Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Prif bwyntiau

  • Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 30 Mehefin 2025, cafodd 14,939 o gartrefi eu prynu o dan Gynllun Cymorth i Brynu Cymru.
  • Roedd dros dri chwarter o’r rhain yn brynwyr tro cyntaf ac roedd dros hanner yn gartrefi 3 ystafell wely.
  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2025, cafodd 159 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru.
  • Rhwng 1 Ebrill a 30 Mehefin 2025, cafodd 3 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd.
  • Ar 30 Mehefin 2025, roedd 121 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £41.9 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £8.3 miliwn.
  • £263,265 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £52,000 oedd gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.

Note

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Craig McLeod
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099