth amser, neu fel defnynnau sy’n teithio pellteroedd byr ac sy’n gallu glanio ar arwynebau. Maent hefyd yn gallu lledaenu drwy gysylltiad uniongyrchol â rhywun sydd wedi’i heintio neu drwy gyffwrdd arwynebau halogedig. Mae’r risg yn uwch mewn mannau dan do gorlawn, ardaloedd wedi’u hawyru’n wael, neu leoliadau lle mae pobl yn agos at ei gilydd am gyfnodau hirach. Mae’r risg hefyd yn uwch pan fo pobl yn anadlu’n drwm, er enghraifft wrth wneud ymarfer corff, canu, gweiddi, peswch neu disian.
Mae brechu yn lleihau’r risg o broblemau iechyd difrifol yn sgil heintiau anadlol. Mae camau gweithredu dyddiol syml hefyd yn helpu i leihau lledaeniad heintiau. Mae’r camau hyn yn amddiffyn unigolion, teuluoedd a chymunedau ac yn helpu i gynnal gwasanaethau.
Mae mesurau diogelu cyffredinol yn cynnwys y canlynol:
- cael eich brechu os ydych chi’n gymwys
- aros gartref os ydych chi’n sâl a chyfyngu ar eich cyswllt ag eraill
- golchi dwylo’n dda ac yn rheolaidd
- gwisgo masg wyneb mewn mannau o dan do gorlawn, gan gynnwys mewn lleoliadau iechyd a gofal
- cwrdd ag eraill yn yr awyr agored pan fo modd gwneud hynny
- gwella’r awyru dan do drwy adael awyr iach i mewn
Lleihau’r risg o heintiau anadlol
Brechu
Mae brechu yn helpu i leihau’r risg o broblemau iechyd difrifol yn sgil feirysau anadlol. Os ydych chi’n gymwys, ewch i’ch apwyntiad pan fyddwch chi’n cael eich gwahodd i gael brechiad. Gall brechu barhau i gynyddu eich amddiffyniad, hyd yn oed os ydych chi wedi cael heintiau anadlol yn flaenorol.
Hylendid dwylo da
Mae golchi’ch dwylo â dŵr a sebon, neu ddefnyddio hylif diheintio dwylo pan fo angen, yn helpu i leihau lledaeniad feirysau. Golchwch eich dwylo ar ôl peswch, tisian neu chwythu’ch trwyn, a chyn bwyta neu baratoi bwyd.
Cwrdd ag eraill yn yr awyr agored
Mae cwrdd ag eraill yn yr awyr agored yn fwy diogel na chwrdd o dan do gan fod y risg o haint yn llai. Mae feirysau yn lledaenu drwy’r aer pan fyddwn ni’n anadlu ac yn siarad. Mae’r risg yn cynyddu pan fyddwn ni’n chwerthin, yn gweiddi neu’n gwneud ymarfer corff. Mae gwneud y gweithgareddau hyn yn yr awyr agored yn chwalu’r gronynnau heintus ac yn lleihau lledaeniad.
Symptomau heintiau anadlol
Gall heintiau anadlol ledaenu rhwng pobl. Mae bod yn ymwybodol o’r symptomau yn helpu i leihau lledaeniad heintiau.
Gall symptomau gynnwys:
- peswch cyson
- tymheredd uchel, twymyn neu deimlo’n oer
- colli eich synnwyr o flas neu arogl arferol, neu sylwi ar newid ynddo
- bod yn fyr eich anadl
- teimlo’n flinedig, neu’n ddi-egni heb esboniad
- dolur yn y cyhyrau neu boenau nad ydynt yn gysylltiedig â gwneud ymarfer corff
- dim awydd bwyta neu golli archwaeth bwyd
- cur pen / pen tost sy’n anarferol neu sy’n para mwy o amser na’r arfer
- llwnc tost / dolur gwddf, y trwyn yn llawn neu’n rhedeg
- dolur rhydd
- chwydu neu’n teimlo fel chwydu
Beth ddylech chi ei wneud os oes gennych symptomau haint anadlol
- Dylech gael digon o orffwys ac yfed digon o ddŵr.
- Defnyddiwch feddyginiaethau fel paracetamol i helpu gyda symptomau. Nid yw defnyddio gwrthfiotigau yn cael ei argymell ar gyfer heintiau anadlol feirysol. Mae hyn oherwydd na fyddant yn lleddfu symptomau nac yn eich helpu i wella’n gynt.
- Arhoswch gartref ac osgoi dod i gysylltiad ag eraill nes na fydd gennych dymheredd uchel mwyach neu nes y byddwch chi’n teimlo’n well.
- Dylech weithio gartref pan fo modd gwneud hynny. Os na allwch chi weithio gartref, siaradwch â’ch cyflogwr am yr opsiynau posibl.
- Os oes angen ichi fynd i apwyntiad meddygol neu ddeintyddol wyneb yn wyneb, rhowch wybod iddyn nhw am eich symptomau.
- Dywedwch wrth bobl rydych chi wedi bod mewn cysylltiad â nhw’n ddiweddar eich bod chi’n teimlo’n sâl. Mae hyn yn golygu y gallan nhw gadw golwg am arwyddion neu symptomau.
- Os ydych chi’n pryderu am eich symptomau, os ydynt yn gwaethygu, neu os na allwch chi ymdopi gartref, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu wasanaeth 111 y GIG. Mewn argyfwng, ffoniwch 999.
Os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon da i fynd i’r gwaith, dylech ddweud wrth eich cyflogwr. Efallai y bydd ei bolisi absenoldeb salwch neu absenoldeb arbennig yn gymwys i chi. Os na allwch chi gael tâl salwch gan eich cyflogwr, efallai y byddwch chi’n gallu cael Tâl Salwch Statudol o bedwerydd diwrnod eich absenoldeb salwch ymlaen. Mae rhagor o wybodaeth am y Tâl Salwch Statudol ar gael ar wefan gov.uk.
Os oes rhaid ichi adael eich cartref pan fyddwch chi’n sâl
Gwnewch y camau a ganlyn i leihau’r risg o drosglwyddo’r haint i eraill:
- ystyriwch wisgo masg wyneb sy’n ffitio’n dda
- dylech chi osgoi mannau gorlawn fel trafnidiaeth gyhoeddus neu gynulliadau cymdeithasol mawr
- dylech chi osgoi lleoedd lle y bydd pobl a allai wynebu risg uwch o salwch difrifol, fel ysbytai a chartrefi gofal
- gwnewch ymarfer corff yn yr awyr agored, mewn mannau lle na fydd llawer o gysylltiad ag eraill
- gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn pan fyddwch chi’n peswch neu disian
- golchwch eich dwylo’n rheolaidd â dŵr a sebon, neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo, yn arbennig ar ôl peswch, tisian neu chwythu’ch trwyn
- dylech chi osgoi cyffwrdd eich wyneb lle bo modd
Sut i leihau lledaeniad heintiau anadlol yn eich cartref
Os oes gennych haint anadlol, mae pethau y gallwch chi eu gwneud i leihau’r risg o’i ledaenu yn eich cartref.
- cadwch eich pellter oddi wrth eraill lle bo modd
- pan fo’n ddiogel gwneud hynny, agorwch ffenestri i wella’r awyru am o leiaf 10 munud ar ôl gadael ystafell
- golchwch eich dwylo’n rheolaidd a gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn wrth beswch neu disian
- dylech lanhau yn rheolaidd arwynebau sy’n cael eu cyffwrdd yn aml. Mae hyn yn arbennig o bwysig os ydych chi’n byw gyda rhywun sydd â chyflyrau iechyd cronig neu sydd â system imiwnedd wan.
- gwisgwch fasg wyneb sy’n ffitio’n dda os oes gan rywun yn y cartref gyflwr iechyd hirdymor neu system imiwnedd wan
- dywedwch wrth unrhyw un sydd angen dod i mewn i’ch cartref fod gennych symptomau fel y gallant amddiffyn eu hunain
Beth ddylech chi ei wneud os ydych chi’n gyswllt agos i rywun â haint anadlol
Mae byw gyda rhywun sydd â haint anadlol, neu aros gyda nhw dros nos, yn cynyddu’r risg.
Os ydych chi’n gyswllt agos:
- byddwch yn effro i symptomau heintiau anadlol ac arhoswch gartref os byddwch chi’n datblygu unrhyw un ohonynt
- dylech osgoi dod i gysylltiad â phobl sy’n wynebu risg uwch o salwch difrifol, lle bo modd
- gweithiwch gartref pan fo modd ichi wneud hynny
- dylech gyfyngu ar ddod i gysylltiad agos â phobl eraill o dan do
- ystyriwch wisgo masg wyneb sy’n ffitio’n dda mewn mannau gorlawn neu fannau caeëdig
- golchwch eich dwylo yn rheolaidd â dŵr a sebon neu defnyddiwch hylif diheintio dwylo
Os byddwch chi’n datblygu symptomau, arhoswch gartref, ceisiwch osgoi dod i gysylltiad ag eraill, a dilynwch y canllawiau ar heintiau anadlol.
Os ydych chi’n gyswllt agos ond nad ydych chi’n byw gyda’r person neu’n aros yn ei gartref dros nos, mae eich risg yn is. Cadwch olwg am symptomau a dilynwch y canllawiau os byddwch chi’n mynd yn sâl.
Plant a phobl ifanc 18 oed ac iau sydd â symptomau haint anadlol
Mae heintiau anadlol yn gyffredin ymhlith plant, yn arbennig yn ystod misoedd y gaeaf.
I’r mwyafrif o blant a phobl ifanc, ni fydd yr heintiau hyn yn rhai difrifol. Ychydig iawn ohonynt sy’n mynd yn ddifrifol wael. Mae hyn hefyd yn wir ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â chyflyrau hirdymor. Gall rhai plant o dan 2 oed fynd yn ddifrifol wael o ganlyniad i gyflwr anadlol o’r enw y feirws syncytiol anadlol (RSV). Mae hyn yn cynnwys y rhai a anwyd yn gynnar neu’r rhai a anwyd â chyflwr ar y galon.
Mae addysg yn bwysig i ddatblygiad, iechyd a llesiant plant a phobl ifanc. Ni ddylid diystyru effaith hirdymor colli addysg.
Fel arfer, gall plant â symptomau ysgafn barhau i fynd i’w lleoliad addysg. Mae symptomau ysgafn yn cynnwys y trwyn yn rhedeg, llwnc tost / dolur gwddf neu beswch ysgafn. Dylech chi eu hannog i orchuddio eu ceg a’u trwyn â hances bapur pan fyddant yn pesychu neu disian. Dylent olchi eu dwylo ar ôl defnyddio hancesi papur a’u taflu.
Dylai plant a phobl ifanc sy’n sâl ac sydd â thymheredd uchel aros gartref. Dylent osgoi dod i gysylltiad â phobl lle bo modd. Gallant fynd yn ôl i’w lleoliad addysg pan nad oes ganddynt dymheredd uchel mwyach a’u bod yn ddigon iach i wneud hynny.
Gall fod yn anodd gwybod pryd i ofyn am gymorth pan fo’ch plentyn yn sâl. Os ydych chi’n poeni am eich plentyn, yn arbennig os yw o dan 2 oed, ceisiwch gymorth meddygol.
Darganfyddwch a ydych chi’n gymwys i gael triniaethau COVID-19
Mae pobl sy’n wynebu risg uwch yn sgil COVID-19 yn benodol yn gymwys i gael triniaeth COVID-19 gartref. Brechu yw’r ffordd fwyaf effeithiol o hyd ar gyfer diogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Mae brechu yn diogelu pobl rhag salwch difrifol yn sgil COVID-19. Mae’r rhan fwyaf o bobl bellach yn wynebu llai o risg o salwch difrifol ac nid oes angen triniaeth gwrthfeirol arnynt. Mae’n bosibl y bydd rhai pobl risg uchel yn parhau i gael triniaeth.
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau pellach ar gael gafael ar driniaeth ar ein tudalen triniaethau COVID-19.
Cymorth gan Gyflogwyr
Os nad ydych chi’n teimlo’n ddigon da i fynd i’r gwaith, dylech ddweud wrth eich cyflogwr. Efallai y bydd ei bolisi absenoldeb salwch neu absenoldeb arbennig yn gymwys i chi.
Os na allwch chi gael tâl salwch gan eich cyflogwr, efallai y byddwch chi’n gallu cael Tâl Salwch Statudol o bedwerydd diwrnod eich absenoldeb salwch ymlaen.
Mae rhagor o wybodaeth am y Tâl Salwch Statudol (SSP) ar gael ar wefan gov.uk.
