Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi heddiw y bydd £10m o gymorth ariannol ychwanegol ar gael i helpu siopau, tafarnau a bwytai’r stryd fawr â’u hardrethi busnes.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae’r pecyn cymorth newydd i fusnesau bach yn rhan o Gyllideb derfynol Llywodraeth Cymru, a fydd yn cael ei gosod gerbron y Cynulliad ddydd Mawrth (20 Rhagfyr). 

Bydd y £10m ychwanegol yn cael ei dargedu’n benodol at drethdalwyr y stryd fawr – siopau, tafarnau a chaffis – gan gynnwys y rheini sydd wedi gweld eu hardrethi’n codi’n sylweddol o ganlyniad i’r ailbrisiad a gynhaliwyd yn 2017 gan y corff annibynnol, Asiantaeth y Swyddfa Brisio.

Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi hwn yn cael ei ddarparu drwy gyfrwng grant arbennig - mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cytuno, mewn trafodaethau cyn y Gyllideb Derfynol, mai trwy grant arbennig y bydd y cymorth yn cael ei roi.

Wrth gyhoeddi’r cynllun newydd heddiw, dywedodd yr Athro Drakeford:

“Rydym wedi bod yn ystyried sut y gallwn wneud y defnydd gorau o’r cyllid ychwanegol sydd ar gael yn awr yn sgil Datganiad yr Hydref. Mae rhai busnesau mewn gwahanol rannau o Gymru yn gweld cynnydd sylweddol yn eu hardrethi. Mae rhai trefi a chymunedau wedi’u heffeithio mewn modd anghymesur. 

“Yn yr un modd, mae ardrethi busnes y stryd fawr yn gostwng mewn sawl ardal, ond mae’r busnesau yn dal i gael trafferthion. Rydym yn awyddus i allu cynnig y cymorth ychwanegol sydd ei angen ar y busnesau hyn. 

“Bydd y cynllun rhyddhad hwn, fydd wedi’i dargedu, ar waith erbyn 1 Ebrill y flwyddyn nesaf pan ddaw’r ardrethi diwygiedig i rym. 

“Mae hyn yn ychwanegol at ein cynllun rhyddhad trosiannol gwerth £10m, a fydd hefyd ar gael o 1 Ebrill, a’r toriad o £100m yn nhrethi busnesau bach yng Nghymru a ddaw yn sgil y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach.”

Dywedodd Adam Price, llefarydd Plaid Cymru ar fusnes, yr economi a chyllid: 

“Mae’n amlwg bod yr ailbrisio diweddar wedi taro busnesau ledled Cymru yn galed. Mae wedi cael effaith arbennig o wael ar sectorau penodol megis twristiaeth, ac mae’n broblem neilltuol mewn rhai rhannau o’r wlad. 

“Rydym wedi gwrando ar bryderon busnesau ac wedi annog y llywodraeth i weithredu – rydym yn falch eu bod wedi ymateb mewn modd adeiladol.”    

Dywedodd Leighton Jenkins, Cyfarwyddwr Cynorthwyol a  Phennaeth Polisi CBI Cymru: 

“Rydym yn croesawu’r cam hwn i helpu busnesau’r stryd fawr, boed y rheini yn y sector manwerthu neu’n gysylltiedig â’r diwydiant ymwelwyr. Mae hyn yn gydnabyddiaeth gan Lywodraeth Cymru y bydd ailbrisiad ardrethi 2017 yn cael effaith wahaniaethol ar rannau penodol o’n heconomi.”

Mae’r cynllun rhyddhad newydd arbennig hwn yn ychwanegol at y cynllun rhyddhad ardrethi trosiannol sy’n werth £10m – cynllun ar gyfer busnesau bach y mae eu hawl i gael rhyddhad ardrethi busnes wedi’i effeithio gan yr ailbrisio.

Bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol i roi’r cynllun ar waith.  Bydd rhagor o fanylion ynghylch sut y bydd y cynllun yn gweithio yn cael eu cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.