Neidio i'r prif gynnwy
A toddler holding hands with a parent

Os wyt ti’n awyddus i fagu dy blentyn yn Gymraeg, mae digon o gefnogaeth ar gael yn gynnar iawn

Ti a Fi

Mae dros 500 o gylchoedd Ti a Fi mewn pentrefi a threfi ledled Cymru. Yma mae babis a phlant hyd at ddwy oed yn gallu chwarae gyda’i gilydd, gwrando ar storïau a chanu caneuon Cymraeg.

Mae croeso i siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg ac mae’n lle gwych i wneud ffrindiau newydd - i oedolion ac i blant. Mudiad Meithrin sy’n trefnu’r cylchoedd Ti a Fi.

Cylchoedd Meithrin

Mae’r Mudiad Meithrin hefyd yn trefnu cylchoedd Meithrin ar gyfer plant o ddwy oed hyd at ysgol gynradd. Mae’n oed pwysig o ran dysgu iaith ac mae plant yn cael cyfle i ddysgu trwy chwarae. ’Dyw rhieni ddim yn aros gyda’u plant yn y cylch.

Chwarae yn Gymraeg

Mae digon o gyfleoedd i fabis a phlant gryfhau eu sgiliau iaith trwy gymdeithasu a chwarae yn Gymraeg.

Mae’r Mentrau Iaith yn trefnu gwahanol weithgareddau hwyliog trwy gyfrwng y Gymraeg – o sesiynau nofio ar gyfer babis i wersi cadw heini ‘ffitrwydd bygi’ i famau. Mae 'na fenter iaith ymhob sir bron ac maen nhw'n rhestru eu digwyddiadau ar-lein.

Mae sawl grŵp cerddoriaeth Gymraeg ar gyfer plant bach ac mae nifer o gapeli ac eglwysi Cymraeg hefyd yn trefnu sesiynau chwarae anffurfiol ar gyfer rhieni a’u plant. 

Mae sesiynau dweud stori yn cael eu cynnal mewn llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru.  Mae’n werth cael golwg ar-lein i weld beth arall sy’n cael ei drefnu gan dy awdurdod lleol.

Gofal plant

Erbyn hyn mae nifer o feithrinfeydd preifat yn cynnig gofal plant naill ai’n gyfan gwbl yn Gymraeg neu’n ddwyieithog.  Ac mae gofalwyr plant sydd wedi’u rhestru ar wefannau awdurdodau lleol fel arfer yn nodi os ydynt yn gallu siarad Cymraeg neu beidio.

Cyw

Ffordd arall hwylus o gyflwyno’r Gymraeg i’r cartref yw trwy’r teledu.  Mae Sali Mali, Sam Tân a Pentre Bach ymhlith y rhaglenni lliwgar sy’n cael eu  darlledu bob dydd ar wasanaeth Cyw ar S4C.  Mae gwefan Cyw a sawl ap Cyw rhad ac am ddim ar gael hefyd – ac mae gan wefan Cbeebies dudalennau Cymraeg.

Llyfrau ac apiau

Mae siopau llyfrau Cymraeg dan ei sang â llyfrau plant, CDs a DVDs a gelli di archebu ar-lein os nad oes siop yn dy ardal di.  Mae mwy a mwy o apiau Cymraeg ar gael hefyd – gan gynnwys ap newydd dysgu'r wyddor, lliwiau a rhifau Cymraeg for Kids ac ap newydd Magi Ann, sy’n helpu plant bach i ddysgu darllen. 

Siarad

Beth sy’n bwysig yw dy fod ti’n siarad cymaint o Gymraeg â phosib gyda dy blentyn – hyd yn oed os nad wyt ti’n teimlo’n gwbl hyderus yn gwneud hynny. Ac os wyt ti am fynd ati i wella dy iaith, mae digon o gyrsiau gwahanol ar gael.