Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, bydd Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd, yn cyhoeddi cynlluniau a fydd yn atgyfnerthu enw da Cymru fel y genedl orau yn y DU am ailgylchu a lleihau gwastraff

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Mai 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Er mwyn sicrhau mai hi fydd 'Cenedl Ail-lenwi' gyntaf y DU, bydd gwaith yn dechrau i drefnu bod dŵr yfed ar gael yn fwy hwylus mewn mannau cyhoeddus ledled Cymru. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda City to Sea ar ddatblygu ymgyrch ail-lenwi i Gymru, a bydd hefyd yn cydweithio'n agos â chwmnïau dŵr yng Nghymru a chyda'n busnesau, ein helusennau a'n digwyddiadau mawr. Bydd y gwaith hefyd yn cynnwys ymgyrch i newid ymddygiad er mwyn helpu pobl i weld gwerth dŵr ac i sicrhau mai dŵr tap yw’r dewis cyntaf ar gyfer torri syched. 

Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi hefyd y bydd £15 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol ar gael i wella hyd yn oed mwy ar systemau a seilwaith casglu ac ailgylchu'r awdurdodau lleol, gan gynnwys y systemau sydd ganddynt ar gyfer plastigau.

Wrth siarad yn y Senedd heddiw, bydd Hannah Blythyn yn cyhoeddi prif ganfyddiadau'r ymchwil ar Roi Mwy o Gyfrifoldeb ar y Cynhyrchwyr. Roedd yr ymchwil honno’n canolbwyntio ar leihau ac ailgylchu gwastraff ac ar leihau sbwriel a achosir gan chwe math penodol o ddeunyddiau pacio bwyd a diod.   

  • Wrth ymateb i'r adroddiad, cadarnhaodd y Gweinidog y bydd Llywodraeth Cymru yn cydweithio â Defra a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar y materion a ganlyn: 
  • Ystyried cyflwyno cynllun dychwelyd ernes ar lefel y DU ar gyfer cynwysyddion diodydd. Bydd y Gweinidog yn cyfarfod â'r gweinidogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban yr wythnos nesaf i drafod y mater hwn. Rhaid i unrhyw gynllun ystyried y risgiau a'r manteision i'r ddarpariaeth sydd eisoes yn bodoli ac i'r lefelau ailgylchu presennol, a rhaid iddo hefyd adeiladu ar y gwaith a wnaed eisoes yng Nghymru. 
  • Ystyried diwygio Rheoliadau Rhwymedigaethau Cyfrifoldeb Cynhyrchwyr (Gwastraff Deunydd Pacio) fel y bo cynhyrchwyr a manwerthwyr yn talu cyfran uwch o gostau rheoli gwastraff. 

Parhau i gydweithio â Thrysorlys EM i gyflwyno treth ar lefel y DU ar blastigau untro. Ar yr un pryd, bydd ystyriaeth yn cael ei rhoi i godi treth, ardoll neu dâl ar gwpanau diodydd untro yng Nghymru. Byddwn hefyd yn ystyried ei gwneud yn orfodol i ddefnyddio cwpanau amldro ac mae’n bosibl y byddwn yn cynnal cynllun peilot. 

Mae'n fwriad gan y Gweinidog hefyd gomisiynu rhagor o astudiaethau dichonoldeb er mwyn sicrhau bod cynllun dychwelyd ernes ar lefel y DU yn arwain at y manteision mwyaf posibl i Gymru, ac er mwyn meithrin gwell dealltwriaeth o fathau o sbwriel yng Nghymru ac o le mae'n dod. 

Cadarnhaodd y Gweinidog hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi llofnodi 'Ymrwymiad ar Blastigau' WRAP (Rhaglen Gweithredu'r Cynllun Gwastraff ac Adnoddau), sef ymrwymiad gan fusnesau i leihau maint y gwastraff plastig sy'n cael ei greu yn y DU. 

Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda busnesau, y sector cyhoeddus, elusennau a digwyddiadau mawr yng Nghymru i helpu i sicrhau nad ydym yn defnyddio plastic untro yn ddiangen.  

Mae WRAP Cymru, gan ddefnyddio cyllid a roddwyd gan Lywodraeth Cymru, yn paratoi "Trywydd Ailgylchu Plastigau" ar gyfer Cymru, a fydd yn argymell camau er mwyn cynyddu'r defnydd o ddeunydd wedi’i ailgylchu wrth weithgynhyrchu plastig yng Nghymru.  

Dywedodd y Gweinidog:

"Mae Cymru ar flaen y gad wrth ailgylchu. Ni yw'r gorau yn y DU, y gorau ond un yn Ewrop a'r gorau ond dau yn y byd. Dwi'n awyddus i adeiladu ar y llwyddiant hwn.

"Dwi'n falch o gael cyhoeddi amryfal fesurau i roi mwy o hwb i ailgylchu ac i leihau gwastraff, gan gynnwys £15 miliwn i’r awdurdodau lleol wella'u cyfraddau ailgylchu ar draws Cymru. Dwi'n awyddus hefyd i Gymru fod yn 'Genedl Ail-lenwi gyntaf y byd, ac i sicrhau bod dŵr tap ar gael yn hwylus mewn mannau cyhoeddus ledled Cymru. 

"Dw i wrthi ar hyn o bryd yn ystyried y rhan y gall Cymru ei chwarae mewn cynllun dychwelwyd ernes ar draws y DU. Gall datblygu ffyrdd o weithio a fydd yn cael eu defnyddio ar draws y DU fod yn llai cymhleth i ddefnyddwyr ac yn well i fusnesau. Maen nhw wedi dweud wrthym mai dyna fyddai’n well ganddyn nhw, yn enwedig wrth inni baratoi ar gyfer Brexit. Dwi hefyd yn ystyried newid rheoliadau fel y bo cynhyrchwyr a manwerthwyr yn talu cyfran fwy o gostau rheoli gwastraff.

"Rydyn ni'n parhau i gydweithio â Thrysorlys EM ar gyflwyno treth ar lefel y DU ar blastigau untro. Byddwn, ar yr un pryd, yn parhau i ystyried codi treth, ardoll neu dâl ar gwpanau diodydd untro yng Nghymru. Rhywbeth arall dwi'n ystyried yw ei gwneud yn orfodol i ddefnyddio cwpanau amldro ac mae’n bosibl y byddwn yn cynnal cynllun peilot. 

"Ni oedd y cyntaf yn y DU i gyflwyno tâl am fagiau siopa plastig. Gallwn ni fod ar flaen y gad unwaith eto a sicrhau mai Cymru yw'r wlad orau yn y byd am ailgylchu.”