Neidio i'r prif gynnwy

Daeth yr ymgynghoriad i ben 28 Chwefror 2013.

Cyfnod ymgynghori:
26 Tachwedd 2012 i 28 Chwefror 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion am y canlyniad

Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 160 KB

PDF
160 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Ymgynghoriad gwreiddiol

Bydd yr ymgynghoriad hwn yn helpu i ddatblygu strategaeth tipio anghyfreithlon newydd ar gyfer Cymru.

Disgrifiad o'r ymgynghoriad

Rydym yn datblygu strategaeth tipio anghyfreithlon newydd gan fod y strategaeth bresennol a dogfen bartneriaeth Taclo Tipio Cymru “Ymfalchïo yn ein Cymunedau” yn dod i ben yn 2012.

Tipio yw'r term cyffredin sy'n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio gwastraff sy'n cael ei adael ar dir yn anghyfreithlon. Rydym wedi ymrwymo i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Rydym wedi ariannu menter 5 mlynedd dan yr enw Taclo Tipio Cymru sydd wedi bod yn llwyddiannus ond mae gwaith i’w wneud o hyd.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn gosod ein gweledigaeth newydd ar gyfer:

Cymru rhydd rhag niwed cymdeithasol economaidd ac amgylcheddol annerbyniol wedi’i achosi gan dipio anghyfreithlon. Dyfodol lle’r ydym oll yn cydweithio i gymryd cyfrifoldeb dros ein gwastraff ac i ymfalchïo yn ein cymunedau.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn nodi canlyniadau allweddol i herio tipio anghyfreithlon ledled Cymru yn y dyfodol gan gynnwys:

  • ymrwymiad gan bob sefydliad allweddol yng Nghymru i ddileu tipio anghyfreithlon
  • dealltwriaeth eang bod tipio anghyfreithlon yn annerbyniol mewn cymdeithas
  • haws i bobl ddelio â’u gwastraff mewn ffordd gyfrifol
  • unrhyw un sy’n tipio’n anghyfreithlon yn cael ei ddal a’i gosbi’n briodol.

Dogfennau ymgynghori

Dogfen ymgynghori , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 170 KB

PDF
170 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.