Neidio i'r prif gynnwy

Ti’n ystyried gwneud Lefel A Cymraeg? Grêt. Ti ‘di dod i'r lle iawn. Ry’n ni yma i helpu gyda dy gamau nesaf... 

Gallai dewis Cymraeg fel pwnc Lefel A agor drysau i yrfaoedd mewn lot o wahanol feysydd, yn cynnwys iechyd, chwaraeon, addysg, newyddiaduraeth, marchnata, cyllid, gwyddoniaeth, dylunio, a lot lot mwy.

Ella dy fod di ddim yn gwybod pa swydd wyt ti eisiau gwneud eto. Paid â phoeni, mae digon o amser i chdi feddwl. Waeth beth fyddi di’n gwneud yn y pen draw, bydd y Gymraeg bob amser yn fantais, os wyt ti’n aros Nghymru neu’n symud i ochr arall y byd. Gall bod yn ddwyieithog hefyd dy helpu i ddysgu ieithoedd eraill ac mae wastad yn edrych yn dda ar CV.

Felly beth sy’ nesa?

  • Siarada gyda athro/athrawes neu gynghorydd gyrfaoedd am dy opsiynau a sut y gall y Gymraeg glymu mewn gyda unrhyw gyrsiau prifysgol, swyddi neu yrfa wyt ti’n eu hystyried
  • Siarada gyda rhywun sydd wedi/yn gwneud Lefel A Cymraeg yn barod i glywed mwy am y cwrs, eu profiad a sut mae’r pwnc wedi help nhw
  • Siarada gyda dy rieni, dy deulu a ffrindiau i weld a oes ganddyn nhw unrhyw gyngor. Efallai eu bod nhw wedi gwneud Lefel A Cymraeg, neu'n gallu siarad gyda ti am y sgiliau Cymraeg sydd wedi helpu gyda'u swyddi nhw?

Dyma beth oedd gan Catrin, 17, o Abercraf i'w ddweud am astudio Cymraeg lefel A: 

"Ro’n i eisiau gwneud lefel A Cymraeg yn bennaf oherwydd bod fy athro mor anhygoel a ro'n i wastad eisiau gwneud rhywbeth dwi’n mwynhau.

“Y llenyddiaeth, y Mabinogi, hengerdd, y newydd a'r hen – dwi’n mwynhau'r cyfan.

"Does dim rhaid i ti wneud y Gymraeg jyst i fod yn athro, ond dyna be dwi eisiau gwneud. Dwi'n mynd i wneud Cymraeg a cherddoriaeth gyda'n gilydd yn y brifysgol i gadw fy opsiynau'n agored."

Help arall...

Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn gweithio gyda phrifysgolion ar draws Cymru i gynnig cyfleoedd yn y Gymraeg i fyfyrwyr, a gall dy helpu i ddod o hyd i gyrsiau prifysgol cyfrwng Cymraeg. 

Oeddet ti’n gwybod? Mae'r Coleg hefyd yn cynnig ysgoloriaethau israddedig ac ôl-raddedig i ti astudio cyrsiau addysg uwch drwy’r Gymraeg.

Mae’r Rhwydwaith Seren yn helpu’r myfyrwyr mwyaf abl yn academaidd sy’n breuddwydio am sicrhau lle yn un o’r prifysgolion gorau gyda chyngor ar lenwi ffurflenni cais, hyfforddiant mewn cyfweliad, ac ysgolion haf gyda rhai o'r prifysgolion gorau ar draws y byd. Mae llawer o raddedigion sydd wedi astudio drwy’r Gymraeg wedi dringo'n uwch ac yn uwch, a gallet ti fod yn un ohonyn nhw.

Os dwyt ti ddim eisiau parhau i ddysgu mewn ystafell ddosbarth, gallai hyfforddeiaeth neu brentisiaeth fod yn opsiwn gwych. Mae'r ddwy yn gadael i ti ddysgu yn y gwaith tra'n dal i ennill sgiliau a chymwysterau newydd, ac mae cyrsiau ar gael drwy’r Gymraeg ac yn ddwyieithog.

Gall Gyrfa Cymru dy helpu i gynllunio dy yrfa, paratoi i gael swydd, a dod o hyd i, a gwneud cais am y prentisiaethau, cyrsiau a hyfforddiant cywir, felly beth bynnag wyt ti’n penderfynu gwneud, gallant gynnig cymorth a chyngor.

Os wyt ti eisiau sgwrsio gyda ni neu eisiau gwybod mwy, yna dilyna ni ar Facebook, Twitter, Instagram, neu Snapchat.