Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau ar gynnal cynlluniau cymorthdaliadau risg uchel o dan gyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Ionawr 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Beth yw Cymorthdaliadau a Chynlluniau o Ddiddordeb a Diddordeb Penodol?

Rhaid i gymorthdaliadau osgoi gwyrdroi marchnad sengl y DU neu fasnach neu fuddsoddiad rhyngwladol yn ormodol, ac osgoi cael effaith negyddol arnynt.

Mae Cymorthdaliadau neu Gynlluniau o Ddiddordeb (SSoI) neu Gymorthdaliadau neu Gynlluniau o Ddiddordeb Penodol (SSoPI) yn gymorthdaliadau sydd â risg uwch o wneud hynny.

Rhaid cyfeirio SSoPI at yr Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau yn yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd i'w adolygu. Yn achos SSoI, mae hyn yn wirfoddol.

Cymorthdaliadau o Ddiddordeb Penodol (SSoPI)

Mae SSoPI yn gymorthdaliadau sy'n bodloni unrhyw un neu ragor o'r meini prawf canlynol:

  • cymorthdaliadau gwerth dros £5 miliwn a ddyfarnir mewn sectorau sensitif (gweler Canllawiau Statudol y DU i gael rhestr lawn o sectorau sensitif)
  • cymorthdaliadau gwerth dros £1 miliwn a ddyfarnir mewn sectorau sensitif ac sy’n cronni i fod dros £5 miliwn gyda chymorthdaliadau cysylltiedig eraill a roddwyd yn y 3 blwyddyn ariannol flaenorol
  • cymorthdaliadau gwerth dros £10 miliwn y tu allan i sectorau sensitif
  • cymorthdaliadau gwerth dros £1 miliwn y tu allan i sectorau sensitif ac sy’n cronni i fod dros £10 miliwn gyda chymorthdaliadau cysylltiedig eraill a roddwyd yn y 3 blwyddyn ariannol flaenorol
  • cymorthdaliadau adleoli (sy'n bodloni'r amodau a nodir ar gyfer eithriad o'r gwaharddiad cyffredinol yn adran 18 o'r Ddeddf) sy'n fwy nag £1 miliwn
  • cymorthdaliadau ailstrwythuro

Cymorthdaliadau o Ddiddordeb (SSoI)

Mae SSoI yn gymorthdaliadau sy'n bodloni unrhyw un neu ragor o'r meini prawf canlynol:

  • cymorthdaliadau nad ydynt yn SSoPI sydd rhwng £5 miliwn a £10 miliwn, neu sy'n cronni i fod â gwerth o’r fath gyda chymorthdaliadau eraill a roddwyd yn y 3 blwyddyn ariannol flaenorol
  • cymorthdaliadau adleoli (sy'n bodloni'r amodau a nodir ar gyfer eithriad o'r gwaharddiad cyffredinol yn adran 18 o'r Ddeddf) gwerth £1 miliwn neu lai
  • cymorthdaliadau achub
  • cymorthdaliadau treth

I gael arweiniad manwl ynglŷn â pha gymorthdaliadau a chynlluniau sy'n cael eu hystyried yn SSoI a SSoPI gweler pennod 10 o’r canllawiau statudol ar reoli cymorthdaliadau’r DU yn GOV.UK.

I gael cymorth ac arweiniad pellach ynglŷn â SSoI neu SSoPI cysylltwch â'r Uned Rheoli Cymorthdaliadau: YrUnedRheoliCymorthdaliadau@llyw.cymru