Neidio i'r prif gynnwy

Cyngor a chefnogaeth i ffermwyr sydd ag achos o TB.

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Rhagfyr 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ein hamcan yw: 

  • cyfyngu ar effaith y clefyd ar eich fferm 
  • atal y clefyd rhag lledaenu 

Y rhaglen filfeddygol 

Mae gan filfeddygon preifat ran bwysig iawn i'w chwarae wrth ofalu am iechyd a lles anifeiliaid. Rydyn ni am gryfhau'r rôl honno trwy roi mwy o ran iddyn nhw yn y gwaith o reoli TB. 

Mae'r rhaglen yn talu milfeddyg preifat i ymweld â ffermydd sydd wedi'u taro gan TB. Yn ystod yr ymweliad, bydd y milfeddyg yn: 

  • cefnogi'r ffermwr i reoli'r clefyd (gan gynnwys y cyfyngiadau) 
  • cynghori'r ffermwr ar sut i leihau effaith y TB a deall y risgiau sy'n gysylltiedig â'r clefyd 

Er mwyn ei gwneud hi’n haws i bobl fanteisio ar y cymorth hwn, bydd ymweliadau’n cael eu trefnu’n awtomatig ar gyfer buchesi cymwys. Ond nid yw'r rhaglen filfeddygol yn un orfodol, felly gall ceidwad y fuches nodi nad dyna yw ei ddymuniad. 

Mae'r rhaglen: 

  • yn cael ei rheoli gan yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) 
  • yn cael ei darparu gan filfeddygon preifat ar is-gontractau i'r ddau Bartner Cyflenwi Milfeddygol yng Nghymru 
  • ar gael trwy Gymru 

Bydd ffermwyr sydd am gymryd rhan yn cael taleb gan APHA.

Y modiwl hyfforddi milfeddygon 

Bydd angen hyfforddiant ar y milfeddygon preifat fydd am gymryd rhan yn Cymorth TB. Mae modiwl hyfforddi wedi cael ei ddatblygu. Rhaid i filfeddyg gwblhau'r hyfforddiant cyn cael cynnig ymweliad Cymorth TB. 

Mae'r modiwl hyfforddi ar gael ar-lein ac mae wedi'i achredu gan Brifysgol Harper Adams. 

Byddwn ni'n dal i ystyried ffyrdd eraill o helpu ffermwyr gwartheg a busnesau ffermio sydd ag achos o TB. 

Ymweliadau 'cadw TB allan' yn yr ardal TB ganolradd yng Nghymru (ITBAN)

Mae yna raglen beilot yn cael ei chynnal yn yr ITBAN. Y nod yw cynnig gwasanaeth tebyg i Cymorth TB i ffermydd sydd heb TB. Cewch fwy o wybodaeth wrthi i'r peilot fynd yn ei flaen.