Neidio i'r prif gynnwy

Rhaid i ymgeiswyr i'r Cymorth i Brynu - Cymru ddefnyddio cyfreithiwr neu trawsgludwr o'r rhestr isod sydd wedi ymgymryd â hyfforddiant Cymorth i Brynu - Cymru.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Mawrth 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Er mwyn cael benthyciad Cymorth i Brynu – Cymru, rhaid i gwsmeriaid roi cyfarwyddyd i drawsgludwr a restrir ar y wefan hon (y “Rhestr”) weithredu ar eu rhan.  

Y Rhestr hon yw’r trawsgludwyr sydd wedi cwblhau gofynion hyfforddi penodol Cymorth i Brynu – Cymru.

Ymwadiad

Sylwer, er bod y Rhestr wedi’i llunio gan Cymorth i Brynu – Cymru, nid yw’r ffaith bod trawsgludwr wedi’i gynnwys ar y Rhestr yn golygu ei fod wedi’i gymeradwyo na’i argymell. Darperir y Rhestr ar sail y ddealltwriaeth nad yw Cymorth i Brynu – Cymru na Llywodraeth Cymru yn ymgymryd ag unrhyw gyfrifoldeb cyfreithiol mewn perthynas ag unrhyw berson. 

Nid yw Cymorth i Brynu – Cymru na Llywodraeth Cymru yn derbyn unrhyw rwymedigaeth i unrhyw berson am unrhyw golled neu niwed ariannol sy’n deillio o ddefnyddio’r Rhestr neu unrhyw un o’r trawsgludwyr ar y Rhestr.