Neidio i'r prif gynnwy

Rydych yn derbyn y Nodiadau Canllaw hyn gan fod ein cwsmer cyffredin wedi eich enwebu i gwblhau Prisiad y Farchnad o eiddo lle mae benthyciad rhannu ecwiti Cymorth i Brynu – Cymru wedi'i ddal ar yr eiddo.

Mae'n ofynnol i chi roi prisiad marchnad presennol (wedi'i sefydlu yn unol â safonau prisio presennol RICS) o'r eiddo ac i ystyried bodolaeth unrhyw gladin allanol.

O dan delerau benthyciad rhannu ecwiti Cymorth i Brynu – Cymru, mae eich apwyntiad wedi'i wneud gan berchennog a meddiannydd presennol yr eiddo er mwyn sefydlu'r prisiad marchnad presennol i alluogi ad-daliad o'r benthyciad rhannu ecwiti.

Cymwysterau

Prisiwr – golyga hyn brisiwr cymwys annibynnol sydd wedi'i benodi rhwng y partïon neu, os nad oes cytundeb, gan neu ar ran llywydd Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig ar y pryd (neu swyddog dynodedig arall) ar gais naill barti, cyhyd â, thrwy wneud ei enwebiad, fod y Llywydd yn dewis syrfëwr annibynnol sydd wedi bod yn gymwys am o leiaf 10 mlynedd ac sy'n arbenigo mewn prisio eiddo preswyl yn ardal yr Eiddo a bod ganddo brofiad o wneud hyn.

Dogfennau Gofynnol

Cyn eich prisiad, mae'n rhaid i chi gael y dogfennau canlynol gan y cwsmer:

  • Copi o ffurflen EWS1 wedi'i chwblhau (os ydyw ar gael)
  • Copi o Les Eiddo y cwsmer
  • Unrhyw ragamcanion mae'r cwsmer wedi'u derbyn ynghylch costau unrhyw waith adfer;
  • Tystiolaeth o swm y gronfa ad-dalu tâl gwasanaeth;
  • Unrhyw ddogfennau mewn perthynas â derbyn yswiriant adeilad neu hawliad Gwarantiad Adeilad
  • Unrhyw ddogfennau mewn perthynas ag unrhyw drydydd parti (megis y datblygwr gwreiddiol) yn cytuno i dalu am y costau adfer.

Sail y prisiad

Mae'n ofynnol i chi ddarparu Prisiad y Farchnad presennol (a sefydlir yn unol â safonau prisio presennol RICS) o'r eiddo ac i ystyried bodolaeth unrhyw gladin allanol.

Gwerth ar y Farchnad – mae hyn yn golygu'r pris (wedi'i bennu'n unol â Safonau Prisio Sefydliad Brenhinol y Syrfewyr Siartredig) lle byddai gwerthiant yr eiddo wedi cael ei gwblhau'n ddiamod ar sail arian parod ar y dyddiad y prisiwyd yr Eiddo ar hyd braich.

Wrth lunio eich prisiad, mae'n rhaid i chi hefyd ystyried bodolaeth unrhyw gladin allanol a'r dogfennau gofynnol a'u heffaith ar werth yr Eiddo ar y farchnad.

Mae'n rhaid i chi hefyd ystyried:

  • costau amcangyfrifiedig unrhyw waith adfer, ond mewn achosion lle mae costau adfer wedi'u hamlinellu gan Asesydd Risgiau Tân;
  • cyfrifoldeb dros y costau hyn, lle mae hyn eisoes wedi'i ddiffinio;
  • p'un a oes unrhyw hawliad am y gwaith adfer wedi’u derbyn;
  • p'un a yw'r arian gofynnol eisoes ar gael yn y gronfa ad-dalu tâl gwasanaeth.

Yr Adroddiad Prisiad

  • Mae'n rhaid i chi arolygu tu mewn yr Eiddo a darparu adroddiad prisiad llawn.
  • Gwerth ar y farchnad (nid at ddibenion morgais)
  • Cynnwys Enw(au) y Cwsmer(iaid)
  • Cyfeiriad llawn yr eiddo
  • Dyddiad yr arolygiad
  • Isafswm o dri gwerthiant cymaradwy o eiddo tebyg o fewn yr ardal cod post a werthwyd yn y chwe mis diwethaf, yr un peth o ran math, maint ac oedran yr eiddo (Os nad ydyw ar gael, rhowch y gorau sydd ar gael a chadarnhau hyn yn yr adroddiad)
  • Dim gwrthdaro buddiannau yn hysbys i'r cwsmer wedi'i gadarnhau yn yr adroddiad
  • Llofnodwyd (e-lofnod yn dderbyniol) gan gynnwys rhif RICS
  • Papur pennawd ac wedi'i ddarparu mewn dogfen na ellir ei haddasu (PDF)