Neidio i'r prif gynnwy

Data sy'n cynnwys gwybodaeth am y nifer o gartrefi a brynwyd a gwerth y benthyciadau a dderbyniwyd o dan cynllun ar gyfer Hydref i Rhagfyr 2018.

Prif bwyntiau

  • Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2018, cafodd 678 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau ecwiti a rennir Llywodraeth Cymru. Daw hyn â’r cyfanswm o gartrefi a’u prynwyd o dan Cymorth i Brynu – Cymru i 8,485  ers ei gyflwyniad ar 2 Ionawr 2014.
  • Dros y chwarter, cyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti yma oedd £26.8 miliwn. Gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £135.2 miliwn.
  • Ar 31 Rhagfyr 2018, roedd 547 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn.
  • £199,424 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd trwy’r cynllun yn ystod y chwarter, a £39,533 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti.
  • Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2018, cafodd 83 annedd eiddo prydlesol eu prynu. O’r rhain, dim ond 3 oedd yn dai, sydd yn sylweddol is na’r 40 yn y cyfnod cyfatebol y flwyddyn gynt.
  • Prynwyr tro cyntaf oedd mwyafrif y bobl a  brynodd trwy’r cynllun hyd yma,, sy’n cynrychioli 76% o'r holl gartrefi a gwblhawyd.

Nodi

Casglwyd y wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu (Cymru) Cyf.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.