Neidio i'r prif gynnwy

Mae ffigurau sydd wedi'u rhyddhau gan Lywodraeth Cymru heddiw yn dangos bod swm y gwastraff y mae aelwydydd yng Nghymru'n ei ailgylchu wedi cynyddu eto.

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Mai 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yn ystod y 12 mis hyd at fis Rhagfyr 2016 ailgylchodd Awdurdodau Lleol, ar gyfartaledd, 63% o'u gwastraff, o'i gymharu â 59% dros yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol.

Llwyddodd 19 o'r 22 Awdurdod Lleol yng Nghymru i gynyddu eu cyfradd ailgylchu, a hynny o un pwynt canran man lleiaf o’i gymharu â’r cyfnod o fis Hydref hyd fis Rhagfyr 2015. Yr awdurdodau gwledig, o'u grwpio gyda'i gilydd, sydd â'r gyfradd ailgylchu fwyaf o hyd gan eu bod wedi llwyddo i ailgylchu, ar gyfartaledd, 65% o'u gwastraff yn ystod y cyfnod o 12 mis hyd ddiwedd mis Rhagfyr 2016.  

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd gan gylchgrawn Resource yn gynharach eleni, a wnaeth rancio Cymru'n drydydd yn y byd am ailgylchu.

Mae Cymru bellach yn ailgylchu ddwywaith cymaint nag yr oedd ddegawd yn ôl ac mae'n parhau i gael ei defnyddio fel enghraifft o arfer da i wledydd eraill y DU.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths:

"Mae ystadegau heddiw'n dystiolaeth galonogol ein bod yn cyflawni'r uchelgais a nodwyd yn ein Rhaglen Lywodraethu i fod hyd yn oed fwy ar y blaen o'i chymharu â gwledydd eraill o safbwynt ailgylchu ac anfon cyn lleied â phosibl o wastraff i'w dirlenwi.

"Mae'r adroddiad diweddaraf yn dangos ein bod yn parhau i fynd ymhellach na'n targed statudol o ailgylchu 58% o'n gwastaff a bod disgwyl i ni gyflawni ein targed o 70% erbyn 2025. Nid yw'r gwaith yma wedi bod yn hawdd ond rydym wedi cyflwyno rhai newidiadau sylweddol a hoffwn ddiolch i ddeiliaid tai ac Awdurdodau Lleol am eu derbyn ac am ymrwymo i ailgylchu eu gwastraff.

"Er bod y llwyddiant hwn i'w ganmol mae heriau o'n blaenau o hyd. Mae hanner yr holl ysbwriel sy'n cael ei gasglu o gartrefi yn ddeunydd y byddai'n hawdd ei ailgylchu, a gwastraff bwyd yw chwarter ohono. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gydweithio er mwyn sicrhau bod y deunydd yma'n cael ei ailgylchu. Dyma sut y gallwn leihau'r effaith ar yr amgylchedd a lleihau'r costau ar gyfer Awdurdodau Lleol."