Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn y gall ac na all prynwyr tai ei wneud fel rhan o’r cynllun benthyciadau ecwiti.

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ai dim ond ar gyfer adeiladau newydd y mae Cynllun Cymorth i Brynu – Cymru ar gael?

Dim ond trwy ddatblygwr sydd wedi'i gofrestru gyda ni y mae'r Cynllun ar gael i brynu cartrefi newydd.

Hoffwn brynu tŷ lesddaliad drwy'r Cynllun. A ddylwn i atal fy mhryniant?

Nid yw'r Cynllun ar gael ar gyfer prynu tai a werthir ar sail lesddaliad. Er, efallai y bydd yn bosibl prynu fflatiau a werthir ar sail lesddaliad o hyd.

A allaf is-osod cartref a brynwyd drwy'r Cynllun?

Rhaid i'ch eiddo fod yn unig breswylfa i chi hyd nes y byddwch wedi ad-dalu'r Morgais Ecwiti. Mae’n bosibl y byddwch yn dal i allu rhentu ystafell yn eich cartref, cyn belled â’ch bod hefyd yn parhau i breswylio yn yr eiddo.

Mae isosod yn cael ei ystyried mewn amgylchiadau eithriadol ac yn gyfyngedig i 12 mis. I ddeall mwy am hyn adolygwch y Canllaw Ôl-gwblhau neu cysylltwch â'n tîm trwy gyfrwng y manylion a ddarperir isod.

 

A allaf ymestyn neu newid fy eiddo a brynwyd drwy'r Cynllun?

Nid heb gael caniatâd yn gyntaf. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y rhoddir caniatâd ar gyfer gwelliannau cartref sylweddol. Byddwn yn ystyried eich sefyllfa bersonol, er enghraifft os oes angen addasiadau ar gyfer dibenion anabledd. Adolygwch y Canllaw Ôl-gwblhau neu cysylltwch â'n tîm.

A allaf drosglwyddo fy morgais arwystl cyntaf i fenthyciwr arall?

Gallwch, ond mae angen caniatâd arnoch i newid eich darparwr morgais (ail-forgais). Sicrhewch fod eich benthyciwr newydd yn fenthyciwr sy'n cymryd rhan yn y Cynllun (a restrir ar ein gwefan) a'i fod yn gwybod bod eich cartref yn eiddo a ariennir yn rhannol gan y Cynllun. Cysylltwch â ni i roi gwybod i ni am eich cynlluniau a gofyn am ffurflen gais.

Ni chaniateir benthyca ychwanegol oni bai eich bod yn ad-dalu’r Morgais Ecwiti yn rhannol a bod y benthyciad ychwanegol wedi’i gyfyngu i’r swm adbrynu.

Ar ôl prynu fy nghartref, a allaf gynyddu fy morgais neu gael benthyciad arall?

Dim ond mewn rhai amgylchiadau. Os cynyddwch eich morgais oherwydd eich bod am ad-dalu eich benthyciad Morgais Ecwiti a Rennir, yn rhannol neu’n llawn, bydd hyn fel arfer yn cael ei gymeradwyo. Fodd bynnag, bydd angen i ni ystyried cynnydd am resymau eraill. 

A oes modd ychwanegu neu newid enwau ar eiddo a brynir drwy'r Cynllun?

Gellir ystyried newid perchnogaeth mewn rhai amgylchiadau ac mae'n amodol i asesiad fforddiadwyedd. Efallai y byddwn yn ystyried parti sy'n dod i mewn neu'n gadael, ar yr amod bod un o'r ymgeiswyr gwreiddiol yn parhau i fod yno. I ddeall mwy am hyn, adolygwch y Canllaw Ôl-gwblhau neu cysylltwch â'n tîm.

Rheoli Eich Cyllid

Pwy sy'n talu am waith atgyweirio a chynnal a chadw parhaus i'm heiddo?

Eich cyfrifoldeb chi yw atgyweirio a chynnal a chadw eich cartref.

 

A fydd yn rhaid i mi dalu Treth Trafodiad Tir?

Mae rheolau a gweithdrefnau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer Treth Trafodiad Tir yn berthnasol i’r Cynllun. Mae hwn yn daladwy ar adeg prynu ac mae'n seiliedig ar bris prynu llawn y cartref.

A allaf gael cymorth gyda budd-daliadau i dalu ffioedd a llog y Cynllun, er enghraifft, os byddaf yn colli fy swydd?

Nid yw ffioedd a llog y Cynllun yn cael eu dosbarthu fel rhent. Felly, nid ydynt yn gymwys i gael budd-dal tai. Dylech sicrhau bod gennych drefniadau ar waith i dalu am daliadau'r Cynllun os bydd eich incwm yn newid. Dylech geisio cyngor ariannol annibynnol am hyn cyn prynu cartref drwy'r Cynllun. Os ydych eisoes yn rhan o’r Cynllun a bod eich amgylchiadau ariannol yn newid, rhaid i chi gysylltu â ni ar unwaith.

Beth fydd yn digwydd i'm cartref os byddaf yn marw ar ôl ei brynu drwy'r Cynllun?

Os prynoch eich cartref ar eich pen eich hun a'ch bod yn marw, caiff ei reoli drwy eich ystâd o dan delerau eich ewyllys (os ydych wedi gwneud un). Bydd y balans sy'n ddyledus ar farwolaeth yn cael ei wneud o'ch ystâd yn unol â'r cynllun.

Os gwnaethoch brynu eich cartref gyda rhywun arall, a bod un ohonoch yn marw, bydd buddiant yr ymadawedig yn yr eiddo naill ai'n cael ei drosglwyddo i'r cydberchennog (cydberchnogion) sy'n goroesi neu'n cael ei drosglwyddo o dan delerau eu hewyllys. Os nad oes ewyllys, caiff ei phasio yn ôl y gyfraith. Argymhellir eich bod yn ceisio cyngor cyfreithiol annibynnol ynghylch beth fydd yn digwydd i’r asedau sy’n rhan o’ch ystâd (gan gynnwys eich eiddo) os byddwch yn marw.

Sut mae ffioedd yn cael eu casglu ar ôl 5 mlynedd o fod ar y Cynllun?

Telir y ffi reoli fisol, sef £1 ar hyn o bryd, drwy Ddebyd Uniongyrchol misol. Byddwn yn casglu eich ffioedd a llog yn yr un modd. Byddwn yn cysylltu â chi o leiaf fis cyn bod eich ffioedd llog yn ddyledus. Byddwch yn derbyn datganiad bob blwyddyn yn cadarnhau pryd y bydd eich ffioedd yn daladwy. Mae'n ofynnol yn eich Morgais Ecwiti ein bod yn cadw Debyd Uniongyrchol gweithredol ar eich cyfrif, felly os byddwch yn newid darparwr bancio neu'ch cyfrif banc mae'n rhaid i ni gael ein hysbysu ar unwaith i sicrhau na chaiff unrhyw daliadau eu methu.

 

 

 

Y broses prynu cartref gyda'r Cynllun

A allaf brynu fy nghartref oddi ar y cynllun?

Gallwch, gallwch gadw cartref newydd oddi ar y cynllun unrhyw bryd. Fodd bynnag, ni allwch gyfnewid contractau mwy na chwe mis cyn cwblhau'r gwerthiant eiddo yn gyfreithiol. Rhaid i chi sicrhau bod eich cynnig morgais yn ddilys hyd nes y byddwch wedi’i gwblhau’n gyfreithiol.

A allaf ddefnyddio cynllun rhan-gyfnewid adeiladwyr?

Na, ni ellir defnyddio'r Cynllun ar y cyd ag unrhyw gynllun rhan-gyfnewid.

Pa mor hir y bydd yn ei gymryd cyn y gallaf symud i mewn?

Mae cartrefi a brynir drwy'r Cynllun yn gyffredinol ar ddatblygiadau newydd. Gall eich dyddiad symud i mewn ddibynnu ar yr amser sydd ei angen i gwblhau gwaith adeiladu, a fydd yn amrywio o gynllun i gynllun. Efallai y bydd angen i rai ymgeiswyr aros am gyfnod hwy o amser am gartref sy'n cyfateb i anghenion penodol iawn, tra gallai eraill brynu o ddatblygiad sy'n caniatáu meddiannaeth gynharach.

Beth fydd yn digwydd os bydd oedi cyn cwblhau fy nghartref, a brynwyd drwy'r Cynllun?

Unwaith y byddwch wedi ymrwymo i brynu cartref, bydd yr adeiladwr tai wedi cytuno i adeiladu’r cartref a rhoi gwybod i chi am y cynnydd. Os ydych chi'n anhapus gydag unrhyw oedi gyda’r gwaith adeiladu, rhaid i chi siarad â'r adeiladwr tai. Bydd eich cyfreithiwr neu drawsgludwr yn gallu rhoi cyngor ar gyfrifoldebau cytundebol yr adeiladwr tai cyn i chi gytuno i'r gwerthiant.