Neidio i'r prif gynnwy

Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Ebrill i Fedi 2020.

Prif bwyntiau Ebrill i Mehefin 2020

  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2020, cafodd 172 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £34.8 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £6.9 miliwn.
  • £202,149 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £39,917 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2020, cafodd 16 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd. 

Prif bwyntiau Gorffennaf i Medi 2020

  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Mehefin 2020, cafodd 333 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
  • Daw hyn â’r cyfanswm o gartrefi a brynwyd o dan Cymorth i Brynu – Cymru i 10,985 ers ei gyflwyno ar 2 Ionawr 2014.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £73.1 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £14.5 miliwn.
  • Ar 30 Medi 2020, roedd 1,025 o geisiadau am fenthyciadau heb eu prosesu’n llawn.
  • £219,646 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £43,405 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2020, cafodd 15 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd. 
  • Prynwyr tro cyntaf oedd mwyafrif y bobl sydd wedi prynu drwy’r cynllun hyd yma, sy’n cynrychioli 75% o'r holl geisiadau a gwblhawyd.

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.