Neidio i'r prif gynnwy

Os ydych chi ar fin colli eich cartref a bod yn ddigartref, mae cymorth i’ch helpu chi.

Awdurdodau lleol

Rhaid i awdurdodau lleol helpu pobl a allai golli eu cartref neu sy’n ddigartref.

Gallant eich helpu chi i ddod o hyd i gartref. Maen nhw’n gweithio gyda sefydliadau cymorth eraill sy’n gallu helpu pobl i gadw eu cartref neu ddod o hyd i un newydd.

I weld pa help a chymorth y gallwch chi eu cael, cysylltwch â’ch awdurdod lleol:

Chwiliwch:
Er enghraifft CF10 3NQ

Sefydliadau

Shelter Cymru

Llinell gyngor: 08000 495 495

Cyngor i bobl sydd angen tai gan Shelter Cymru.

Cyngor ar Bopeth

Cyngor cyfrinachol am ddim gan Cyngor ar Bopeth.

Help i’r lluoedd arfog a chyn-filwyr

Darllenwch ein canllawiau tai ar gyfer cyn-filwyr y lluoedd arfog i ddod o hyd i gymorth yn eich ardal chi.