Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n cynnwys gwybodaeth am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Ebrill i Mehefin 2019.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2019, cafodd 477 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau ecwiti a rennir Llywodraeth Cymru. Daw hyn â’r cyfanswm o gartrefi a’u prynwyd o dan Cymorth i Brynu – Cymru i 9,208  ers ei gyflwyniad ar 2 Ionawr 2014.
  • Dros y chwarter, cyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti yma oedd £19.8 miliwn. Gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £99.8 miliwn.
  • Ar 30 Mehefin 2019, roedd 733 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • £209,271 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd trwy’r cynllun yn ystod y chwarter, a £41,437 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2019, cafodd 42 annedd eiddo prydlesol eu prynu. Roedd pob un o’r rhain yn fflatiau.
  • Prynwyr tro cyntaf oedd mwyafrif y bobl a  brynodd trwy’r cynllun hyd yma,, sy’n cynrychioli 76% o'r holl gartrefi a gwblhawyd.

Nodyn

Casglwyd y wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Gymorth i Brynu - Cymru Cyf. Mae data misol yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru Mae'r wybodaeth a gyhoeddir ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdod lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.