Neidio i'r prif gynnwys

Bydd mwy o ffermwyr yng Nghymru yn derbyn cymorth i adfer natur, gwella ansawdd dŵr ac ymdopi â thywydd eithafol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:
  • Mae cyllid ychwanegol yn golygu y gall mwy o ffermwyr ddechrau prosiectau amgylcheddol, i'w cyflawni erbyn mis Mawrth 2027. 
  • Mae prosiectau Ffermio Bro yn diogelu ac yn gwella nodweddion arbennig Tirweddau Dynodedig Cymru, yn adfer cynefinoedd, yn gwella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd, wrth adeiladu gwydnwch i lifogydd, sychder a newid yn yr hinsawdd. 
  • Mae ffermwyr yn gweithio ar y cyd â chynghorwyr arbenigol lleol, gan helpu i ddiogelu ffermydd a chymunedau gwledig ar gyfer y dyfodol.

Yn dilyn defnydd uchel a galw cryf, mae £624,000 yn ychwanegol yn mynd i gynllun Ffermio Bro, sy'n cefnogi ffermwyr i weithio gyda'i gilydd ar gamau ymarferol ar gyfer gwydnwch natur, dŵr a hinsawdd. 

Drwy'r cynllun, mae ffermwyr yn gweithio gyda Thirweddau Dynodedig Cymru a chynghorwyr arbenigol lleol dibynadwy ar brosiectau sy'n mynd y tu hwnt i ffiniau ffermydd unigol. Mae hyn yn cynnwys adfer cynefinoedd, gwella ansawdd dŵr a rheoli llifogydd yn naturiol, sy'n arafu llif dŵr ac yn lleihau'r risg o lifogydd. Mae hefyd yn helpu ffermydd i ymdopi â thywydd eithafol a sychder. 

Ers ei lansio y llynedd, mae Ffermio Bro wedi gwneud cynnydd cyflym, a gyda mwy o ffermwyr yn gofyn am fod yn rhan o'r cynllun, mae'r cyllid hwn yn golygu y gall y prosiectau hynny fynd rhagddynt. Mae'r prosiectau sydd newydd eu hariannu eisoes wedi'u datblygu gyda'r Tirweddau Dynodedig a phartneriaethau lleol ac maent yn barod i ddechrau. 

Dywedodd Llyr Gruffydd, y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd: 

"Mae ffermwyr ledled Cymru wedi dweud wrthyf eu bod yn barod i weithredu dros natur, ac rydym yn eu cefnogi.  

"Mae'r £624,000 ychwanegol hwn o gyllid yn golygu y gall mwy o brosiectau ddechrau nawr, gan helpu i adfer cynefinoedd, gwella ansawdd dŵr a lleihau'r perygl o lifogydd.  

"Mae prosiectau fel hyn yn helpu i gadw ffermydd teuluol yn gryf a'n cymunedau gwledig yn ffynnu.

Ffermio Bro - Ffermio mewn Tirweddau Dynodedig