Neidio i'r prif gynnwy

Data am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Gorffennaf i Fedi 2019.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Gorffennaf i 30 Medi 2019, cafodd 386 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau ecwiti a rennir Llywodraeth Cymru. 
  • Daw hyn â’r cyfanswm o gartrefi a’u prynwyd o dan Cymorth i Brynu – Cymru i 9,592 ers ei gyflwyniad ar 2 Ionawr 2014.
  • Dros y chwarter, cyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti yma oedd £16.1 miliwn. Gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £81.3 miliwn.
  • Ar 30 Medi 2019, roedd 715 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • £210,668 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd trwy’r cynllun yn ystod y chwarter, a £41,698 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2019, cafodd 38 annedd eiddo prydlesol eu prynu. Roedd pob un o’r rhain yn fflatiau. 
  • Prynwyr tro cyntaf oedd mwyafrif y bobl a  brynodd trwy’r cynllun hyd yma, sy’n cynrychioli 76% o'r holl gartrefi a gwblhawyd.

Nodyn

Casglwyd y wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Gymorth i Brynu - Cymru Cyf. Mae data misol yn cael eu cyhoeddi ar StatsCymru Mae'r wybodaeth a gyhoeddir ar StatsCymru yn cynnwys data ar lefel awdurdod lleol.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.