Neidio i'r prif gynnwy

Mae Llywodraeth Cymru a Chyngor Cernyw wedi llofnodi cytundeb i gydweithio’n agos ar feysydd sydd o ddiddordeb i’r naill a’r llall.

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yng Nghaerdydd heddiw, llofnododd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford ac Arweinydd Cyngor Cernyw, Linda Taylor, gytundeb cydweithio sy’n nodi’r cynllun gweithredu pum mlynedd.

Bydd Cytundeb Cydweithio Treftadaeth Geltaidd Cernyw-Cymru yn canolbwyntio ar bedwar maes:

  • tai cynaliadwy
  • cyflawni sero net
  • economïau gwledig ffyniannus
  • dathlu diwylliant ac iaith.

Mae'r cytundeb yn cadarnhau’r berthynas hir sy’n bodoli rhwng Cymru a Chernyw. Mae'r Prif Weinidog a'r Cynghorydd Taylor wedi bod yn trafod dyfnhau'r berthynas ers y llynedd ac wedi bod yn gweithio tuag at drefniant ffurfiol.

Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:

“Mae llawer o gysylltiadau hanesyddol, diwylliannol ac ieithyddol rhyngom ni a Chernyw, ac mae gan ein heconomïau a'n poblogaethau lawer o nodweddion tebyg. Mae'r elfennau cyffredin hyn yn ein galluogi i ddysgu oddi wrth ein gilydd mewn meysydd sy'n effeithio ar ein poblogaethau, yn enwedig y meysydd sy’n cael sylw yn y cytundeb heddiw.

"Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio'n agosach, adeiladu ar ein perthynas gref, rhannu arferion gorau ac ystyried meysydd eraill y gallwn gydweithio arnynt yn y dyfodol."

Dywedodd y Cynghorydd Taylor:

"Mae Cernyw yn falch o’i threftadaeth Geltaidd, ac mae’r ffaith fod cymaint o gysylltiadau diwylliannol â Chymru yn dangos yn glir i mi y byddai cryfhau ein cysylltiadau o fudd enfawr i’r ddwy ochr. Roeddwn wrth fy modd fod y Prif Weinidog yr un mor frwdfrydig ynglŷn â hyn, ac rydym wedi gallu dod i gytundeb i ffurfioli'r berthynas.

"Mae tai fforddiadwy a chynaliadwy, yr angen i gyflawni sero net, a dulliau o fynd ati i greu economïau gwledig ffyniannus yn feysydd allweddol i Gernyw ac i Gymru, a bydd gallu cyfnewid gwybodaeth yn ddefnyddiol iawn i bawb.

"Mae’n beth gwych i ni o safbwynt diwylliannol hefyd. Rwy'n gwybod y gallwn ddysgu o lwyddiant twf y Gymraeg yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen at rannu â’n gilydd ein ffyrdd o ddathlu ein diwylliant cyfoethog a hynafol.

"Mae hyn yn newyddion da i Gernyw ac i Gymru, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi cymryd y cam hwn ymlaen."