Neidio i'r prif gynnwy

Dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Yr Arglwydd Elis-Thomas, heddiw y bydd Cymru Greadigol yn efelychu model cyrff eraill Llywodraeth Cymru fel Croeso Cymru a Cadw.

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Wrth siarad yng nghyfarfod y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu, amlinellodd yr Arglwydd Elis-Thomas ei gynlluniau ar gyfer y corff a fydd yn rhan o Lywodraeth Cymru ond a fydd â'r ymreolaeth i wneud ei benderfyniadau masnachol ei hun ar sail dealltwriaeth arbenigol o'r diwydiant a'i anghenion.

Dywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas:

"Mae'n Diwydiannau Creadigol wedi profi llwyddiant eithriadol dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae Llywodraeth Cymru wedi'u helpu i ddenu a chynhyrchu dramâu a ffilmiau teledu sydd wedi ennill nifer o wobrau a llawer iawn mwy. Mae hyn oll yn helpu i dynnu sylw'r byd at Gymru, yn cefnogi swyddi lleol ac yn hybu'r economi.

"Mae cyfleoedd di-ri a heb eu hail bellach yn bodoli a gall y diwydiant, drwy dderbyn y gefnogaeth gywir dros y blynyddoedd nesaf, barhau i fynd o nerth i nerth. Golyga hyn y gallai Cymru elwa hyd yn oed yn fwy ar waith y diwydiannau hyn. Bydd angen cefnogaeth wedi'i theilwra i alluogi busnesau i dyfu o fewn y sector, a hynny fel rhan o ddull ehangach a mwy cynhwysol, fel y gallwn ymateb mewn modd mwy hyblyg i fusnesau a hefyd i ddiwydiant sy'n prysur ddatblygu a newid. Bydd Cymru Greadigol yn helpu i gyflawni hyn.

"Bydd Cymru Greadigol yn cynnig gwasanaeth deinamig, blaengar ac effeithiol i'r sector hwn ar ran y Llywodraeth, a bydd yn cynnig cefnogaeth wedi'i theilwra i Fusnesau Bach a Chanolig, cynyrchiadau a gweithwyr llawrydd yng Nghymru a hefyd gwmnïau'r gadwyn gyflenwi. Bydd yn parhau i gynnig cyllid drwy'r Gyllideb Buddsoddi yn y Cyfryngau a hefyd fynediad arbennig at Gronfa newydd Dyfodol Economaidd.

"Rwy'n ffodus fod gen i eisoes ddau gorff o fewn fy mhortffolio sydd â'r hyblygrwydd a'r ddealltwriaeth i ymateb a gweithredu'n gyflym mewn ymateb i anghenion y diwydiant, sef Croeso Cymru a Cadw. Dyma gyrff uchel eu parch sydd â'r gallu a'r drefniadaeth i gynnig llais penodol i'r sector ac ychwanegu cannoedd ar filoedd o bunnoedd at werth ein heconomi drwy fuddsoddiad a threfniadau gweithio blaengar.

"Hoffwn weld Cymru Greadigol yn efelychu model tebyg, gan gynnig y gefnogaeth sydd ei hangen ar y sector ac y mae'r sector wedi gofyn amdani er mwyn gallu cystadlu yn erbyn y goreuon yn y byd, gan barhau'n atebol fel bod arian trethdalwyr yn cael ei wario'n ddoeth ac at ddibenion penodol. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn y sefyllfa orau bosibl i adeiladu ar yr holl waith caled sydd eisoes wedi'i gyflawni - gan godi lefelau sgiliau ymhellach, atgyfnerthu'r gadwyn gyflenwi a gwella rhwydweithiau er mwyn helpu'r diwydiant hwn i barhau i fynd o nerth i nerth. Rwy'n gobeithio y bydd y corff yn weithredol cyn gynted â phosibl."

Ychwanegodd y Gweinidog y byddai gan Cymru Greadigol strwythur, yn fwy na thebyg, gyda Bwrdd a Chadeirydd allanol, ac y byddai ei waith yn cael ei arwain gan Brif Weithredwr neu swydd gyfatebol.