Cymorth i fyfyrwyr ar gyfer addysg uwch (prif ddata): Medi 2024 i Awst 2025
Ffigurau ar y cymorth i fyfyrwyr a ddyfernir i ymgeiswyr ac a delir i fyfyrwyr neu eu darparwr addysg uwch ar gyfer Medi 2024 i Awst 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae'r tudalen hwn yn darparu crynodeb o'r ystadegau a amlinellir yng nghyhoeddiad y Cwmni Benthyciadau Myfyrwyr (SLC) o’r enw Cymorth i Fyfyrwyr ar gyfer Addysg Uwch yng Nghymru 2024/25. Mae'r cyhoeddiad yn cynnwys ymgeiswyr sy'n hanu o Gymru sy'n dilyn cwrs addysg uwch (AU) dynodedig mewn coleg prifysgol neu addysg bellach (AB) yn y DU, yn ogystal ag ymgeiswyr yr UE (y tu allan i'r DU) sy'n dilyn cwrs dynodedig yng Nghymru.
Yn dilyn adolygiad Diamond o gyllid myfyrwyr Cymru, gwnaed newidiadau polisi yn 2018/19 a welodd grantiau ffioedd dysgu yn cael eu diddymu'n raddol a llai o symiau benthyciadau cynhaliaeth, wedi'u gwrthbwyso gan fwy o Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (WGLG).
Prif ganlyniadau
- Y swm a dalwyd i gefnogi myfyrwyr addysg uwch oedd £1.2 biliwn, cynnydd o 1.9% ers 2023/24.
- Nifer y myfyrwyr a oedd yn derbyn cyllid oedd 79,000, cynnydd o 0.3% o 78,700 yn 2023/24.
- Ers 2013/14 mae'r swm a dalwyd allan ar gyfer cyllid addysg uwch wedi cynyddu 79.0% o £671.6 miliwn, tra bo nifer y myfyrwyr sy’n cael cyllid wedi cynyddu 21.6% (o 65,000).
Cymorth i israddedigion ar gyfer ffioedd dysgu
Gostyngodd y cyfanswm a dalwyd allan am fenthyciadau ffioedd dysgu israddedigion amser llawn 1.9% o 2023/24 i £425.0 miliwn.
Cymorth cynhaliaeth i israddedigion
Gostyngodd nifer yr israddedigion amser llawn sy'n cael benthyciadau cynhaliaeth 1.7% i 51,500 o israddedigion. Cynyddodd y swm a dalwyd 10.1% o £381.6 miliwn yn 2023/24 i £420.0 miliwn yn 2024/25. Mae'r cynnydd yn y swm a dalwyd yn bennaf o ganlyniad i’r cynnydd yn uchafswm y benthyciad cynhaliaeth sydd ar gael o'i gymharu â blwyddyn academaidd 2023/24.
Dyfarnwyd cyfanswm o £185.9 miliwn mewn WGLG amser llawn, gostyngiad o 4.1% o'r £193.9 miliwn a ddyfarnwyd yn 2023/24.
Cymorth ôl-raddedig
Talwyd £67.6 miliwn mewn benthyciadau ôl-raddedig (gradd meistr), cynnydd o 23.1%.
Talwyd £2.7 miliwn mewn grantiau ôl-raddedig (gradd meistr yn unig). Mae hyn yn ostyngiad o 85.5% o 2023/24 (£17.5 miliwn).
Cynyddodd y swm a dalwyd mewn benthyciadau ôl-raddedig (gradd meistr) oherwydd rhoi'r gorau i'r grant ôl-raddedig (gradd meistr) ar gyfer blwyddyn academaidd 2024/25.
Talwyd £3.7 miliwn mewn benthyciadau ôl-raddedig (gradd doethuriaeth), gostyngiad o 2.7% ers 2023/24.
Data cynnar yn y flwyddyn ar gyfer 2025/26
Mae data cynnar yn y flwyddyn ar gyfer 2025/26 yn dangos bod tua 69,700 o fyfyrwyr yn cael cyllid, cynnydd o’i gymharu â’r 68,600 ar yr un pryd yn 2024/25.
Manylion cyswllt
Ystadegau AU a Chyllid Myfyrwyr
E-bost: AddysgUwchAChyllidMyfyrwyr.yst@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099

