Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, Eisteddfod Genedlaethol Cymru, Ceredigion, 4 Awst 2022.

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Awst 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'na filiwn o bobl yn dweud eu bod nhw'n gallu siarad Gwyddeleg, ond dim ond o gwmpas wyth deg mil sy’n ei defnyddio hi bob dydd.  

Beth fydd hi o ran y Gymraeg erbyn 2050? 

Dim amharch i’r Wyddeleg, ond ma edwino yn ein cymunedau Cymraeg ni yn un o’r pethe sy’n y nghadw i’n effro yn y nos. 
 
Dwi’n dweud lot bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd fel unigolion, ac mae hynny’n bwysig. Mae’r neges twtsh yn wahanol da fi pnawn ‘ma: sef bod y Gymraeg hefyd yn perthyn i’n cymunedau. 
 
Er mwyn i’n hiaith ni barhau i ddatblygu fel iaith genedlaethol, rhaid inni gymryd camau er mwyn ei chryfhau hi fel iaith gymunedol. Mae’na rannau o Gymru lle mae hynny o dan fygythiad.  

Fyddwn ni ddim yn llwyddo os taw Treganna yn unig fydd yn cynyddu o ran nifer siaradwyr Cymraeg, ac nid Tregaron, Tudweiliog, Trefdraeth.  
 
Dyna swmp a sylwedd y sesiwn heddi: beth dwi, fel Gweinidog, yn mynd i neud i helpu’n cymunedau Cymraeg. A beth y gall eraill ei wneud hefyd. Licen i wybod beth ych chi’n ei feddwl yn y sgwrs wedyn am be ni’n gynnig a be ni’n neud—does yn sicr dim monopoli ar syniadau ‘da fi fel Gweinidog na ni fel llywodraeth. Daw atebion ohonoch chi i gyd—dwi’n gwybod cymaint o angerdd sydd. Dwi’n ei rannu: mwy am hynny yn y man. 

Ni’n genedl groesawgar, a ni eisie aros felly. Mae twristiaeth yn ddiwydiant pwysig, ond mae gormod o lety gwyliau ac ail gartrefi sy’n wag am ran helaeth o’r flwyddyn yn niweidiol—o ran sicrhau cymunedau iach a bywiog, ac felly’n niweidiol i’n hiaith ni. Mae hyn yn gallu achosi prisiau tai uwch hefyd wrth gwrs—sy’n golygu bod y boblogaeth leol yn cael eu prisio allan o’r farchnad. Yn methu “byw adra”. Mae hynny’n fater o gyfiawnder cymdeithasol, ac mae’n niweidiol i’n hiaith ni. 

Ac fel arfer, mae’n haws disgrifio’r broblem—a’r angen am weithredu—nag yw e i ddatrys y broblem go iawn.  

Ry’n ni yn y Llywodraeth ‘di dechrau ar y gwaith i leddfu’r pwysau ar gymunedau le mae’na nifer fawr o ail gartrefi: 

Ni ‘di ymestyn y pwerau i awdurdodau lleol godi treth cyngor uwch ar ail gartrefi a thai gwag—lan i 300%.  

Ni’di newid y rheolau o gwmpas llety gwyliau tymor byr fel bo perchnogion yn gwneud cyfraniad teg i’w cymunedau nhw—chewch chi ddim osgoi talu treth gyngor, gyfeillion. 

Erbyn diwedd yr haf byddwn ni’n symud ymlaen i gyflwyno tri dosbarth defnydd cynllunio newydd—“prif gartref, ail gartref a llety gwyliau tymor byr.”  

A wedyn bydd awdurdodau cynllunio lleol yn gallu ei neud e’n ofynnol i gael caniatâd cynllunio er mwyn newid defnydd o un o’r dosbarthiadau hyn i un arall. Fel ‘ny byddwn ni’n gallu rheoli defnydd datblygiadau tai newydd yn well. A galle hynny fod yn llesol i’n hiaith ni. 

Bydd modd hefyd reoli nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau mewn cymuned—yn cynnwys y gallu i osod cap [drwy ddiwygio [polisi cynllunio cenedlaethol]. 

Mae Cymru’n arwain ar y maes hwn.  

Ond ma isie mwy. Ac mae mwy i ddod. 

Ry’n ni di ymrwymo i gyflwyno fframwaith trwyddedu statudol. Bydd hwnnw’n golygu bod rhaid cael trwydded i redeg llety ymwelwyr gan gynnwys llety gwyliau tymor byr. Y nod yw sicrhau bod e’n bosib cael rheolaeth ar y niferoedd o anheddau sy’n cael eu gosod, a sut mae hynny’n digwydd. O AIRBNB i FAIRBNB, allech chi ddweud. 

Ry’n ni hefyd wedi ymgynghori ar y dreth trafodiadau tir [Land transaction tax]. Mae dwy raddfa ar gyfer tai annedd—un arferol ac un uwch. Mae honno 4% yn uwch wrth brynu ail gartref neu annedd ychwanegol. 

Yma yng Nghymru mae’r cyfraddau uchaf sy'n cael eu talu wrth brynu eiddo preswyl ychwanegol, gan gynnwys ail gartrefi, y gyfradd uchaf mewn cymhariaeth â rhannau eraill o'r Deyrnas Gyfunol. 

Nethon ni ofyn barn pobl am yr hawl i amrywio cyfraddau’n lleol mewn ardaloedd lle mae nifer uchel o ail dai a llety gwyliau. Roedd cefnogaeth sylweddol iawn i wneud hynny. A bydd mwy i ddod a hynny cyn hir.

Dwi am droi nawr at rywbeth pellach byth ry’n ni’n mynd i neud i helpu’n cymunedau Cymraeg, sef fersiwn terfynol ein cynllun tai cymunedau Cymraeg. Byddwn ni’n cyhoeddi hwnnw y mis nesa’ pan ddaw’r Senedd yn ôl. 

Bydd popeth yn y cynllun ar ben popeth dwi di grybwyll yn barod. Ac mae popeth yn y cynllun yn elwach o’ch cyfraniadau chi. Yn gynharach ‘leni nethon ni ymgynghori ar y cynllun drafft. Cawson ni bron i 800 o ymatebion.  

Mae’r rheini oll yn dystiolaeth i’r angerdd nes i sôn amdano fe gynnau. Diolch i bob un ohonoch chi wnaeth gyfrannu. Mae’n dangos eich consyrn am y cynnydd mewn ail gartrefi ac effaith rheini ar ein cymunedau a’n hiaith. Ry’n ni wedi gwrando arnoch chi ac ry’n ni’n arwain, gobeithio. 

Mae be chi’di ddweud wrthon ni wedi helpu i ni ddatblygu’r syniadau ymhellach.  

Newn ni gyhoeddi hefyd ddadansoddiad o’ch atebion, fydd yn dangos i chi sut mae be chi di ddweud yn bwydo mewn i beth ni’n ei gyhoeddi. 

Prif nod y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg yw grymuso cymunedau i greu a datblygu cynlluniau drostyn nhw eu hunen. Nage gorfodi atebion ar gymunedau ni’n neud, felly bydd popeth newn ni yn unol gyda hynny.  

Ac fel wnes i awgrymu bore ‘ma mewn cyd-destun arall, mae’n werth sôn hefyd nag cynllun tai yn unig yw hwn. Mae’n tynnu ynghyd tai, yr economi, datblygu cymunedol a chynllunio ieithyddol. Mae’n enghraifft go iawn o ‘brif ffrydio’n hiaith ni i bolisïau eraill o fewn y Llywodraeth (a defnyddio’r jargon cyfredol). 

Un agwedd ar y Cynllun yw beth ni’n bwriadu ei neud greu mwy o fentrau cydweithredol (cooperatives) wedi eu harwain gan y gymuned, ac roedd lot o gefnogaeth i’r syniad hwn yn ymatebion gawson ni i’r ymgynghoriad. Cofiwch hefyd mod i’n aelod plaid lafur a chydweithredol cymru. 

Bydd y cooperatives 'ma yn llefydd i bobl weithio a defnyddio eu Cymraeg heb rwystrau ynddyn nhw. ‘gofodau uniaith’ hynny yw. 

Ry’n ni eisoes wedi rhoi £150,000 eleni i Cwmpas (Canolfan gydweithredol Cymru, gynt) i ddechrau gwneud hyn. Wel, dwi’n dweud ‘dechrau’—mae profiad eang cwmpas yn y maes heb ei ail. Mae’n bleser cydweithio gyda nhw.  

Felly be sy’n newydd? Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda sefydliadau sydd eisoes wedi arwain cyrff cydweithredol ble mae arloesi a defnydd y Gymraeg yn ganolog. Falle welwn ni gynlluniau tai cydweithredol neu ymddiriedolaethau tir cymunedol.  

A byddwn ni’n creu mwy. A mwy o gyrff cydweithredol Cymraeg yn gyfystyr â mwy o ddefnydd o’r Gymraeg.  

Ry’n ni hefyd am weithio gydag arwerthwyr tai. Mae ‘da’r rhain rôl allweddol yn y farchnad dai—felly hefyd gyfreithwyr, cwmnïau morgeisi ac awdurdodau lleol. 

O ran arwerthwyr tai—mae’r rhan helaeth ohonyn nhw’n gwmnïau bach sy’n ‘nabod a deall eu marchnad tai lleol yn dda. Mae cyfle ‘da ni weithio gyda’r arbenigedd ‘ma er mwyn i ni rannu gwybodaeth am gymorth i helpu pobl leol i brynu neu rentu tai fforddiadwy.  

Byddwn ni hefyd yn creu rhwydwaith o lysgenhadon diwylliannol. Pobl leol fydd rhain, sy’n adnabod eu cymunedau’n dda ac yn gallu helpu i integreiddio pobl newydd. Rhannu gwybodaeth am fywyd y gymuned. Pwysigrwydd y Gymraeg ein traddodiadau lleol a’n treftadaeth. Mae pobl yn fwy parod i berthyn i gymuned pan fyddan nhw’n deall y gymuned mae nhw yn byw ynddi.  

Ry’n ni’n clywed yn aml am dai’n cael eu gwerthu cyn iddyn nhw gyrraedd y farchnad, neu’n cael eu gwerthu’n sydyn sydd i brynwyr â digon o fodd i’w prynu nhw—yn aml heb yr angen am forgais. Rhaid cofio nad arwerthwyr tai sy’n penderfynu pwy sy’n prynu eiddo. Mae’r penderfyniad terfynol, wrth gwrs, yn nwylo’r gwerthwr.  

Ry’n ni clywed hefyd am werthwyr, ambell waith, yn derbyn prisiau is gan bobl leol, pobl yn rhoi amser digonol i bobl drefnu benthyciad a hefyd bobl yn rhoi cyfamodau ar eu heiddo. Mae enghreifftiau o unigolion yn etifeddu tai ac am sicrhau eu bod yn parhau’n gartrefi i deuluoedd lleol. Mae enghreifftiau o werthwyr yn helpu prynwyr, a dyna pam byddwn ni’n sefydlu cynllun cyfle teg i bobl leol. 

Cynllun gwirfoddol fydd hwn i helpu pobl sy’n gwerthu i benderfynu sut yn union maen nhw’n gwerthu eiddo. Yn ganolog i hyn fydd caniatáu i dai gael eu marchnata’n lleol yn unig am gyfnod penodol. Gwirfoddol am nad yw e’n bosibl i ni orfodi pobl sy’n gwerthu i roi cyfle teg i bobl leol, ond gallwn ni amlygu manteision gwneud hynny a dyna newn ni. 

Ers cyhoeddi’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg drafft ry’n ni wedi cyhoeddi’n bwriad ni i ariannu rhaglen ARFOR. Mae hyn yn dod o’r cytundeb cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a phlaid cymru. Mae gwaith yn mynd ymlaen i ddatblygu ARFOR 2 fydd yn cefnogi economi cadarnleoedd y Gymraeg. Nod hyn yw adeiladu ar ARFOR 1. Ry’n awyddus i neud yn siŵr bod hyn yn ychwanegu gwerth i bopeth, gan gynnwys y Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg. 

Rhan bwysig o’r cynllun fydd gweithio i warchod enwau lleoedd, ac fe gawson ni fel byddech chi’n disgwyl, ymateb cryf ac adeiladol i’r cwestiwn hwn yn yr ymgynghoriad. 

Ry’n ni’n gwybod bod enwau tai, busnesau, llynnoedd a mynyddoedd yn effeithio ar naws ardal, a bod pobl yn naturiol yn poeni am hyn. 

Dyna pam nethon ni ymrwymo i wneud popeth  gallwn ni i warchod enwau lleoedd Cymraeg, fel bod cenedlaethau’r dyfodol yn gallu mwynhau ein diwylliant, ein hanes a’n hiaith ni.  

Mae gwaith hefyd ar y gweill da ni i ddatblygu rhestr o enwau lleoedd hanesyddol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru. Wythnos diwethaf, cyhoeddodd y comisiwn adroddiad ar sut mae’r rhestr yma yn cael ei defnyddio, ac roedd yn cynnwys sawl argymhelliad cadarnhaol. Byddwn ni’n gweithio’n agos gyda’r Comisiwn ar y gwaith ’ma. 

Mae llawer ohonoch chi di gofyn i ni wneud rhagor. A dwi’n fodlon iawn ystyried gwneud. Ac er mwyn gwneud hynny, mae angen rhagor o dystiolaeth: nid yn unig am nifer yr enwau sy’n newid, ond am sut a ble mae hynny’n digwydd. Mae “amddiffyn enwau lleoedd Cymraeg” wedi ei gynnwys yn ein rhaglen lywodraethu. 

Felly byddwn ni’n parhau i gydweithio gydag awdurdodau lleol i gael gweld beth yn union sy’n mynd ymlaen. Bydd angen gwahanol atebion er mwyn gallu gwneud gwahaniaeth gwirioneddol. A dwi o ddifri am wneud gwahaniaeth. Mae pwysau arnon ni yn aml i ddeddfu i daclo hyn — dydyn ni ddim yn dweud na i hynny er gwaetha awgrymiadau i’r gwrthwyneb ond Deddf i wneud beth yn union yw’r cwestiwn sy’n rhaid ei ateb. Dweud y’n ni bod angen deall mwy am be sy’n digwydd. Ac ry’n ni wrthi’n gweithio ar hyn nawr. 

Bore ‘ma fe wnes i a Dr Simon Brooks gynnal trafodaeth yn amlinellu gwaith y comisiwn cymunedau Cymraeg newydd. Dwi’n falch fod Simon wedi derbyn y gwaith o gadeirio’r Comisiwn, ac i aelodau’r Comisiwn am gytuno i’w gefnogi.  

Nid creu sefydliad newydd nethon ŷn ni y bore’ma—nage dyna’r Comisiwn, ond grŵp o arbenigwyr i ddweud y gwir yn blaen wrthon ni am sut mae’r economi, penderfyniadau polisi a demograffig yn effeithio ar ddyfodol y Gymraeg yn ein cymunedau ni. Hynny yw cysylltu cynllunio ieithyddol yn uniongyrchol gyda datblygu economaidd, cymdeithasol, cymunedol. Bydd hyn siŵr o fod yn heriol, ond mae’r rhain oll yn hollbwysig i ffyniant ein cymunedau Cymraeg ni. Mae da ni uchelgais mawr yn y Llywodraeth ar gyfer ein hiaith ni, a bydda i fel gweinidog y Gymraeg yn gwreiddio’r uchelgais ‘na mewn tystiolaeth a realiti. 

Bydd y Comisiwn yn ymateb i’r heriau sy’n wynebu cymunedau Cymraeg yn sgil cyhoeddi canlyniadau’r cyfrifiad. Bydd yn dadansoddi’r canlyniadau hynny gan ddangos beth yw realiti ein cymunedau Cymraeg ni heddi. Ac yna, drwy ddefnyddio gwybodaeth arbenigwyr yn y maes, bydd yn llunio adroddiad a fydd yn gwneud argymhellion polisi. Bydd rheini’n pontio meysydd polisi o addysg i’r economi. Trwy edrych ar y meysydd hyn gyda’i gilydd a gyda’n gilydd, ry’n ni eisiau datblygu atebion sy’n trin yr heriau sy’n wynebu ein cymunedau Cymraeg yn eu cyfanrwydd. 

Bydd y cyfrifiad hefyd yn fodd o adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol. Ein hiaith genedlaethol ni yw’r Gymraeg, ac mae angen gweithredu ar y lefel ranbarthol a lleol er mwyn sicrhau ei dyfodol hi. Bydd adnabod ardaloedd o sensitifrwydd ieithyddol yn helpu i wneud hynny. Ac yn caniatáu i ni deilwra ein hymyraethau, ein cefnogaeth a’n gofynion ni, i weddu’n agos at realiti’r Gymraeg mewn ardaloedd gwahanol. Mae potensial yma o ran addysg, o ran cynllunio, o ran datblygu economaidd—ac amryw o feysydd eraill. 

Ond mae sefyllfa’r Gymraeg yn wahanol ym Mhontarddulais lle ces i fy magu — a lle ganed Cymdeithas yr Iaith — yn wahanol yno heddi i un naw chwe dau ac eto i un naw saith un, wrth reswm. ond mae hi’n wahanol eto fyth i sefyllfa’r Gymraeg yng nghwm Tawe lle es i’r ysgol a lle rwy’n byw — ac yn wahanol eto yn nghwm cynon, yng Nghasnewydd, yn y Drenewydd, yn Drefach. 

Felly mae’r Gymraeg yn perthyn i’n cymunedau. Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd. Ond gadwch i mi fod yn blaen: felly hefyd y cyfrifoldeb am ei dyfodol.  

Ymhob agwedd ar ein gwaith ni ar draws Llywodraeth Cymru, dros lywodraeth yng Nghymru a’r tu hwnt, bydd rhaid i ni fod yn ddewr a mynd i’r afael â phethe alle fod yn anodd gyda’n gilydd. Dwi’n siŵr y bydd rhai o’r pethe y bydd y Comisiwn yn dweud wrthon ni yn heriol ond dyna’r peth: dyna fydd yn ein helpu i ni ddod o hyd i’r atebion mwya’ effeithiol! 

O ran hynny hefyd, mae’r Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg i’n hawdurdodau lleol ni, a’n cymunedau ŷdmryd perchnogaeth arno ac arwain arno, gyda ni yn Llywodraeth Cymru, wrth reswm.  

Ond mwy na jyst ni yn Llywodraeth Cymru.  

Dwi’n disgwyl i bawb gymryd arweiniad perthnasol a dwi’n disgwyl i bawb fod yn rhagweithiol. 

Nes i gychwyn drwy ddweud ‘mod i’n poeni’n fawr am ein cymunedau Cymraeg ni. Mae’r gwaith dwi’di sôn amdano fe wedi’i gyflwyno er mwyn cyfrannu at atal y trai. Mae’r gwaith yn arloesol yng nghyd-destun Prydain a’r tu hwnt. Sonies i hefyd nad oedd ‘da fi na’r llywodraeth fonopoli ar syniadau da. Felly ydych chi’n credu bod be dwi’di amlinellu yn ddigon?  

Beth arall allwn ni neud i sicrhau llwyddiant? Oes pethe’n digwydd yn eich cornel chi o Gymru y gallwn ni ddysgu ohonyn nhw?  

Mae dweud bod Cymraeg 2050 yn uchelgeisiol bron yn ystrydeb erbyn hyn. Ond ar un lefel gallech chi ddweud fod e ddim—er mor heriol y nod—fod e ddim yn ddigon. Hynny yw, nid yn y niferoedd yn unig mae llwyddiant yn y tymor hir. Mae niferoedd a chanran yn gallu dweud stori wahanol iawn. Mae daearyddiaeth yn bwysig hefyd. Gofynnwch i'n cyfeillion ni yn Iwerddon er enghraifft.  

Rhaid i ni ddiogelu’n cymunedau Cymraeg at y dyfodol er mwyn gwireddu Cymraeg 2050. Rhaid i ni warchod ein bröydd Cymraeg er mwyn cefnogi twf. 

Mae’r Gymraeg yn perthyn i ni gyd gyfeillion. Ac yn y pendraw, yn perthyn i bob cymuned hefyd.