Neidio i'r prif gynnwy

Ffigurau ar y cymorth i fyfyrwyr a ddyfernir i ymgeiswyr ac a delir i fyfyrwyr neu eu darparwr addysg uwch ar gyfer 2020 (dros dro).

Yn dilyn Adolygiad Diamond o gyllid myfyrwyr Cymru, gwelwyd newid polisi yn 2018/19 a arweiniodd at ddiddymu grantiau ffioedd dysgu yn raddol a chwymp mewn benthyciadau cynhaliaeth wedi’i gwrthbwyso gan gynnydd mewn Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru.

Prif bwyntiau

Bu i’r swm a dalwyd i gefnogi myfyrwyr Addysg Uwch gyrraedd £1.08 biliwn, cynnydd o 6.3% o £1.01 biliwn yn 2018/19.

Cododd nifer y myfyrwyr sy’n derbyn cyllid hefyd i 80,510, cynnydd o 3.7% i gymharu â 2018/19.

Yn gyffredinol, mae’r swm a wariwyd ar gyllid Addysg Uwch wedi cynyddu 60.3% (o ran yr arian gwirioneddol) ers 2013/14, i fyny o £671.6 miliwn, wrth i nifer y myfyrwyr sy’n derbyn cyllid gynyddu 23.9% (o 65,000).

Gwelwyd cynnydd o 23.6% mewn benthyciadau ffioedd dysgu i fyfyrwyr is-raddedig llawn amser o gymharu â’r flwyddyn flaenorol, i fyny i £396.1 miliwn. Mae hyn o ganlyniad uniongyrchol i ddiddymu grantiau ffioedd dysgu i fyfyrwyr newydd.

Mae’r swm sy’n cael ei dalu mewn cymorth ffioedd dysgu i fyfyrwyr is-raddedig llawn amser wedi aros yn gymharol sefydlog ar £484.4 miliwn (-0.6% ers 2018/19) ond mae hyn nawr yn cynnwys cyfran uwch o fenthyciadau na’r blynyddoedd blaenorol.

Talwyd benthyciadau cynhaliaeth i 56,595 o fyfyrwyr is-raddedig llawn amser, a oedd yn gyfanswm o £263.2 miliwn. Roedd hyn yn gymharol sefydlog o gymharu â 57,080 o fyfyrwyr is-raddedig llawn amser yn cael £262.9 miliwn yn 2018/19.

Dyfarnwyd cyfanswm o £195.3 miliwn mewn Grant Dysgu Llywodraeth Cymru a Grant Cymorth Arbennig llawn amser, cynnydd o 17.7% ar y £165.9 miliwn a ddyfarnwyd yn 2018/19.

Talwyd £56.6 miliwn mewn benthyciadau ôl-raddedig (meistr a doethuriaeth).

Talwyd £18.8 miliwn mewn grantiau ôl-raddedig (meistr yn unig). Dyma’r flwyddyn gyntaf i gymorth gradd meistr gynnwys elfen grant (sy’n gofyn am brawf modd).

Mae data cynnar o fewn blwyddyn 2020/21 yn dangos bod tua 74,215 o fyfyrwyr yn derbyn cyllid, cynnydd o gymharu â’r 70,765 ar yr un adeg llynedd.

Adroddiadau

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.