Neidio i'r prif gynnwy

Fel rhan o’r ymdrech i wneud Cymru’n wlad ddiwastraff erbyn 2050, mae Llywodraeth Cymru wedi treialu defnyddio hen gewynnau fel rhan o’r wyneb newydd ar ddarn o’r A487 rhwng Aberteifi ac Aberystwyth.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ffeibrau o 4.3 tunnell o hen gewynnau wedi’u defnyddio i wneud asffalt, yn lle’r deunydd o Ewrop a thu hwnt sydd fel arfer yn cael eu defnyddio. Daeth y cynhwysyn arall - yr agregau - o fewn 45 milltir gan gynnal swyddi lleol a lleihau carbon trwy gwtogi’r gadwyn gyflenwi.

Ar hyn o bryd mae cewynnau a chynhyrchion hylendid amsugnol eraill yn cael eu casglu mewn 15 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru. Er hynny, mae dal rhyw 143 miliwn o gewynnau’n cael eu taflu i’r bin bob blwyddyn yng Nghymru.

Maen nhw’n cael eu cyfrif fel plastig untro ac maen nhw’n gallu cymryd cannoedd o flynyddoedd i ddiraddio mewn safle tirlenwi. Er mai mater rhwydd yw ailgylchu’r leinin plastig, mae’r ffeibrau yn y darn amsugnol yn fwy o broblem.

I fynd i’r afael â hyn, cafodd Nappicycle, cwmni o Rydaman, arian gan Lywodraeth Cymru trwy ei rhaglen arloesi SMART, i lanhau hen gewynnau a gwahanu’r plastig a’r ffeibrau cellwlos er mwyn eu hailddefnyddio. Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda busnesau eraill o Gymru i weld a oes marchnadoedd eraill ar gyfer y ffeibrau.

Y ffordd yw un yn unig o lawer o gynlluniau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio arnyn nhw i symud at economi gylchol - lle mae gwastraff yn cael ei droi’n adnodd a’i ddefnyddio gyhyd ag y gellir.

Os bydd y treial - a fydd yn cynnal asesiadau amgylcheddol trylwyr i graffu ar ddadansoddiad o'r deunydd dros amser - gan leihau gwastraff, taclo’r newid yn yr hinsawdd a chreu swyddi gwyrdd.

Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:

Mae’r ffordd at fod yn ddiwastraff yn dibynnu ar arloesedd, cydweithio a gweithredu pendant.  Ers dechrau datganoli, rydyn ni wedi codi’n hunain o fod yn un o ailgylchwyr gwaetha’r byd i fod yn un o’r gorau. Nid oes amheuaeth, o weithio gyda’n gilydd fel Tîm Cymru, y gallwn fod y gorau yn y byd gan roi stop ar anfon sbwriel i safleoedd tirlenwi erbyn 2025 ac i losgyddion ynni erbyn 2050.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i helpu’n busnesau i ddylunio a datblygu atebion arloesol i broblemau’r byd a fydd yn rhoi hwb i’n heconomi ac yn diogelu’n cymdeithas.

Rwy’n falch iawn bod ein Tîm Arloesi wedi gallu gwneud cyfraniad mor arloesol at fynd â’r prosiect hwn yn ei flaen. Unwaith eto, mae Cymru’n dangos ei bod yn geffyl blaen o ran ymchwilio a datblygu er lles yr Economi Gylchol.

Cymru yw’r gorau yn y DU, yr ail orau yn Ewrop a’r trydydd gorau yn y byd am ailgylchu gwastraff domestig. Cymru yw’r unig wlad yn y byd sydd â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, sy’n ein gorfodi i ystyried effaith pob penderfyniad polisi ar genedlaethau’r dyfodol.