Neidio i'r prif gynnwy

Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Ebrill i Fehefin 2021.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2021, cafodd 511 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru; daw hyn â’r cyfanswm o gartrefi a’u prynwyd o dan Cymorth i Brynu - Cymru i 12,480 ers ei gyflwyniad ar 2 Ionawr 2014.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £118.2 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £23.3 miliwn.
  • Ar 30 Mehefin 2021, roedd 667 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • £231,233 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £45,524 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2021, cafodd 29 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd. 
  • Prynwyr tro cyntaf oedd mwyafrif y bobl sydd wedi prynu drwy’r cynllun hyd yma, sy’n cynrychioli 75% o'r holl geisiadau a gwblhawyd.

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.