Neidio i'r prif gynnwy

Wrth i arbenigwyr a’r rhai sy’n gweithredu ledled Cymru i adfer natur ymgynnull yng Nghynhadledd Partneriaethau Bioamrywiaeth Cymru, heddiw mae y cynllun newydd, Cynllun Meithrin Capasiti yr Adferiad Gwyrdd yn agor ar gyfer y sector amgylcheddol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Cafodd y cynllun grant ei ddatblygu fel un o gyfres o ymatebion i waith y Tasglu Adferiad Gwyrdd o dan arweiniad Syr David Henshaw, fel cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru.

Bydd y cynllun yn helpu i feithrin twf y sefydliadau llai yn ogystal â grwpiau mwy sefydledig fel y gallant ehangu eu swyddogaethau wrth gyflymu yr adferiad gwyrdd yn eu hardaloedd lleol a thrwy arbenigedd benodol. 

Mae cynyddu buddsoddiad wrth warchod ein treftadaeth naturiol yn hanfodol – ond mae yr un mor bwysig ein bod yn cefnogi twf y sector yng Nghymru, fel y gallwn fanteisio i’r eithaf ar effaith y buddsoddiad newydd a chefnogi sefydliadau i ysgogi rhwymedigaethau gan gyllidwyr eraill a gan ein cymunedau.  

Caiff y cynllun newydd ei gyflawni mewn partneriaeth â Chronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol a ddaw â chyfoeth o arbenigedd wrth gefnogi sefydliadau y sector gwirfoddol, i gynyddu eu cadernid, cryfhau eu heffaith a datblygu cynlluniau hirdymor uchelgeisiol.   

Bydd y cynllun yn cynnig grantiau o rhwng £5,000 a £100,000. Mae ceisiadau ar agor heddiw (Tachwedd 23) gan gau ar Ionawr 10, 2021. 

Eleni gwelwyd ymgyrch newydd gan Lywodraeth Cymru i adfer safleoedd a rhywogaethau sy’n cael eu gwarchod, ac i ymestyn cynefinoedd er lles natur a’n cymunedau. 

Bu ymateb gwych gan y gymuned i’r alwad hon, ac mae ein cynllun creu capasiti wedi’i gynllunio fel y gallwn weld llawer mwy ohonynt yn y flwyddyn nesaf a thu hwnt. 

Mae enghreifftaiu gwych ledled Cymru yn ein cynllun Natura 2000, ac mae dyfarniadau grant wedi’u cadarnhau ar ei gyfer yn ddiweddar -  un o gyfres o fentrau newydd eleni yn canolbwyntio ar natur. 

Mae’r rhain yn cynnwys:

Gogledd Cymru:

  • Darparu cyllid cyfalaf i Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i helpu i wella ac adfer safleoedd Natura 2000 ledled y parc.
  • Gwarchod y fadfall ddŵr gribog yng Nghadwraeth Natur Globe Way ym Mwcle, Sir y Fflint, drwy gefnogi yr Ymddiriedolaeth Gwarchod Amffibiaid ac Ymlusgiaid i adfer pyllau dŵr a dolydd blodau gwyllt.

Y Canolbarth:

  • Cefnogi Cymdeithas Bori Mynydd Mallaen i ddod â rhannau o fynyddoedd Cambria i statws cadwraeth ffafriol, drwy ddefnyddio diadelloedd o ddefaid brodorol i helpu i reoli’r amgylchedd.
  • Gweithio gydag Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Sir Faesyfed er mwyn rheoli rhostir a glaswelltir yn well yng Ngwarchodfa Natur Gilfach.

De-orllewin Cymru:

  • Gweithio gydag Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro i ddefnyddio gwartheg sy’n pori a rheoli tir i helpu i adfer cynefinoedd mursennod y de a pili pala frith y gors – dau o rywogaethau Cymru sydd o dan fygythiad fwyaf.
  • Cefnogi Cymdeithas Bori Mynydd Mallaen i ddod â rhannau o fynyddoedd Cambria i statws cadwraeth ffafriol, trwy ddefnyddio diadelloedd o ddefaid brodorol i helpu i reoli yr amgylchedd.
  • Helpu Ymddiriedolaeth Afonydd Gorllewin Cymru i wella cadernid cynefinoedd, taith pysgod ac ansawdd y dŵr yn Afon Penfro, a Dwyrain a Gorllewin y Cleddau.

De-ddwyrain Cymru:

  • Prosiect Adfer Ecosystem Glaswelltiroedd Aberbargoed, fydd yn helpu i adfer cynefinoedd pili pala frith y gors.
  • Helpu Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent i gysylltu cynefinoedd coetiroedd ac amrywiaeth fiolegol yng Nghoedwig Dyffryn Gŵy.

Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: 

I atal a gwyrdroi y dirywiad mewn bioamrywiaeth yng Nghymru, mae angen inni gryfhau ein sector gwirfoddol fel eu bod yn y safle gorau i gefnogi mwy o gymunedau i weithredu mwy.   

Gofynnais i Syr David Henshaw i ddod â grŵp at ei gilydd allai gysylltu’n eang i helpu i benderfynu ar y camau y gallwn eu cymryd ar hyn o bryd i gefnogi ein  huchelgeisiau am Adferiad Gwyrdd.  Dwi’n hynod ddiolchgar am ei waith ac yn falch y gall cyhoeddiad heddiw gefnogi’r syniadau sydd wedi eu cynnig.  Dwi’n gobeithio gwneud cyhoeddiadau pellach i gefnogi gwaith y grŵp yn yr wythnosau nesaf.

Rydyn ni wedi cynyddu’r cyllid sydd ar gael eleni yn sylweddol ar gyfer popeth o brosiectau tyfu bwyd cymunedol sy’n dod â mwy o natur i’n cymunedau, i adfer mwyngloddiau metel hanesyddol fydd yn gwella iechyd afonydd ar ôl canrifoedd o ddifrod.   

Bydd ein cynllun creu capasiti yn helpu inni barhau i wella ein huchelgeisiau ac i ddarparu hyd yn oed mwy o’r gwaith hwn, sydd mor sylfaenol i lesiant ein cenedl, trwy dryddydd sector sy’n ffynnu.

Ychwanegodd y Gweinidog:

Dwi’n edrych ymlaen at glywed barn partneriaid drwy gydol Cynhadledd Partneriaethau Bioamrywiaeth Cymru, a byddem yn annog pawb yng Nghymru sydd â diddordeb yn ein treftadaeth naturiol i gymryd rhan yng ngweithgareddau ar-lein yr wythnos.

Meddai Andrew White, Cyfarwyddwr Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol:

Natur yw ein treftadaeth hynaf ac ni fu erioed mor bwysig i edrych ar ôl natur, a dyna pam y mae yn un o brif flaenoriaethau cyllido strategol Cronfa Treftadaeth y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. 

Rydyn ni’n falch iawn o fod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru i’n galluogi i gyflawni Cynllun Adeiladu Capasiti yr Adferiad Gwyrdd i gefnogi elusennau amgylcheddol yng Nghymru yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn. 

Mae’r cyllid y byddwn yn ei ddarparu yn mynd tuag at gefnogi’r sefydliadau hyn i feithrin cadernid drwy hyfforddiant i ddatblygu eu sgiliau busnes – megis llywodraethu, sicrwydd ariannol a rheoli prosiectau i sicrhau y gallant ffynnu a gwella’r gwasanaethau y maent yn eu cynnig. 

Mae croeso i unrhyw un sydd â diddordeb gwneud cais am grant gysylltu â ni ymlaen llaw am adborth a chyngor ynghylch eu prosiect drwy anfon ebost at walescontact@heritagefund.org.uk neu ffonio 029 2034 3413.