Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ddogfen hon yn cynnig crynodeb o Gymorth Organig 2024. Bydd y canllawiau llawn i'w gweld yn llyfryn rheolau Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2024. Darllenwch nhw’n ofalus. Os ydych wedyn yn ystyried eich bod yn gymwys i gael cymorth, gallwch gyflwyno cais drwy ffurflen SAF 2024.

Mae Cymorth Organig 2024 yn darparu taliad fesul hectar ar gyfer tir cymwys ac mae ar gael i gynhyrchwyr amaethyddiaeth organig presennol ledled Cymru sy'n cynnal ardystiad organig llawn yn ystod 2024.

Pwy sy'n cael gwneud cais

Rydych yn gymwys os ydych yn bodloni’r meini prawf isod:

  • rydych wedi’ch cofrestru gyda Llywodraeth Cymru ac wedi cael Cyfeirnod Cwsmer (CRN). I gael canllawiau ar sut i gofrestru, ewch i wefan Llywodraeth Cymru neu ffoniwch Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid Taliadau Gwledig Cymru (RPW) ar 0300 062 5004. Rydym yn croesawu galwadau’n Gymraeg
  • rydych chi'n ffermwr sy'n gynhyrchydd cynradd cynnyrch amaethyddol
  • mae gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru sydd wedi'i gofrestru gydag RPW, neu
  • gallu dangos mwy na 550 o oriau llafur safonol
  • mae'r tir rydych chi'n hawlio ar ei gyfer wedi'i ardystio'n gwbl organig gan Gorff Rheoli Organig (OCB)

Byddwn yn cadarnhau’ch hawl i Gynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) i ddilysu’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych 3ha o dir amaethyddol cymwys yng Nghymru.

Os nad ydych wedi hawlio BPS, rhaid ichi gyflwyno tystiolaeth ddogfennol gyda'ch SAF i brofi’ch bod yn gynhyrchydd cynradd cynhyrchion amaethyddol a bod gennych naill ai 3ha o dir neu’ch bod yn gallu dangos 550 o oriau llafur safonol.

Mae cynhyrchwyr cynradd cynhyrchion amaethyddol yn cynnwys y sectorau ffermio canlynol:

  • cnydau âr
  • eidion
  • llaeth
  • geifr
  • garddwriaeth 
  • moch
  • dofednod
  • defaid
  • cadw gwenyn

Rhaid i'r holl dir a gofnodir fel rhan o hawliad am Gymorth Organig gael ei ardystio'n barhaus gan Gorff Rheoli Organig (OCB) ar gyfer y cyfnod 1 Ionawr 2024 i 31 Rhagfyr 2024.

Nid ydych yn gymwys:

  • os ydych yn gwsmer sy'n cadw ceffylau (gan gynnwys pori ceffylau)
  • os ydych yn gwsmer coedwigaeth (gan gynnwys pobl sy'n berchen ar goetir yn unig)
  • os ydych yn grŵp o ffermwyr (gan gynnwys Cymdeithasau Cynhyrchwyr) 

Fodd bynnag os ydy dau ddaliad amaethyddol neu fwy'n cael eu rheoli fel uned unigol, neu fod un person yn berchen arnynt neu eu bod i ryw raddau yn cael eu rheoli ar y cyd, bod ganddynt gyfrifon ariannol cyffredin, da byw cyffredin, peiriannau a/neu storfeydd bwydo cyffredin, gallwch eu cyfrif fel un busnes.

Tir cymwys

Tir sydd wedi'i ardystio’n un cwbl organig rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Rhagfyr 2024.

Dim ond os gallwch warantu y bydd gennych reolaeth lwyr barhaus am gyfnod yr hawliad y bydd tir a rentir yn gymwys.

Fel arfer gall y canlynol fodloni meini prawf rheolaeth lwyr:

  • perchennog-feddiannydd y tir
  • tenant sydd â thenantiaeth Busnes Fferm neu denantiaeth o dan Ddeddf Tenantiaethau Amaethyddol 1995 neu Ddeddf Daliadau Amaethyddol 1986
  • trwyddedwr

Dim ond parseli tir cyfan sy’n gymwys ar gyfer contract Cymorth Organig.

Rhaid i bob parsel tir fod yng Nghymru.

Dim ond Tir Comin sy’n cael ei bori lle mai chi yw’r unig borwr cofrestredig fydd gymwys i’w ystyried. Mae'n rhaid i'r parseli tir hyn gael eu cofrestru ar System Adnabod Parseli Tir (LPIS) RPW. 

Tir anghymwys

Tir nad yw'n cael ei ardystio'n gwbl organig.

Tir sydd o fewn y cyfnod troi'n organig.

Rhannau o barseli tir (Dim ond parseli tir cyfan y gellir cynnig cymorth iddynt)

Tir comin, lle mae porwyr cofrestredig lluosog ar y comin.

Tir sy’n cael ei ddefnyddio i gynnal Gweithgareddau Chwaraeon a/neu Hamdden

Cyfraddau talu

Bydd y cyfraddau talu yn seiliedig ar ddefnydd tir fel y'i cyflwynwyd ar eich SAF 2024.

Cyfradd DaluDisgrifiadTaliad 
1.Garddwriaeth£300 / ha
2.Tir wedi'i amgáu£45 / ha
3.Tir wedi’i amgáu gyda menter laeth£115 / ha
4.Tir sydd uwchben trothwy uchaf y tir amaethyddol sydd wedi’i amgáu.£9 / ha

Diffinio’r cyfraddau talu

Cyfradd dalu 1: garddwriaeth

Tir a ddefnyddir at ddibenion cynhyrchu garddwriaethol yn 2024.

Cnydau garddwriaethol i'w gwerthu.

Nid yw cnydau porthiant yn gymwys. (Gweler y gofynion allweddol)

Bydd defnydd ac arwynebedd tir yn cael eu nodi yn seiliedig ar yr hyn sy'n cael ei gyflwyno yn SAF 2024.

Cyfradd dalu 2: tir wedi'i amgáu

Glaswelltir a chaeau âr.

Glaswelltir cynhyrchiol yn bennaf.

Wedi'i nodi a'r arwynebedd yn seiliedig ar SAF 2024.

Cyfradd dalu 3: tir wedi'i amgáu gyda menter laeth

Glaswelltir yn bennaf, parhaol ac o fewn cylchdro.

Bydd y gyfradd dalu hon ond yn berthnasol i dir sy'n cefnogi menter laeth. (Anifeiliaid godro a stoc ifanc godro)

Bydd ffermydd â sawl menter, er enghraifft, uned laeth a defaid ucheldir yn cael eu talu ar gyfradd dalu 3 am dir a ddefnyddir gan y fenter laeth. Bydd tir a ddefnyddir gan y fenter ddefaid yn cael ei dalu naill ai ar gyfradd talu 2 neu 4.

Bydd arwynebedd y tir cymwys sy'n gymwys ar gyfer cyfradd dalu 3 yn cael ei gyfrifo ar sail nifer yr anifeiliaid godro ar y daliad gan ddefnyddio cyfrifiad uned da byw safonol (UDB). Bydd yr anifeiliaid a ddatgelir ar eich SAF yn cael eu gwirio yn erbyn cofnodion EID Cymru a BCMS.

Bydd unedau da byw yn seiliedig ar:
Da BywUnedau Da Byw (UDB)
Gwartheg godro (dros 24 mis)1 UDB
Gwartheg godro - stoc ifanc (6-24 mis)0.6 UDB
Geifr godro (6 mis neu fwy)0.16 UDB
Geifr godro – stoc ifanc  (llai na 6 mis)0.04 UDB
Defaid godro (6 mis neu fwy)0.11 UDB
Defaid godro – stoc ifanc (llai na 6 mis)0.04 UDB

Bydd yr arwynebedd sy’n derbyn cymorth ar gyfradd dalu 3 yn cael ei gyfrifo ar sail nifer yr anifeiliaid godro organig ar y daliad gan ddefnyddio uchafswm dwysedd stocio o 1.3 UDB / Ha.

Cyfradd dalu 4: tir sy’n uwch na therfyn uchaf y tir wedi'i amgáu a thir penodedig arall

Mae tir sy'n uwch na therfyn uchaf sydd wedi'i amgáu yn golygu’r tir sy’n uwch na’r tir amaethyddol sydd wedi’i amgáu. Mae’n agored ei natur ac nid yw wedi cael ei wella at ddiben amaethyddol. (Fel y nodwyd ar MapDataCymru)

Mae tir penodedig arall yn cynnwys:

  • tir comin sy’n cael ei bori a chi yw’r unig borwr cofrestredig (Tir Comin ag Un Porwr)
  • parseli tir â 50% neu fwy o’r cae yn gorgorsydd pori, rhos arfordirol a llawr gwlad a morfa heli
  • systemau da byw ucheldirol helaeth yn bennaf gyda dwysedd stocio isel

Byddwn yn nodi bod ucheldir heb ei amgáu a thir comin sy’n cael ei bori gan un porwr yn gymwys am Gyfradd Dalu 4. 

Ardal o dir y gellir ei chynnwys yn Cymorth Organig 2024 a'r gyfradd dalu uchaf

Nid oes terfyn uchaf ar arwynebedd y tir y gellir ei gyflwyno ar gyfer Cymorth Organig 2024.

Bydd uchafswm y taliad yn cael ei leihau yn ôl y canlynol:

ArwynebeddTaliad
0 – 200 ha o dir cynefin cymwys100% o’r gyfradd dalu
200 – 400 ha o dir cymwys50% o’r gyfradd dalu
400 ha +10% o’r gyfradd dalu

O gyrraedd unrhyw rai o’r trothwyon talu, y gyfradd dalu uchaf fydd yn cael ei hystyried gyntaf.

Pan fo nodweddion anghymwys parhaol yn cael eu cyflwyno neu eu nodi ar barseli tir o fewn y cytundeb, (e.e. coetir neu adeiladau) ni fydd yr arwynebedd hwn yn gymwys am daliad a chaiff ei ddileu o'r contract. 

Y gofynion allweddol

Er mwyn gallu bodloni amodau Cymorth Organig 2024, rhaid i’r holl dir sydd o dan y contract fod wedi’i ardystio gydag OCB yn ddi-dor am oes y Contract sy’n dechrau ar 1 Ionawr 2024. Rhaid cyflwyno'r Dystysgrif OCB a'r Atodlenni Tir diweddaraf erbyn 31 Rhagfyr 2024.

Ni wneir unrhyw daliadau nes bod tystysgrif wedi'i chyflwyno. 

I fod yn gymwys ar gyfer cyfradd dalu 1, bydd gofyn i hawlwyr sydd â menter arddwriaethol gyflwyno tystiolaeth o werthu cynnyrch garddwriaethol organig nad yw'n porthiant o'r daliad.

I fod yn gymwys ar gyfer cyfradd dalu 3, bydd gofyn i hawlwyr sydd â menter laeth gyflwyno tystiolaeth bod llaeth yn cael ei werthu o'r daliad drwy gydol y cyfnod hawlio. I'r rhai sy'n prosesu llaeth ar y daliad, bydd angen cadarnhad ac esboniad o sut maen nhw'n gwerthu eu cynhyrchion llaeth wedi'u prosesu.

Bydd y canllawiau llawn i'w gweld yn llyfryn rheolau SAF 2024.

Gallai manylion y cynllun fod yn ddarostyngedig i newid cyn i'r canllawiau llawn gael eu cyhoeddi.