Neidio i'r prif gynnwy

A ydych chi’n gymwys i gael triniaethau COVID-19.

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Rhagfyr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cleifion y GIG sy’n wynebu risg uwch yn sgil COVID-19 yn gymwys i gael triniaeth gartref.

Brechu yw’r ffordd fwyaf effeithiol o ddiogelu’r rheini sydd fwyaf agored i niwed. Mae brechu yn diogelu pobl rhag salwch yn sgil COVID-19. Golyga hyn bod llai o risg o lawer erbyn hyn y bydd pobl yn dioddef salwch difrifol, ac na fyddant yn elwa o driniaethau gwrthfeirol.

Gall rhai pobl gael triniaethau gwrthfeirol os ydynt yn parhau i wynebu risg uchel o gael COVID-19 yn ddifrifol.

Triniaeth COVID-19 i bobl sydd â risg uchel o gael COVID-19 yn ddifrifol

Mae'n bosibl y gall pobl sydd â risg uchel o fod yn ddifrifol sâl yn sgil COVID-19 dderbyn triniaeth gartref.

Mae’r grŵp risg uchaf yn cynnwys pobl sydd â’r cyflyrau canlynol:

  • anhwylderau cromosomaidd sy’n effeithio ar y system imiwnedd, gan gynnwys syndrom Down
  • mathau penodol o ganser, neu wedi cael tynnu canser yn y 12 mis diwethaf
  • wedi cael naill ai radiotherapi neu gemotherapi yn y 12 mis diwethaf
  • clefyd y crymangelloedd
  • cyflyrau penodol sy’n effeithio ar y gwaed, neu wedi cael trawsblaniad bôn-gelloedd haematolegol
  • clefyd cronig yn yr arennau (CKD) cam 4 neu 5
  • clefyd difrifol yr afu
  • wedi cael trawsblaniad organ
  • rhai clefydau awto-imiwn neu gyflyrau llidiol y mae angen meddyginiaeth benodol ar eu cyfer fel:
    • arthritis gwynegol
    • clefyd llid y coluddyn
  • HIV neu AIDS
  • cyflwr niwrolegol prin fel:
    • sglerosis ymledol
    • clefyd Huntington
    • clefyd niwronau motor
    • myasthenia gravis
  • system imiwnedd wan naill ai oherwydd cyflwr neu feddyginiaethau penodol

Os ydych yn perthyn i’r grwpiau a restrir uchod, ac yn profi’n bositif ar gyfer COVID-19, gallech fod yn gymwys i gael triniaethau. Mae triniaethau’n helpu i reoli eich symptomau a lleihau’r risg o fynd yn sâl oherwydd COVID-19.

Os ydych yn cael canlyniad positif i brawf COVID-19, cewch eich asesu i weld a ydych yn gymwys i gael triniaeth.

Beth sydd angen i chi ei wneud i gael y driniaeth

Os ydych yn perthyn i un o’r grwpiau a restrir uchod, dylech gadw profion llif unffordd yn eich cartref. Gwybodaeth am sut i gael gafael ar brofion llif unffordd COVID-19.

Cymerwch brawf cyn gynted ag y byddwch yn cael symptomau COVID-19. Os yw eich prawf yn negatif ond bod eich symptomau’n parhau, dylech gymryd prawf arall y diwrnod wedyn (diwrnod 2). Os yw’n parhau’n negatif, gwnewch brawf arall ar ddiwrnod 3. Os yw eich profion ar ddiwrnodau 2 a 3 yn negatif, mae’n annhebygol bod COVID-19 arnoch.

Beth ddylech chi ei wneud os byddwch yn profi’n bositif am COVID-19?

Os ydych yn perthyn i un o'r grwpiau uchod ac rydych yn gymwys i gael triniaeth, dylech gysylltu â'ch meddyg teulu a dweud:

  • bod gennych symptomau COVID-19
  • eich bod wedi profi’n bositif am COVID-19
  • eich bod chi'n credu eich bod yn perthyn i'r grŵp risg uchaf ac yn gymwys i gael triniaeth

Bydd eich meddyg teulu yn gallu asesu eich symptomau ac, os yw'n briodol, bydd yn gallu rhagnodi meddyginiaethau gwrthfeirol i chi. Os oes gennych unrhyw wrtharwyddion i driniaeth wrthfeirol, efallai y bydd yn eich atgyfeirio i'r ysbyty ar gyfer math arall o therapi (sotrovimab) y mae angen ei roi drwy bigiad yn yr ysbyty.

Pa driniaethau sydd ar gael?

Triniaethau gwrthfeirysol

  • Paxlovid (nirmatrelvir a ritonavir) 3 tabled, ddwywaith y dydd am 5 diwrnod. Gall y dos amrywio ar gyfer rhai unigolion, felly cofiwch ofyn i weithiwr iechyd proffesiynol os nad ydych yn siŵr.
  • Efallai y bydd rhai pobl nad yw Paxlovid yn addas ar eu cyfer yn cael cynnig triniaeth gyda Xevudy (sotrovimab). Drip sy'n cael ei roi drwy’r fraich (trwytho) mewn un apwyntiad, fel arfer yn yr ysbyty.
  • Ar gyfer rhai pobl, ni fydd Paxlovid na Xevudy yn addas ar eu cyfer, felly cynigir Lagevrio (molnupiravir) 4 capsiwl, ddwywaith y dydd am 5 diwrnod.

Rhagor o wybodaeth

Rhagor o wybodaeth am driniaethau COVID-19.

Gwasanaethau Gwrthfeirysol ledled Cymru – Gwasanaeth Cyngor ar Feddyginiaethau Cymru

Cael cymorth neu gyngor wrth gael triniaeth

Dylech gysylltu â’ch meddygfa, clinig arbenigol neu GIG 111 os ydych, yn ystod eich triniaeth, yn:

  • parhau i deimlo’n sâl
  • teimlo bod eich symptomau’n gwaethygu

Beth ddylech chi ei wneud os ydych wedi gwrthod triniaeth, ond bellach yn dymuno cael triniaeth ar gyfer COVID-19?

Os hoffech gael triniaeth COVID-19 nawr, ffoniwch eich meddygfa a byddant yn gallu rhoi’r arweiniad addas i chi.

Os ydych yn byw mewn cartref gofal

Os ydych yn byw mewn cartref gofal a bod gennych symptomau COVID-19, dylai aelod o staff drefnu bod eich bwrdd iechyd yn cynnal math arall o brawf. Bydd hyn yn penderfynu a oes gennych COVID-19 neu salwch anadlol arall fel y ffliw. Os byddwch yn profi'n bositif, bydd staff y bwrdd iechyd sy'n cynnal y prawf wedyn yn trefnu i chi gael eich asesu ar gyfer triniaeth.