Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Prif bwyntiau

Ers ei sefydlu ar 2 Ionawr 2014 i 31 Rhagfyr 2025, cafodd 15,163 o gartrefi eu prynu o dan Gynllun Cymorth i Brynu Cymru. 

Roedd dros dri chwarter o’r rhain yn brynwyr tro cyntaf.

Roedd dros hanner yn gartrefi 3 ystafell wely.

Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2025, cafodd 110 o gartrefi eu prynu gan ddefnyddio benthyciadau rhannu ecwiti Llywodraeth Cymru. 

Rhwng 1 Hydref a 31 Rhagfyr 2025, cafodd 5 eiddo lesddaliadol eu prynu, a fflatiau oeddent i gyd. 

Ar 31 Rhagfyr 2025, roedd 86 o geisiadau am fenthyciadau heb gael eu prosesi yn llawn. 

Yn ystod y chwarter hwn, cyfanswm gwerth y cartrefi a brynwyd oedd £29.6 miliwn a chyfanswm gwerth y benthyciadau ecwiti oedd £5.9 miliwn.

£269,341 oedd pris prynu cymedrig y cartrefi a brynwyd drwy’r cynllun yn ystod y chwarter hwn, a £53,000 oedd  gwerth cymedrig y benthyciad ecwiti. 

Nodyn

Casglwyd yr wybodaeth ar ran Llywodraeth Cymru gan Cymorth i Brynu - Cymru Cyf. Caiff gwybodaeth ar lefel llywodraeth leol ei chyhoeddi ar StatsCymru.

Manylion cyswllt

Ystadegau Tai
E-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099