Mae Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi galw ar Lywodraeth y DU i sgrapio polisïau didostur ar fudd-daliadau, i fabwysiadu cynlluniau i leihau biliau ynni, ac i ddatganoli pwerau ymhellach er mwyn helpu i ysgogi cynnydd parhaus wrth fynd i'r afael â thlodi.
Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban yn ysgrifennu at weinidogion y DU cyn y Gyllideb
Mewn llythyr ar y cyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, Pat McFadden, a'r Ysgrifennydd Addysg, Lucy Powell, mae Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol yr Alban a Dirprwy Brif Weinidog Cymru wedi annog Llywodraeth y DU i sgrapio'r cap ar fudd-daliadau a'r dreth ystafell wely, ac i roi diwedd ar rewi'r lwfans tai lleol. Mae'r polisïau hyn yn ehangu'r bwlch rhwng budd-daliadau tai a rhenti go iawn, gan gynyddu digartrefedd a thlodi.
Maen nhw'n galw hefyd ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu cynigion Llywodraeth yr Alban i gyflwyno tariff cymdeithasol ar ffurf gostyngiadau wedi'u targedu i filiau. Mae gwaith modelu cyhoeddedig yn dangos y byddai biliau tanwydd amcangyfrifedig yn gostwng £700 ar gyfartaledd ar gyfer 660,000 o aelwydydd yn yr Alban.
Fis diwethaf, llofnododd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban Gytundeb Caerdydd, gan ymrwymo i weithio gyda'i gilydd ar feysydd megis mynd i'r afael â thlodi plant a chostau byw.
Dywedodd Ysgrifennydd Cyfiawnder Cymdeithasol yr Alban, Shirley-Anne Somerville:
Mae'r Alban a Chymru yn glir fod angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig wneud llawer mwy i helpu pobl i ymdopi â chostau byw, ac i gefnogi ein hymdrechion i ddileu tlodi plant.
Yr Alban yw un o'r gwledydd mwyaf cyfoethog yn y byd o ran adnoddau ynni ond rydyn ni'n talu rhai o'r biliau uchaf yn Ewrop, sydd eisoes gannoedd o bunnoedd yn uwch na'r hyn gafodd ei addo pan ddaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig i rym. Mae'n achosi caledi go iawn ledled y wlad ac mae'n un o brif achosion tlodi.
Mae Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru hefyd yn glir bod angen rhagor o weithredu yng Nghyllideb y Deyrnas Unedig i gefnogi ein gwaith ar dlodi plant. Mae hynny'n cynnwys rhoi diwedd ar y cap creulon ar fudd-daliadau, sy'n cosbi plant am amgylchiadau y tu hwnt i'w rheolaeth. Mae mwy o frys nag erioed i wneud hyn, gan fod data'r Adran Gwaith a Phensiynau ei hun yn dangos bod nifer y plant yn yr Alban y mae'r cap yn effeithio arnyn nhw wedi dyblu i bron i 20,000 rhwng mis Mawrth a mis Mai eleni.
Mae ein cynllun blaengar, Taliad Plant yr Alban, yn dangos y polisïau arloesol ac uchelgeisiol y gallwn ni eu rhoi ar waith pan fo'r pwerau gennym ni. Mae'n dangos pam mae angen mwy o bwerau ar yr Alban a Chymru, yn hytrach na gweld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn cadw'r pwerau hynny.
Mae rhaid i Lywodraeth y Deyrnas Unedig nawr gymryd camau yn eu Cyllideb i leihau biliau a gwella safonau byw. Ac os na fyddan nhw'n gweithredu, dylen nhw drosglwyddo'r pwerau i Lywodraeth yr Alban a fyddai'n gwneud hynny.
Dywedodd y Dirprwy Brif Weinidog a Gweinidog Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol a Chydraddoldeb, Sioned Williams:
Rydyn ni i gyd o'r un farn na ddylai bywyd unrhyw blentyn gael ei gyfyngu gan dlodi. Mae mynd i'r afael â thlodi yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac rydyn ni'n mynd ati mewn nifer o ffyrdd gan gynnwys ehangu gofal plant wedi'i ariannu a chyflawni strategaeth tlodi plant newydd gyda thargedau ystyrlon. Er ein bod ni'n cymryd camau cadarn lle bynnag y gallwn ni, mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig chwarae ei rhan ac mae ein llythyr ar y cyd â Llywodraeth yr Alban yn galw am set glir o gamau gweithredu i'n helpu ni i fynd i'r afael â thlodi plant. Mae'n ymwneud â mwy na'r pwerau hynny sy'n parhau yn nwylo Llywodraeth y Deyrnas Unedig, mae hefyd yn cynnwys ein galluogi ni i ddefnyddio ein pwerau ein hunain yn effeithiol.
Un enghraifft o hyn yw taliad plant Cynnal yng Nghymru. Mae angen i Lywodraeth San Steffan gydweithio â ni er mwyn i hyn lwyddo, ac er mwyn sicrhau nad yw'r rhai sy'n cael y taliad yn cael eu cosbi drwy golli eu hawl i fudd-daliadau eraill, gan alluogi plant a theuluoedd i gael y cymorth mwyaf posibl. Rwy'n galw ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig nawr i weithio gyda ni a rhoi sicrwydd inni y gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn drwy'r cynllun hwn.
Mae cyflwyno tariff cymdeithasol hefyd yn gam allweddol, ac rwy'n ymuno â galwad cydweithwyr ledled y Deyrnas Unedig i gyflwyno hyn ar frys. Mewn sawl maes fel hyn, Llywodraeth San Steffan sydd â'r gallu i wneud y gwahaniaeth a'r gyllideb yw'r cyfle i wneud hyn ar gyfer teuluoedd yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig.
