Neidio i'r prif gynnwy

Mae gwaith Llywodraeth Cymru o ddatblygu strategaeth integredig newydd ar gyfer hyrwyddo Cymru wedi cyrraedd restr fer fyd-eang ar gyfer arddangosfa flynyddol Beazley Designs.

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Awst 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae Amgueddfa Ddylunio Llundain wedi cyhoeddi’r enwebeion ar gyfer degfed penblwydd gwobr Ddylunio flynyddol Beazley.  Mae’r wobr flynyddol a’r arddangosaf sy’n cyd-fynd â hi, sy’n digwydd ar safle’r Amgueddfa Ddylunio yn Kensington, Gorllewin Llundain, yn bwriadu dangos dros 60 o’r prosiectau dylunio gorau ledled y wlad yn ystod y 12 mis diwethaf.  Enillydd cyffredinol y llynedd oedd lloches ffoaduriaid mewn pecyn fflat gan Ikea, sef Better Shelter.  

Ynghyd â gwaith Smörgåsbord, mae tri prosiect ar ddeg wedi eu henwebu yn y categori Graffeg, yn amrywio o Faner Cenedl y Ffoaduriaid a gynlluniwyd ar gyfer y tîm cyntaf o ffoaduriaid yn y Gemau Olympaidd; i logo a delwedd newydd ar gyfer Amgueddfa Gelf Reykjavik. 

Cafodd brand newydd Cymru ei gyflwyno yn gyntaf ym mis Ionawr 2016 drwy’r ymgyrch dwristiaeth Blwyddyn Antur.  Cynhaliwyd y gwaith i ymateb i awydd Llywodraeth Cymru i ddatblygu dull mwy integredig o hyrwyddo Cymru i’r byd fel lle i ymweld ag ef, masnachu, buddsoddi a byw ynddi.  

Yn ganolog i’r dull newydd hwn o hyrwyddo, mae strategaeth newydd hyderus a disgirifad atyniadol sy’n rhoi platfform i hyrwyddo Cymru yn rhyngwladol.  Agwedd allweddol arall y brand yw’r ddelwedd weledol, gan gynnwys portread modern o’r ddraig ar faner Cymru.  Mae dull newydd o dynnu lluniau hefyd a theip pwrpasol,  Cymru Wales Sans, wedi’i ysbrydoli gan dreftadaeth Cymru yn y byd argraffu, gan gynnwys y llythrennau dwbl sy’n unigryw i’r Gymraeg.   

Mae’r enwebiadau ar gyfer arddangosfa flynyddol Dyluniadau Beazley yn canolbwyntio’n bennaf ar y ffurfdeip newydd.  Mae hyn yn dilyn y broliant blaenorol gan Wobrau Dylunio Ewropeaidd 2017 ble yr enillodd y ffurfdeip y Wobr Aur ar gyfer y dyluniad gorau yn y sioe ar draws bob categori.  Mae’r sector teithio wedi cydnabod y dull newydd o weithio hefyd gan iddynt ennill gwobrau yng Ngwobrau Marchnata Teithio 2017.

Fel yr eglurodd Dylan Griffith o Smörgåsbord’s: 

“Mae gan Gymru ei hiaith ei hun a’r Gymraeg yw un o ieithoedd hynaf Ewrop.  Gan ei bod yn wahanol iawn i’r Saesneg, roeddem yn teimlo bod angen creu ffurfdeip pwrpasol sy’n rhoi lle amlwg i hanes cyfoethog y wlad a tharddiad y Gymraeg.  Y ffurfdeip Cymru Wales Sans yw conglfaen brand newydd Cymru, ac mae wedi dod yn fath o linyn aur sy’n uno’r gwaith graffeg ar draws pob sector.”  

Meddai Ken Skates, Gweinidog yr  Economi a’r Seilwaith:  

“Ein nod oedd creu hunaniaeth atyniadol a chyson yn weledol i helpu i adrodd storïau newydd, diddorol am Gymru, i ategu hanes, prydferthwch a diwylliant cyfoethog ein gwlad.  Mae bod ar y rhestr fer ar gyfer y wobr amlwg hon yn dangos bod ein dull arloesol o weithio yn sefyll allan yn y farchnad fyd-eang.  

“Mae’r dull hwn o weithio wedi derbyn ymateb gwch drwy’r ymgyrchoedd Blwyddyn Antur a Blwyddyn y Chwedlau.  Mae hefyd wedi ei ddefnyddio i wella ein dull o gyflwyno Cymru fel lleoliad i fusnesau fasnachu a buddsoddi, ansawdd ein bwyd a’n diod, ac mae wedi ei ddefnyddio ar gyfer ymgyrch lwyddiannus i recriwtio mwy o Feddygon Teulu yng Nghymru.  Rwy’n falch iawn o lefel y cymorth a’r brwdfrydedd y mae’r dull newydd hwn o weithio eisoes wedi ei ddenu – yn enwedig o’r gymuned twristiaeth a busnes yng Nghymru, a hefyd o frandiau o safon o’r sector preifat sydd wedi dangos diddordeb i gydweithio’n agosach â ni i hyrwyddo Cymru i’r byd.   

“Er bod y gwobrau hyn yn bwysig, rydym hefyd wedi gweld tystiolaeth bod brand newydd Cymru a’r ymgyrchoedd cysylltiedig eisoes yn gwneud gwahaniaeth i’r economi.  Er enghraifft, daeth £370 miliwn yn ychwanegol i economi Cymru o ganlyniad i ymgyrch Croeso Cymru 2016  – sef cynnydd o 18% o gymharu â 2015.”