Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Prif bwyntiau

  • Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 30 Medi 2025, cafodd 15,043 o gartrefi eu prynu o dan Gynllun Cymorth i Brynu Cymru.
  • Roedd dros dri chwarter o’r rhain yn brynwyr tro cyntaf.
  • Roedd dros hanner yn gartrefi 3 ystafell wely.
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2025, 83 eiddo yn cael eu prynu wedi'u cwblhau yn defnyddio benthyciad ecwiti a rennir Cymorth i Brynu Cymru gan Llywodraeth Cymru.
  • Rhwng 1 Gorffennaf a 30 Medi 2025, cafodd 2 eiddo lesddaliadol eu prynu, y ddau yn fflatiau.
  • Ar 30 Medi 2025, roedd 140 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £21.9 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £4.4 miliwn.
  • £264,335 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £53,000 oedd gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Manylion cyswllt

Ystadegau Tai
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099