Neidio i'r prif gynnwy

1. Cyflwyniad a chyd-destun

Roedd ein Strategaeth Ryngwladol, a gyhoeddwyd fis Ionawr 2020, yn nodi ein huchelgeisiau i wneud y canlynol:

  • Codi proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol
  • Tyfu’r economi drwy gynyddu’n hallforion a denu buddsoddiad o’r tu allan
  • Sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang.

Fel rhan o’r gwaith o sefydlu Cymru fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo yn y Strategaeth Ryngwladol i ehangu ac ailenwi rhaglen Cymru o Blaid Affrica yn Cymru ac Affrica, sy’n cydnabod yn well y bartneriaeth sydd o fudd i’r ddwy ochr.

Cefnogir rhaglen Cymru ac Affrica gan dîm bach yn Llywodraeth Cymru a chaiff ei chyflawni gan y sector gyhoeddus a grwpiau cymdeithas sifil gydag ymgysylltiad y sector preifat. Mae peth tensiwn rhwng yr awydd i gefnogi’r nifer fawr o grwpiau o Gymru sy’n gweithio mewn dros 25 o wledydd yn Affrica Is-Sahara a’r angen i sicrhau’r effaith fwyaf bosibl drwy ganolbwyntio ein cefnogaeth mewn nifer cyfyngedig o wledydd neu ranbarthau. Dros amser, mae’n debyg bod Dwyrain Uganda a Lesotho wedi dod i’r amlwg fel ein cysylltiadau partneriaeth cryfaf ac yn y Strategaeth Ryngwladol rydym wedi ymrwymo i gymryd camau penodol yno ar rywedd a chydraddoldeb gan gynnwys datblygu cyfleoedd i fenywod drwy fentora.

Ers dros ddegawd, mae Cymru wedi bod yn datblygu ac yn dyfnhau cysylltiadau a phartneriaethau cymunedol neu drwy sefydliadau ag Affrica Is-Sahara. Mae partneriaethau’n nodweddiadol o ddull datblygu rhyngwladol Cymru, gan rannu profiadau a gwybodaeth mewn ysbryd o gyd-barch a chyfnewid. Mae’r rhaglen hefyd yn cefnogi ac yn annog pobl yng Nghymru i ddod yn ddinasyddion byd-eang gweithgar ac i gefnogi camau y gall llywodraethau a sefydliadau eraill ledled y byd eu hatgynhyrchu.

Mae’r dull bywiog ac amrywiol hwn wedi arwain at feithrin cyfeillgarwch ledled Cymru ac Affrica, wrth i bobl gydweithio’n ymarferol, yn bwrpasol ac yn ystyrlon tuag at gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig a’r Degawd o Weithredu tuag at Agenda 2030. Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 ac, yn benodol, y nod o gyflawni Cymru sy’n Gyfrifol ar lefel Fyd-eang yw’r sail ar gyfer ein hymgysylltiad. Mae’r gymuned Affricanaidd yng Nghymru, sy’n hanu o nifer o wledydd gan gynnwys Somaliland, Nigeria, y Swdan a Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo, yn chwarae rhan bwysig yn y gwaith o ddatblygu a chynnal y cysylltiadau hyn, yn enwedig drwy’r Panel Cynghori ar Faterion Affrica Is-Sahara. Daw nifer sylweddol a chynyddol o bobl o Affrica Is-Sahara i weithio yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac maent yn aml yn cynnal cysylltiadau cryf â’u mamwlad.

Wrth wraidd rhaglen Cymru ac Affrica mae’r dwsinau niferus o sefydliadau cymdeithas sifil, cyrff iechyd ac ysgolion yng Nghymru sy’n gweithio mewn partneriaeth â’u cymheiriaid yng ngwledydd Affrica. Ein ffocws yw cryfhau’r rhain drwy ddarparu cyngor ar ariannu a hyfforddiant er mwyn sicrhau eu bod yn gallu gweithredu yn unol â safonau datblygu rhyngwladol mewn cyfnod heriol. I’r perwyl hwn, rydym yn ariannu ac yn bartner gyda phartneriaeth cymdeithas sifil sy’n gweithredu o dan ymbarél Hub Cymru Affrica sy’n gallu cynnig y cymorth hollbwysig hwnnw a’i deilwra’n unol â gwaith gwahanol grwpiau arbenigol yn amrywio o gyrff sy’n gweithredu ym maes iechyd ac addysg i’r rhai sy’n gweithio ar faterion newid yn yr hinsawdd a chydraddoldeb i grwpiau ar wasgar.

wedi dod yn llawer mwy heriol. Mae’r pandemig COVID-19 wedi cael effaith fawr iawn ar bob un ohonom, yn cynnwys Affrica Is-Sahara a’r sector Datblygu Rhyngwladol a chydsefyll yng Nghymru. Mae uno Adran dros Ddatblygiad Rhyngwladol y DU â’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad, a’r cyhoeddiad diweddar ynghylch toriadau sylweddol i raglen cymorth tramor 2020, wedi effeithio’n arbennig ar y sefydliadau Datblygu Rhyngwladol mawr sy’n gweithredu yng Nghymru ac a oedd eisoes yn wynebu heriau ariannol mawr, yn sgil Brexit yn anad dim, gan arwain at golli swyddi a thorri cyllidebau. Mae’r cyfuniad hwn yn golygu llawer iawn o ansicrwydd a bydd angen i raglen Cymru ac Affrica ddod o hyd i ffordd o ymdopi â hynny.

Mae’r mudiad Mae Bywydau Du o Bwys, sydd wedi tynnu sylw at anghydraddoldeb ymhob cwr o’r byd, hefyd yn gwneud i bobl a sefydliadau ledled Cymru ystyried beth arall y gallwn ni oll ei wneud i hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Mae’r Cynllun Gweithredu hwn yn canolbwyntio ar Genedl Deg – a bydd yn parhau i edrych ar sut y gall rhaglen Cymru ac Affrica gyfrannu at hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant yng Nghymru, gan ddatblygu ar ei sylfeini o gydymddibyniaeth a phartneriaethau yn Affrica. Gweledigaeth y Nodau Datblygu Cynaliadwy yw byd a rennir ac a ddatblygir yn gynaliadwy, lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Mae’r Nodau Datblygu Cynaliadwy’n nodi agenda uchelgeisiol ar gyfer trawsnewid y byd er mwyn pobl, er mwyn y blaned ac er mwyn ffyniant. Rydym yn rhannu’r uchelgais hwn yng Nghymru ac rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at y nodau. Mae’r angen i bobl Cymru fod yn ddinasyddion byd-eang gweithgar yn fwy nag erioed ac mae llawer o bobl yn gweithredu ar faterion byd-eang; yn benodol, mae’r Argyfwng Hinsawdd wedi dod yn ffocws ar gyfer gweithredu wrth i bartneriaid yn Affrica orfod ymdopi â thywydd cynyddol eithafol.

Yn unol â’r ymrwymiad yn y Nodau Datblygu Cynaliadwy – “Peidio â Gadael Neb ar Ôl’ – mae grwpiau ymylol yn ffocws clir ar gyfer gweithgarwch. Er enghraifft, meithrin gallu a datblygiad Sefydliadau Pobl Anabl a grwpiau a mentrau ymylol eraill gan hybu eu lles a’u hachos, er enghraifft ar sail gwerthoedd Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Yn ddigon priodol, mae diogelu wedi dod i’r amlwg yn ystod y blynyddoedd diwethaf gyda gwell dealltwriaeth o’r materion a’n cyfrifoldebau cyfunol ac unigol ynghyd ag angen dybryd i gryfhau polisïau, gweithdrefnau ac arferion ar bob lefel.

Mae’r Cynllun Datblygu hwn yn un o gyfres o ddogfennau a dylid ei ddarllen ar y cyd â’r Cynllun Gweithredu ar Berthnasoedd a Rhwydweithiau Rhanbarthol sy’n cael Blaenoriaeth, y Cynllun Cysylltiadau Rhyngwladol drwy Ddiplomyddiaeth Gyhoeddus a Chymell Tawel, y Cynllun Gweithredu ar Ymgysylltu â Chymry ar Wasgar a’r Cynllun Gweithredu ar Allforio.

Bydd ein holl gynlluniau’n cael eu cefnogi gan ymgyrchoedd cyfathrebu, gan ddefnyddio ein swyddfeydd dramor ac yng Nghymru a thrwy weithio gyda’n partneriaid. Mae llwyddiant y Cynlluniau Gweithredu hyn yn dibynnu ar gydweithio a harneisio grym partneriaeth. Cydweithio yw’r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau’r proffil angenrheidiol i Gymru ar lwyfan y byd.

Ein gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw:

Helpu Cymru i fod yn genedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang drwy ddatblygu a meithrin partneriaethau cynaliadwy yn Affrica Is-Sahara er mwyn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r Nodau Datblygu Cynaliadwy.

Ein cenhadaeth

Ein cenhadaeth yw:

  • Gweithio ar draws Llywodraeth Cymru i fanteisio ar gyfleoedd i feithrin cysylltiadau ag Affrica Is-Sahara a defnyddio arbenigedd i gefnogi prosiectau sy’n bodoli eisoes, gan gynyddu’r gefnogaeth i gymryd rhan mewn partneriaethau ar draws pob sector.
  • Gweithio gyda phartneriaid i helpu pobl yng Nghymru i wneud mwy, fel y gall pobl o bob cefndir ledled Cymru fod yn ddinasyddion byd-eang gweithgar gan gyfrannu at waith o ansawdd gwell, er mwyn helpu i gyflawni nodau llesiant Cymru gyda phartneriaid rhyngwladol.
  • Meithrin perthynas strategol â Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu’r DU - gartref a thramor – er mwyn cyflawni dros bobl Cymru a chefnogi cynnal ymrwymiad Llywodraeth y DU i wario 0.7% o’r cynnyrch domestig gros (CDG) ar ddatblygu.
  • Cefnogi Cymru fel Cenedl Deg – yn enwedig wrth i ni hyrwyddo Masnach deg a moesegol, amrywiaeth a chynhwysiant yn ein partneriaethau rhyngwladol.
  • Dangos effaith ein gweithgareddau datblygu cynaliadwy a newid hinsawdd mwyaf llwyddiannus, a’u harddangos, er mwyn hyrwyddo eu dyblygiad ledled y byd.

Camau allweddol

Ein camau gweithredu allweddol:

  • Plannu a meithrin o leiaf 25 miliwn o goed yn Uganda erbyn 2025 er mwyn lliniaru tlodi a mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.
  • Cefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiect plannu coed pwysig ledled Affrica drwy grwpiau o bob cwr o Gymru, a cheisio cefnogaeth Llywodraeth y DU i’w gyflawni.
  • Cryfhau ein Cynllun Grantiau gyda mwy o bwyslais ar ychwanegu gwerth rhwng partneriaethau wrth fesur a chydnabod eu cyfraniad.
  • Hyrwyddo mabwysiadu masnach deg a moesegol ledled Cymru a’r cysyniad o Genedl Deg, gan gysylltu Masnach Deg, amrywiaeth a chynhwysiant.
  • Cefnogi’r gwaith o gyflawni ymrwymiadau Siarter GIG Cymru ar gyfer Partneriaethau Iechyd Rhyngwladol.
  • Cefnogi Rhaglen beilot ar Gydraddoldeb Rhywiol yn Lesotho ac Uganda.
  • Hyrwyddo a chyflawni’r safonau uchaf o ran Diogelu gan sicrhau bod llais ac asiantaeth grwpiau tlawd a grwpiau sydd wedi’u hallgáu yn cael eu hystyried bob amser yn y ffordd y mae’r rhaglen yn gweithredu.
  • Defnyddio cyfleoedd byd-eang fel Cymru yn yr Almaen 2021, World Expo Dubai 2021-22, Cynulliad Blynyddol Sefydliad Iechyd y Byd a COP26 i hyrwyddo ymagwedd Llywodraeth Cymru at ddatblygu rhyngwladol fel cenedl sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang ac er mwyn creu partneriaethau newydd.

2. Datblygu cynaliadwy a’r argyfwng hinsawdd

Rhaglen Plannu Coed Mbale

Mae’r newid yn yr hinsawdd yn cael effaith ddinistriol ar rannau o gyfandir Affrica ac mae Cymru’n awyddus i chwarae ei rhan wrth geisio mynd i’r afael â’r mater brys hwn. Mae Cymru eisoes wedi plannu dros 10 miliwn o goed yn rhanbarth Mbale yn Uganda ac, yn y Strategaeth Ryngwladol, ein huchelgais dros y pum mlynedd nesaf yw plannu 15 miliwn arall er mwyn cyrraedd cyfanswm o 25 miliwn o goed.Mae’r prosiect yn ceisio cefnogi cymunedau drwy ddosbarthu 3.1 miliwn o goed bob blwyddyn – un ar gyfer pob person yng Nghymru. Mae hefyd yn ceisio ennyn diddordeb pobl o bob oed yn y newid yn yr hinsawdd a phwysigrwydd coed a choedwigoedd fel rhan o’r ateb i hynny.

Er mwyn gwneud hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Maint Cymru, Menter Tyfu Coed Mount Elgon a phartneriaid eraill yn Uganda a Chymru ers dros 10 mlynedd. Trwy gyfrwng dros 45 o blanhigfeydd sy’n tyfu eginblanhigion coed, mae’r rhaglen yn dosbarthu eginblanhigion i bobl leol yn ddi-dâl i gael eu plannu ar fân-ddaliadau a thir yn y gymuned ynghyd â stofiau tanwydd effeithlon a chyngor a chymorth ar gyfer ffyrdd eraill o ennill bywoliaeth.

Hefyd, mae’r prosiect yn cryfhau ac yn gwella’r systemau presennol sy’n cael eu defnyddio, gan gynnwys:

  • olrhain cyfraddau goroesi coed yn gywir
  • mapio coed
  • set gyfannol o ddangosyddion perfformiad allweddol i fonitro’r modd y caiff rhaglenni eu darparu
  • effaith a chymhwysiad rheolaeth ymaddasol.

Bydd hyn yn ein galluogi i ddatblygu a mireinio’r rhaglen yn sgil dysgu.

Yn gysylltiedig â’r prosiect hwn mae cynllun ‘Plant!’ Llywodraeth Cymru. Ers deng mlynedd, mae ‘Plant!’ yn dathlu genedigaeth pob plentyn sy’n cael ei eni neu ei fabwysiadu yng Nghymru drwy blannu dwy goeden – caiff un goeden ei phlannu mewn coetir yng Nghymru er mwyn sicrhau coed ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol; mae’r ail goeden yn goeden ffrwythau sy’n cael ei phlannu ym Mbale.

Camau gweithredu

  • Byddwn yn helpu i ddosbarthu dros 3 miliwn o goed bob blwyddyn yn Uganda – un ar gyfer pob person yng Nghymru gyda tharged o 25 miliwn erbyn 2025.
  • Byddwn yn gweithio’n agos gyda phartneriaid i barhau i broffesiynoli a chryfhau agweddau allweddol ar raglen y prosiect ac i godi safonau, yn enwedig ym maes llywodraethu, rhywedd a diogelu.
  • Byddwn yn cefnogi gwell system casglu data yn Uganda er mwyn olrhain lleoliad a chyfraddau goroesi’r coed sy’n cael eu dosbarthu at ddibenion monitro a gwerthuso.
  • Byddwn yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu prosiect plannu coed pwysig ledled Affrica gyda grwpiau ledled Cymru, ac yn ceisio cefnogaeth Llywodraeth y DU i’w gyflawni. Byddwn hefyd yn hyrwyddo’r cysyniad hwn i lywodraethau a sefydliadau eraill ledled y byd, gan gynnwys yn COP26.

Adeiladu Sector Datblygu Rhyngwladol a Chydsefyll Cryfach

Wrth galon rhaglen Cymru ac Affrica mae’r dwsinau o grwpiau cymdeithas sifil bach sy’n gweithio gyda phartneriaid yn Affrica ar addysg, mentrau’n ymwneud â’r newid yn yr hinsawdd, bywoliaeth, iechyd a chwaraeon a phrosiectau diwylliant sy’n hyrwyddo llesiant yma ac mewn cymunedau yn Affrica. Mae’n hanfodol bod eu gwaith yn cyd-fynd ag egwyddorion datblygu rhyngwladol a’i fod yn seiliedig ar gyd‑barch a dysgu ar y cyd. Dros y blynyddoedd, gan weithio’n bennaf drwy’r bartneriaeth â’r corff anllywodraethol Hub Cymru Affrica (sydd yn cynnwys Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, Cysylltiadau Cymru o Blaid Affrica, Panel Ymgynghorol Is-Sahara a Cymru Masnach Deg), mae ein rhaglen wedi datblygu sgiliau o ran cynllunio, gwerthuso a chodi arian ar gyfer rhaglenni, yn ogystal â helpu i sicrhau bod gan bartneriaid ddealltwriaeth gref o’r cyd-destun datblygu ehangach y maent yn gweithio ynddo. Mae’r gwaith hwn yn parhau’n bwysig ac mae bellach yn cael ei wella gyda chymorth ychwanegol o ansawdd uchel mewn perthynas â Diogelu sydd wedi dod yn flaenoriaeth datblygu rhyngwladol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fel rhan o’r gwaith hwn, mae cymorth penodol ar gael i grwpiau nad ydynt yn byw yn eu mamwlad, cysylltiadau Iechyd sy’n cael eu harwain gan weithwyr proffesiynol, a grwpiau Masnach Deg.

Ategir y gwaith hwn â chyllid uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru drwy’r cynllun grantiau bach. Mae gan y cynllun ormod o ymgeiswyr o gymharu â’r nifer o grantiau sydd ar gael a chaiff ei weinyddu ar hyn o bryd gan Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru. Mae’r cynllun wedi helpu dwsinau ar ddwsinau o grwpiau i wneud mwy, gyda chanlyniadau gwell, gyda’u partneriaid yn Affrica.

Caiff y grantiau eu dyfarnu o dan bedair thema:

  • Dysgu Gydol Oes
  • Newid yn yr Hinsawdd
  • Iechyd
  • Bywoliaeth Gynaliadwy

Mae dyfarnu grantiau o dan y thema ‘iechyd’ yn rhoi cyfle i GIG Cymru ac aelodau o Gysylltiadau Cymru o Blaid Affrica gymryd rhan mewn gweithgarwch partneriaeth iechyd rhyngwladol, ac elwa ohono, gyda’r nod o fynd i’r afael ag anghydraddoldebau o ran mynediad at wasanaethau iechyd o safon drwy gryfhau’r gweithlu iechyd. Dosbarthwyd cyllid ar gyfer 2020 ar ffurf 26 o grantiau brys i sefydliadau â phartneriaid yn Affrica Is‑Saha a i helpu gyda’r frwydr yn erbyn COVID-19.

Bydd y cynllun yn parhau yn ei ffurf bresennol yn 2021 ac yn a byddwn yn adolygu’r cynllun, a’i effaith, er mwyn asesu’r ffordd orau o gyflawni’r cynllun yn unol â’r Strategaeth Ryngwladol.

Camau gweithredu

  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu’r gwaith o feithrin gallu’r gymdeithas sifil gan roi mwy o bwyslais ar ansawdd gwaith Diogelu, arferion gwrth-hiliol, cydsefyll ymysg grwpiau ymylol, a datblygu cynaliadwy sy’n meithrin cydnerthedd yn wyneb argyfyngau fel pandemig byd-eang neu newid yn yr hinsawdd.
  • Byddwn yn ymestyn y Cynllun Grantiau am flwyddyn arall yn 2021-22, gan ddilyn y trefniadau cyfredol, a byddwn yn cynnal adolygiad o’r ffordd orau o gyflawni a chofnodi effaith grantiau bach.
  • Byddwn yn ystyried canolbwyntio’r cylch nesaf o grantiau, y bwriedir iddo agor ddechrau 2021, ar helpu partneriaethau i addasu i heriau COVID-19 a’r Argyfwng Hinsawdd.

Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol

Mae Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol wedi darparu lleoliadau 8 wythnos i bron 200 o bobl o Gymru yn Lesotho, Uganda neu Namibia, ac maent yn cynorthwyo sefydliadau partner â’u hymdrechion i gyflawni agweddau ar Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig. Mae cyfranogwyr yn dweud eu bod yn magu cryn hyder a phrofiad wrth gyfrannu at gyflawni prosiectau sydd o werth gwirioneddol. Oherwydd COVID-19, mae’r rhaglen wedi’i rhewi ar hyn o bryd.

Gweithredoedd

  • Yn ystod cyfnod rhewi’r rhaglen Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol, byddwn yn adolygu ein gweithdrefnau recriwtio, diogelu ac adrodd mewn perthynas â’r rhaglen. Byddwn hefyd yn ymgynghori â’n partneriaid Cyfleoedd Dysgu Rhyngwladol yn Affrica ynghylch ffyrdd o wella effaith lleoliadau ymhellach ac ymchwilio i ffyrdd o wella lleoliadau drwy ddefnyddio TG i gyflawni yn unol â’r Strategaeth Ryngwladol.
  • Byddwn yn ail-lansio’r rhaglen gyda phwyslais ar annog aelodau o gymunedau Affricanaidd ar wasgar i wirfoddoli.
  • Byddwn yn ymchwilio i’r posibilrwydd o agor y rhaglen yn Somaliland.

3. Cenedl Deg

Mae Cymru wedi ymrwymo i gadarnhau ei henw da fel Cenedl Deg – cenedl sydd wedi ymrwymo i Fasnach Deg, Gwaith Teg a Chwarae Teg, yn enwedig drwy ein gwaith i ddarparu Cymru sy’n Fwy Cyfartal.

Masnach Deg

Nod y mudiad Masnach Deg byd-eang yw gwneud masnach yn deg i bawb a hyrwyddo mathau amgen o fasnach sy’n rhoi’r pwyslais ar bobl a’r blaned yn hytrach nag ar wneud elw. Mae’n gwneud hyn drwy fecanweithiau prisio, gwneud penderfyniadau democrataidd ac asesiadau annibynnol.

Mae llawer o gynhyrchwyr mewn gwledydd sy’n datblygu eisoes yn gweithredu ar elw isel iawn ac yn agos i’r ffin tlodi, ac mae sioc COVID-19 wedi bod yn heriol iawn i’r broses o gynhyrchu bwyd ac i les cymunedau cyfan, ac mae wedi cynyddu’r tebygolrwydd o beryglon i hawliau dynol.

Mae sicrhau bod cadwyni cyflenwi yn rhai Masnach Deg yn rhoi sicrwydd a chydnerthedd i gynhyrchwyr, gan roi llais iddynt drwy gwmnïau cydweithredol cymunedol a phwyllgorau gweithwyr a thrwy gael gwarant o isafswm pris. Mae’r pandemig byd-eang wedi dangos pa mor hanfodol yw cadwyni cyflenwi mwy cydnerth, teg a chynaliadwy fel ffocws ar gyfer datblygu rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i Fasnach Deg ers 2006, ac roedd Cymru’n bodloni meini prawf gwreiddiol Cenedl Masnach Deg ym mis Mehefin 2008, ar ôl asesiad gan banel annibynnol. Roedd y meini prawf yn cynnwys mesurau ar feysydd a sefydliadau, ymwybyddiaeth y cyhoedd ac arferion prynu, ac ymrwymiadau’r llywodraeth.

Ers hynny, mae cyfrifoldeb byd-eang wedi’i wreiddio yng Nghymru drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, caffael yn y sector cyhoeddus, cyflogaeth foesegol mewn cadwyni cyflenwi, a gwaith ar atal caethwasiaeth. Yn 2019, cynhaliodd Cymru’r Gynhadledd Trefi Masnach Deg Ryngwladol, a daeth 250 o bobl o dros 40 o wledydd i Gymru i drafod dyfodol incwm byw, gweithredu dros Fasnach Deg ac arddangos gwaith arloesol Llywodraeth Cymru ar Fasnach Deg.

Coffi Masnach Deg 2020 – Fair Do’s Siopa Teg

Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ac yn gweithio’n agos â’r cynllun Coffi 2020 i gefnogi ffermwyr Masnach Deg sy’n rhan o brosiect coed Mbale drwy brynu eu coffi a’i hyrwyddo yng Nghymru fel brand sy’n Ystyriol o’r Hinsawdd – gan ddangos y cysylltiad rhwng Cymru, Uganda, Masnach Deg a Gweithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd.

Mewn partneriaeth â Menter Gydweithredol Cymunedau Amaethgoedwigaeth Mount Elgon, mae partneriaeth yng Nghymru dan arweiniad Fair Do’s Siopa Teg (menter Masnach Deg sydd wedi hen sefydlu yng Nghaerdydd) yn mewnforio 6,000kg o Goffi Masnach Deg ac Organig o Uganda i Gymru ac yn cefnogi bywoliaeth gynaliadwy i hyd at 3,000 o ffermwyr Masnach Deg yn Uganda.

Fe wnaeth y bartneriaeth gynnal gwaith ymchwil i’r farchnad ac mae bellach yn bwriadu annog gwerthiant ar-lein drwy system danysgrifio y bydd yn ei hyrwyddo drwy’r cyfryngau cymdeithasol a rhwydweithiau.

Cydraddoldeb Rhywiol a Grymuso Menywod

“Rhaid i fenywod a merched, ym mhobman, gael hawliau a chyfle cyfartal, a gallu byw’n rhydd rhag trais a gwahaniaethu. Mae cydraddoldeb a grymuso menywod yn un o’r 17 Nod Datblygu Cynaliadwy, ond maent hefyd yn rhan annatod o bob agwedd ar ddatblygu cynhwysol a chynaliadwy. Yn gryno mae’r holl Nodau Datblygu Cynaliadwy yn dibynnu ar gyflawni Nod 5

Unwomen.org

Gan ganolbwyntio’n benodol ar ddatblygu cyfleoedd sy’n gyd-fuddiol i fenywod a merched gyda’n partneriaid yn Uganda a Lesotho, mae Hub Cymru Affrica wedi cael cyllid gan Lywodraeth Cymru yn ddiweddar i gefnogi rhaglen beilot ar rywedd a chydraddoldeb yn y gwledydd hynny. Bydd y rhaglenni hyn yn dyfarnu grantiau a chymorth i sefydliadau yng Nghymru sy’n gweithio’n uniongyrchol mewn partneriaeth â sefydliadau yno.

Bydd canlyniadau allweddol y rhaglen yn cynnwys mwy o arweinyddiaeth, gweithio tuag at fwy o hawliau i fenywod a merched yn Uganda a Lesotho, gan gynnwys rhaglenni i leihau cam-drin domestig, cynyddu busnes a sgiliau a datblygu dysgu gan gymheiriaid. Yng Nghymru, byddwn yn cynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth o raglennu cydraddoldeb rhywiol yn y sector datblygu rhyngwladol yng Nghymru.

Camau Gweithredu Cenedl Deg

  • Byddwn yn helpu sefydliadau partner i gyflawni ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn llywodraeth ffeministaidd drwy ariannu partneriaethau rhywedd-benodol rhwng Cymru, Lesotho ac Uganda.
  • Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio’n agos gyda’r ddau brosiect i sicrhau’r effaith a’r cyhoeddusrwydd mwyaf posibl.
  • Byddwn yn parhau i weithio ar draws adrannau, gan ganolbwyntio ar gaffael, addysg a busnes, er mwyn dyfnhau dealltwriaeth o Fasnach Deg a’r gefnogaeth iddi.

4. Ein partneriaid a gweithio gydag eraill

Wrth ddatblygu’r Strategaeth Ryngwladol, ymgynghorwyd yn eang â bron i 600 o bartneriaid a rhanddeiliaid. Mae’r bobl sy’n cyflawni’r cynllun hwn y tu allan i’r llywodraeth yn bennaf ac rydym yn dibynnu arnynt i gyflawni’r agenda ar y cyd. Byddwn yn parhau i gydweithio â phartneriaid – gartref a thramor – i godi safonau’n barhaus a gwella effaith. Byddwn yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ddatblygu ymdeimlad o gymuned yng Nghymru, gan ddefnyddio’r cynllun grant a gwasanaethau Hub Cymru Affrica i ddatblygu a lledaenu arfer gorau. Mae gan Lywodraeth Cymru Femoranda Cyd‑ddealltwriaeth gyda phedair ardal yn nwyrain Uganda a chyda llywodraeth Lesotho. Byddwn yn parhau i adolygu’r Memoranda hyn ac yn parhau i geisio sicrhau budd ystyrlon i bawb.

Dyma rai o’n partneriaid strategol:

Maint Cymru

Mae Maint Cymru yn darparu cyllid ac arbenigedd i gymunedau lleol a chynhenid mewn rhanbarthau trofannol er mwyn eu cefnogi i ddiogelu eu coedwigoedd gwerthfawr a’u cynnal, tyfu mwy o goed a sefydlu ffyrdd cynaliadwy o ennill bywoliaeth. Drwy addysg, ymgysylltu â’r gymuned ac eiriolaeth, mae Maint Cymru hefyd yn codi ymwybyddiaeth yng Nghymru o bwysigrwydd coedwigoedd trofannol a choed wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd ac mae’n ysbrydoli pobl i weld y gallant fod yn rhan o’r ateb.

Gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru ac eraill, mae Maint Cymru yn ceisio diogelu ardal o goedwigoedd glaw trofannol ddwywaith maint Cymru. Mae Maint Cymru yn annog pobl Cymru i helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd drwy gymryd camau cadarnhaol syml. Mae’n gweithio gydag ysgolion a busnesau i godi arian ar gyfer coedwigoedd a chodi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd coedwigoedd wrth fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd.

Hub Cymru Africa (HCA)

Mae Hub Cymru Affrica yn bartneriaeth sy’n dwyn ynghyd gwaith Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru, y Panel Cynghori ar Faterion Affrica Is-Sahara a Masnach Deg Cymru. Ei ddiben yw tyfu, addysgu, proffesiynoli a mentora grwpiau bach i’w galluogi i weithio’n fwy effeithiol a chyflawni eu nodau. Mae’r grwpiau fel arfer yn sefydliadau datblygu rhyngwladol sydd wedi’u lleoli yng Nghymru, ac sy’n gweithio i gefnogi partneriaid yn Affrica i greu a darparu atebion arloesol i gymunedau sy’n byw mewn tlodi.

Y Panel Cynghori ar Faterion Affrica Is-Sahara (SSAP)

Ffurfiwyd y Panel Cynghori ar Faterion Affrica Is-Sahara yn 2009 pan gyfarfu nifer o grwpiau Affricanaidd sydd wedi’u lleoli yng Nghymru i ystyried sut y gallent weithio gyda’i gilydd i hyrwyddo eu diddordeb cyffredin mewn datblygu lleol a rhyngwladol. Er nad yw’n cynrychioli cymunedau Affricanaidd sydd wedi sefydlu yng Nghymru, mae’r Panel yn ceisio defnyddio sgiliau, capasiti a gwybodaeth a geir o fewn y cymunedau hyn er budd pawb. Mae’n dwyn ynghyd brofiadau bywyd go iawn ac yn sicrhau bod y sector elusennol yn wynebu realiti yn ogystal â dadlau o blaid datblygu.

Pwyllgor Argyfyngau Cymru (DEC Cymru)

Mae DEC Cymru yn sicrhau cyllid gan y cyhoedd yng Nghymru, rhoddwyr sefydliadol, ymddiriedolaethau a sefydliadau yng Nghymru, rhoddwyr corfforaethol ac unigolion gwerth net uchel. Mae’n sicrhau mwy o sylw gan bartneriaid yn y cyfryngau fel y BBC ac S4C, yn ogystal â chefnogwyr newydd fel Wales Online. Gyda chymorth Llywodraeth Cymru, gall DEC Cymru gyflogi Rheolwr Cysylltiadau Allanol gyda’r nod o godi mwy o arian, yn gyflymach ac yn fwy effeithlon, sy’n profi ysbryd hael pobl Cymru ar adegau o argyfwng rhyngwladol.

Dolen Cymru. Cyswllt Cymru Lesotho

Sefydlwyd Dolen Cymru ym 1985 ac mae wedi esblygu o gyswllt cyfeillgarwch i sefydliad datblygu rhyngwladol yn seiliedig ar bartneriaeth gref gyda phobl Lesotho. Mae gwaith Dolen Cymru yn cynnwys mentora athrawon, hyfforddiant iechyd meddwl, cymorth i academi rygbi, glanweithdra dŵr a hylendid a chefnogi dwsinau o gysylltiadau ysgol rhwng y ddwy wlad.

Anabledd yng Nghymru ac Affrica (DWA)

Sefydliad Pobl Anabl yw Anabledd yng Nghymru ac Affrica, sy’n ceisio hyrwyddo cynhwysiant anabledd o fewn Sector Cymru Affrica drwy hyfforddiant, ymgyrchu, ymchwil a chymorth i brosiectau. Mae’n defnyddio Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau a’r Nodau Datblygu Cynaliadwy i ategu ei waith. Ei weledigaeth yw byd lle mae pobl anabl yn aelodau llawn, cyfartal a chyfranogol o gymdeithas. Ar hyn o bryd mae’r DWA yn archwilio ffyrdd o hwyluso’r gwaith o rannu profiadau, arbenigedd a syniadau rhwng pobl anabl yng Nghymru ac Affrica yn unol â’i hamcan o Gyd-sefyll Byd-eang.

Prosiect Phoenix Prifysgol Caerdydd

Mae’r Prosiect Phoenix yn bartneriaeth gyda Phrifysgol Namibia sy’n gweithio i leihau tlodi, hybu iechyd a chynhyrchu amgylchedd gynaliadwy. Dros y naw mlynedd ddiwethaf mae Prosiect Phoenix wedi arwain a rheoli dros 40 o wahanol brosiectau addysg ac ymchwil.

Y Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu (FCDO)

Mae’n bwysig bod gennym berthynas strategol â’r Swyddfa Dramor, Cymanwlad a Datblygu newydd ar faterion yn ymwneud â datblygu rhyngwladol – un sy’n cyflawni ar gyfer pobl Cymru ac sy’n cefnogi cynnal ymrwymiad Llywodraeth y DU i wario 0.7% o’r GDP ar ddatblygu tramor. Roedd yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol (DFID) yn amlwg o ran ei gwaith arloesol i ddarparu cymorth i wledydd sy’n wynebu’r heriau mwyaf anhygoel, yn enwedig y rhai a achosir gan y newid yn yr hinsawdd. Mae llwyddiant y DFID wedi ei gwneud yn arweinydd byd-eang ym maes cymorth rhyngwladol a bydd Llywodraeth Cymru yn pwyso am sicrwydd na fydd uno’r Swyddfa Dramor a Chymanwlad a’r DFID yn gwanhau’r gwaith hwnnw.

Atodiad A: Cynllun Grant Cymru ac Affrica

Dyfarniadau Grant Bach – cyfanswm o £230,000 y flwyddyn

2018-19 (Cylch 1 a 2)

  • Partneriaeth Iechyd Rhyngwladol Betsi Quthing - Leotho/Gogledd Cymru
  • Prifysgol Caerdydd - Namibia/De Cymru
  • CEMPOP UK - Uganda/De Cymru
  • Cyswllt Cymru Lesotho Dolen Cymru - Lesotho/Cymru Gyfan
  • Giakonda Solar School - Zambia/De Cymru
  • Cyswllt Glan Clwyd-Ethiopia - Ethiopia/Gogledd Cymru
  • Griot Creative - Kenya/De Cymru
  • Love Zimbabwe - Zimbabwe/De Cymru
  • Teams for U Ltd - Uganda/Gogledd Cymru
  • Treeflights Ltd - Kenya/Canolbarth Cymru
  • Tropical Forest Products - Zambia/Canolbarth Cymru
  • Gŵyl Ffilm Wales African Film Festival - Kenya/De Cymru
  • Partneriaeth asnach Deg Ynys Môn - Gogledd Cymru
  • Blossom Africa - Uganda/De Cymru
  • Chomzungari Women's Co-operative - Zimbabwe/Gorllewin Cymru
  • Anabledd yng Nghymru ac Affrica - Cymru Gyfan
  • Dolen Ffermio - Uganda/Powys
  • Fair Do's/Siopa Teg - De Cymru
  • Ymgyrch Fairtrade in Football - Kenya/Gorllewin Cymru
  • Friends of Monze - Zambia/De Cymru
  • Hayaatt Women Trust - Somaliland/De Cymru
  • Hazina - Tanzania/Canolbarth Cymru
  • Interburns - Malawi/Gorllewin Cymru
  • Life for African Mothers - Sierra Leone/De Cymru
  • Clwb Ffermwyr Ifanc Maldwyn - Powys
  • South Wales Sierra Leone Cancer Care - Sierra Leone/De Cymru
  • Zimbabwe Newport Volunteering Association - Zimbabwe/De Cymru
  • Zanzibar Mental Health Shamba (ZAMHS) - Zanzibar/Canolbarth Cymru

2019-20 (Cylch 3 a 4)

  • Bees for Development - Somaliland/De Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Ethiopia/Gogledd Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Namibia/Gogledd Cymru
  • Eqlwys Gymraeg Mynydd Seion (EGMS) - Uganda/De Cymru
  • Gift of Grace Education Project - Nigeria/De Cymru
  • Heb Ffin - Uganda/De Cymru
  • Interburns - Malawi/Gorllewin Cymru
  • PONT - Uganda/De Cymru
  • Salt Peter Trust - Uganda/De Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Zimbabwe/Gorllewin Cymru
  • Tools for Self Reliance - Tanzania/Canolbarth Cymru
  • Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr - Kenya/Gogledd Cymru
  • Partneriaeth Iechyd Rhyngwladol Betsi Quthing - Lesotho/Gogledd Cymru
  • Brecon Molo Community Partnership (BMCP) - Kenya/Canolbarth Cymru
  • Ysgol Optometreg a Gwyddorau'r Golwg Prifysgol Caerdydd - Ghana/De Cymru
  • Cyswllt Cymru Lesotho Dolen Cymru - Lesotho/Wales Gyfan
  • Engineers for Overseas Development Limited (EFOD) - Uganda/De Cymru
  • Fair Do's/Siopa Teg CIC - Kenya/De Cymru
  • Masnach Deg Llanelli - De Cymru
  • Food Adventure Ltd - Cameroon/De Cymru
  • Giakonda Solar Schools - Zambia/De Cymru Zambia/De Cymru
  • Grŵp Masnach Deg Bangor/Bangor Fairtrade Group - Malawi/North Wales
  • Rhwydwaith Niokolo Network - Senegal/De Cymru
  • ResponsABLE assistance - Kenya/De Cymru
  • Coleg Brenhinol yr Obstetryddion a’r Gynaecolegwyr - Zambia/Cymru
  • Cyfarfod Crynwyr Abertawe - Cameroon/De Cymru
  • Teacher Aid - Zambia/De Cymru
  • Teams4U - Sierra Leone/Gogledd Cymru
  • Treeflights Ltd - Kenya/Canolbarth Cymru

2020-21 (Cylch 5 a 6)

  • Bees for Development - Ethiopia, Ghana, Uganda/De Cymru
  • Blossom Africa - Uganda/De Cymru
  • Care for Uganda - Uganda/De Cymru
  • Africa Greater Life Mission UK - Uganda/Canolbarth Cymru
  • Breathe Creative - Kenya
  • ChallengeAid - Kenya/Gorllewin Cymru
  • Chomuzangari Women’s Cooperative - Zimbabwe/De Cymru
  • Discovery Student Volunteering Swansea - Zambia/De Cymru
  • Cyswllt Cymru Lesotho Dolen Cymru - Lesotho/Cymru Gyfan
  • Give me hope Africa Wales - Uganda/De Cymru
  • Hay2Timbuktu - Mali/Dwyrain Cymru
  • Life for African Mothers - Sierra Leone/De Cymru
  • Love Zimbabwe - Zimbabwe/De Cymru
  • Mothers of Africa - Zambia/De Cymru
  • Partnerships Overseas Networking Trust (PONT) - Uganda/De Cymru
  • ReponsABLE Assistance - Kenya/De Cymru
  • Elusen Iechyd Prifysgol Bae Abertawe - Liberia/De Cymru
  • Teams4U - Sierra Leone/Gogledd Cymru
  • The SAFE Foundation - Sierra Leone/De Cymru
  • Treeflights Ltd - Kenya/Canolbarth Cymru
  • Trio Uganda - Uganda/De Cymru
  • United Purpose - Senegal/Cymru Gyfan
  • ZAMHS - Zanzibar (Tanzania)/Canolbarth Cymru
  • Zimbabwe Newport Volunteering Association - Zimbabwe/De Cymru