Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu manylion am y £23m ychwanegol bydd yn ei ddarparu i golegau addysg bellach, gan gynnwys colegau chweched dosbarth a dysgu oedolion yn y gymuned, ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf.

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Chwefror 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw cadarnhawyd y bydd staff yn derbyn codiad cyflog o 2.75% ar ôl i Lywodraeth Cymru ddarparu cyllid o £6m i sicrhau bod athrawon coleg yn cael yr un cyflog ag athrawon ysgol.

Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn darparu £2m ychwanegol i ddatblygu cymorth iechyd meddwl a lles mewn colegau ledled Cymru. Bydd hyd at £80,000 ar gael i golegau unigol i gefnogi myfyrwyr a staff. Bydd hyd at £800,000 hefyd ar gael i gefnogi prosiectau cydweithredol rhwng colegau.

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â'i chronfa datblygu sgiliau gwerth £10m, a gynlluniwyd ar gyfer colegau i fynd i'r afael â bylchau mewn sgiliau swyddi penodol yn eu hardaloedd. Bydd £5m eto ar gael i golegau ei fuddsoddi mewn datblygiad proffesiynol staff, gan gynnwys datblygu sgiliau digidol a’r Gymraeg.

Dywedodd Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg:

Mae ein colegau addysg bellach yn chwarae rhan hollbwysig mewn addysg ôl-16 mewn trefi a dinasoedd ledled Cymru, yn ogystal â'r amrywiaeth eang o wasanaethau a chyfleoedd gwaith maent yn eu darparu i gymunedau lleol.

Mae sicrhau bod gan fyfyrwyr o bob oed fynediad at gymorth iechyd meddwl yn un o'm blaenoriaethau ac rwy'n falch ein bod yn darparu cyllid ychwanegol i golegau i ddatblygu eu gwasanaethau cymorth rheng flae.

Mae hefyd wedi bod yn egwyddor bwysig i mi fod staff addysg bellach yn cael cyflog cyfartal ag athrawon ysgol, felly rwyf wrth fy modd bod y codiad cyflog eleni wedi'i gytuno.

Dywedodd Dafydd Evans, Cadeirydd Fforwm Penaethiaid Colegau Cymru: 

Rydym yn falch o gynnig codiad cyflog o 2.75% i bob aelod o staff addysg bellach a chynnydd ychwanegol i'r rhai sy'n ymuno â'r proffesiwn dysgu. Bydd ein partneriaeth barhaus â Llywodraeth Cymru yn galluogi dysgwyr a chyflogwyr i ennill y sgiliau sydd eu hangen arnynt gan sicrhau bod colegau addysg bellach yn darparu gyrfaoedd deinamig a buddiol i staff.