Neidio i'r prif gynnwy

Mae cynlluniau i sicrhau bod cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yn cael cymorth i ddod o hyd i lety priodol ac osgoi digartrefedd yn mynd allan am ymgynghoriad heddiw.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r Ysgrifennydd Cymunedau, Carl Sargeant, wedi lansio ymgynghoriad ar y Llwybr Tai Cenedlaethol ar gyfer Cyn-aelodau’r Lluoedd Arfog yng Nghynhadledd Pencampwyr Cyfamod Cymunedol y Lluoedd Arfog yng Nghaerdydd. Nod y Llwybr yw rhoi cyngor i aelodau’r lluoedd sydd ar fin cael eu rhyddhau o’u gwasanaeth am y cymorth sydd ar gael o ran tai a materion cysylltiedig. Bydd y Llwybr hefyd yn rhoi cyngor i gyn-aelodau’r lluoedd sydd yn ddigartref neu sydd mewn perygl o fod yn ddigartref.

Dywedodd Carl Sargeant:

"I gydnabod eu gwasanaeth, credaf y dylid ceisio helpu pob cyn-aelod o’r Lluoedd Arfog  i ddod o hyd i lety priodol, os bo angen y cymorth hwnnw arnynt.

"Un o brif bryderon aelodau’r lluoedd arfog ar adael yw llety ac o ble i gael cymorth i ddod o hyd i lety. Gobeithio y bydd y Llwybr hwn yn galluogi cyn-aelodau’r lluoedd i ddod o hyd i lety sy’n briodol iddyn nhw."

Hefyd, lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet Becyn Cymorth wedi’i adnewyddu ar gyfer cyn-aelodau’r lluoedd arfog a’u teuluoedd, ynghyd â dogfen i aelodau cyfredol a’u teuluoedd o’r enw Croeso i Gymru.

Mae’r Pecyn Cymorth i gyn-aelodau a’u teuluoedd yn nodi ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i gymuned y Lluoedd Arfog ynghylch materion datganoledig, ac mae’r ddogfen Croeso i Gymru ar gyfer aelodau cyfredol a’u teuluoedd yn darparu gwybodaeth ar gael mynediad i wasanaethau a chymorth wrth symud i Gymru i fyw.