Neidio i'r prif gynnwy

Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Ebrill 2020 i Fawrth 2022.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 2 Ionawr 2014 a 31 Mawrth 2022, cafodd 13,175 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio’r cynllun Cymorth i Brynu.
  • Prynwyr tro cyntaf oedd 76 y cant o’r rhain.
  • Cyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti dros y cyfnod hwn oedd £517.7 miliwn gyda gwerth y cartrefi a brynwyd yn dod i £2,619.7 miliwn.
  • Prynwyd cyfanswm o 1,208 o gartrefi yn defnyddio cynllun Cymorth i Brynu Cymru yn 2021-22.
  • Hyd yn hyn, y pris prynu cymedrig a dalwyd am yr holl bryniannau a gwblhawyd oedd £198,841 tra bo’r canolrif yn is, sef £193,500.
  • Yn ystod 2021-22, y pris prynu cymedrig a dalwyd oedd £227,438 a £230,997.50 oedd y canolrif.
  • Ers cychwyn y cynllun a hyd at 31 Mawrth 2022, aelwydydd ag incwm o rhwng £20,000 a £50,000 ar gyfartaledd sy’n gyfrifol am bron i dri chwarter (73%) o’r holl bryniannau a gwblhawyd.
  • Hyd yma, mae dros hanner (54%) o’r holl eiddo a brynwyd wedi bod yn eiddo â thair ystafell wely, ac roedd 47% yn aelwydydd yn cynnwys 2 oedolyn a dim plant.

Nodyn

Casglwyd y wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu – Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Adroddiadau

Cymorth i Brynu – Cymru (Cynllun Benthyciad Ecwiti a Rennir): Ebrill 2021 i Fawrth 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 773 KB

PDF
Saesneg yn unig
773 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.