Ymchwil am lefel yr angen a chymorth presennol a ddarperir i ddisgyblion du a lleiafrifoedd ethnig sydd ag anghenion cymorth iaith Gymraeg.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Archwiliodd yr astudiaeth prosesau presennol o ran nodi disgyblion du a lleiafrifoedd ethnig sydd ag anghenion cymorth yn y Gymraeg fel eu hiaith ychwanegol, asesu eu lefelau cyrhaeddiad, a monitro eu cynnydd. Roedd hefyd yn edrych ar y ddarpariaeth a oedd ar gael ledled Cymru i gefnogi disgyblion yma wrth gaffael y Gymraeg a’u mynediad i'r cwricwlwm. Nododd yr astudiaeth enghreifftiau o arfer effeithiol a bylchau yn y gwasanaethau presennol a ddarperir i’r disgyblion.
