Neidio i'r prif gynnwy

Adran 1: pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?

Integreiddio

Nododd y Rhaglen Lywodraethu y camau y byddwn yn eu cymryd dros dymor y Senedd hon. Mae ein gwerthoedd o gyfiawnder cymdeithasol, economaidd, diwylliannol ac amgylcheddol wrth wraidd popeth a wnawn – er mwyn sicrhau nad oes neb yn cael ei adael ar ôl, neb yn cael ei ddal yn ôl, drwy ymrwymiad a rennir i sicrhau bod pawb yn cyrraedd ei botensial.

Mae'r Cynllun Cyflogadwyedd a Sgiliau yn ceisio dangos blaenoriaethau polisi a buddsoddi clir, gan fireinio ein ffocws cyflawni a gweithgarwch partneriaid ar gamau gweithredu dros dymor y Llywodraeth hon a fydd yn gadael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Y tymor hir

Cyhoeddwyd ein cyfres gyntaf o Gerrig Milltir Cenedlaethol ym mis Rhagfyr 2021 i nodi ein nodau tymor hwy i helpu i fesur cynnydd a sbarduno ymateb ar y cyd ar draws pob corff cyhoeddus sy’n ddarostyngedig i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Nod y cynllun newydd yw datblygu ein dull gweithredu ar gyfer sicrhau Cymru decach drwy wneud y canlynol:

  • hybu cyfranogiad, cynnydd a chyflogaeth pobl ifanc
  • mynd i'r afael ag anghydraddoldeb economaidd
  • hybu chwarae teg i bawb yn y gwaith
  • cefnogi pobl sydd â chyflwr iechyd hirdymor i weithio
  • codi lefelau sgiliau a chymwysterau a gwella symudedd y gweithlu

Atal

Mae'r cynllun hwn yn manylu ar sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â rhai o heriau allweddol y farchnad lafur a thueddiadau'r dyfodol, yn blaenoriaethu ein hadnoddau i roi'r ddarpariaeth bresennol i bobl a sgiliau, a sicrhau hyblygrwydd ac ystwythder y system i ymateb i newid yn y farchnad lafur, polisi a gostyngiadau mewn cyllid.

Cydweithio a chymryd rhan

Mae'n defnyddio cydweithrediad a chyfranogiad yn yr ymgynghoriad ar y Cerrig Milltir Cenedlaethol, Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol, a'r gwaith o gyd-ddatblygu'r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, a'r blaenoriaethau a nodir ynddo.

Mae hefyd yn nodi disgwyliadau rhannau eraill o'r system gyflogadwyedd ehangach megis awdurdodau lleol, cyflogwyr a darparwyr addysg a hyfforddiant ôl-orfodol, a'n disgwyliadau o ran y berthynas barhaus â'r Adran Gwaith a Phensiynau, y mae gan bob un ohonynt gyfraniad hanfodol i'w wneud wrth gydweithio i wneud y defnydd gorau o adnoddau i greu Cymru Gryfach, Decach a Gwyrddach.

Yn bwysig iawn, byddwn yn dyfnhau'r bartneriaeth gymdeithasol rydym wedi'i datblygu dros y ddau ddegawd diwethaf drwy ei roi yn y gyfraith, a'i defnyddio i roi ffocws i'r gwaith y mae angen i ni ei wneud gyda'n gilydd, i sicrhau marchnad lafur deg a chyfartal yng Nghymru.

Costau ac Arbedion

Mae'r Cynllun yn nodi ein bwriad i ganoli darpariaeth ac adnoddau presennol er mwyn canolbwyntio ar y grwpiau y mae angen cymorth arnynt fwyaf. Ar yr un pryd, rydym am barhau i fod yn hyblyg er mwyn ymateb i newidiadau yn y farchnad lafur, polisïau a newidiadau i gyllid yn y dyfodol, a gwneud y defnydd gorau o adnoddau yn y dyfodol.

Nid oes modd inni roi cyllid yn lle arian Cronfa Gymdeithasol Ewrop a gollwyd drwy ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac mae Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU yn rhy fach ac yn rhy hwyr i sicrhau y gellir parhau i gynnig cymorth ar y lefel bresennol.

Rydym wedi gosod blaenoriaethau yn ein cyllidebau er mwyn sicrhau cyfnod pontio mor ddidrafferth â phosibl, a chynyddu faint rydym yn ei fuddsoddi mewn pobl a sgiliau mewn meysydd allweddol.

Rydym yn ymwybodol o'r colledion sylweddol o ran cyllid a darpariaeth a ddaw i'r amlwg wrth i Gronfeydd Ewropeaidd ddod i ben. Rydym yn parhau i herio'r ffordd y caiff cronfeydd y DU eu defnyddio ac yn ceisio cydweithio â Llywodraeth y DU er mwyn datblygu ein hamcanion cyffredin, yn benodol drwy weithio'n agos gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau.

I randdeiliaid, bydd y Cynllun yn helpu partneriaid i sicrhau bod eu gweithgarwch yn cyd-fynd â'n blaenoriaethau a, lle y bo angen, yn helpu i sicrhau bod cyllid Llywodraeth y DU yn cael ei ddefnyddio mewn modd sy'n cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, yn lle mynd yn groes iddynt.

Adran 7: casgliad

7.1 Sut mae'r bobl y mae'r cynnig yn fwyaf tebygol o fod wedi effeithio arnynt wedi bod yn rhan o'i ddatblygu?

Mae'r strategaeth hon yn crynhoi amrywiaeth eang o waith datblygu polisi ac ymgynghori sy'n mynd rhagddo ym mhob rhan o'r Llywodraeth, ac yn dod â'r cynlluniau hynny at ei gilydd fel cyfres o amcanion strategol cyffredin i ddatblygu gwaith teg a chydraddoldeb economaidd yng Nghymru.

Mae'n defnyddio cydweithrediad a chyfranogiad yn yr ymgynghoriad ar y Cerrig Milltir Cenedlaethol, Cynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol, Fframwaith Gweithredu ar gyfer Byw'n Annibynnol, a'r gwaith o gyd-ddatblygu'r Fframwaith ar gyfer Buddsoddi Rhanbarthol yng Nghymru, a'r blaenoriaethau a nodir ynddo.

7.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, sy’n gadarnhaol ac yn negyddol?

Dechreuodd Llywodraeth Cymru ar chweched tymor y Senedd yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus, gan arwain yr ymateb i COVID-19 a mesurau hanfodol i ddiogelu bywydau a bywoliaethau. Mae rheoli pandemig wedi cael effaith enfawr arnom ni i gyd ac ar bob rhan o'n bywydau. Mae wedi amlygu'r anghydraddoldebau cynyddol yn ein cymdeithas, ac rydym yn disgwyl byw gyda'r canlyniadau niferus am gryn amser i ddod.

Prif nodau camau'r Rhaglen Lywodraethu hon yw adfer o'r pandemig  a pharhau i gynyddu ein cyfraniad at ein hamcanion lles tymor hwy; i adael gwaddol cadarnhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Achosodd COVID-19 y sioc economaidd gyflymaf a dyfnaf mewn cof. Fodd bynnag, cafodd diweithdra torfol ei osgoi, cafodd pobl ifanc fynediad at addysg mewn niferoedd cynyddol ac mae'r argyfwng - hyd yma - wedi arwain at yr uchafbwynt isaf ar ôl dirwasgiad mewn diweithdra ers 1975, pan gwympodd Cynnyrch Domestig Gros y DU 2% - o gymharu â bron i 10% yn 2020.

Bu gwelliant mewn lefelau cyflogaeth yn ystod 2021, ond mae'r gweithlu yng Nghymru wedi gostwng tua 40,000 i 50,000 o bobl, yn dilyn cynnydd mewn gweithgarwch economaidd a welwyd cyn y pandemig. Mae dadansoddiad y Sefydliad Astudiaethau Cyflogaeth ar lefel y DU yn dangos bod mewnfudo is yn esbonio tua chwarter y gostyngiad, gydag anweithgarwch uwch yn esbonio'r gweddill. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn awgrymu y bydd rhywfaint o'r gostyngiad hwn yn y gweithlu yn barhaol, gan gyfrannu at y difrod economaidd a achoswyd gan y pandemig.

Fel gyda'r rhan fwyaf o argyfyngau economaidd, mae rhai grwpiau yn y farchnad lafur wedi cael eu taro'n galetach nag eraill ac mae'r argyfwng hwn wedi tynnu sylw at anghydraddoldebau yn y farchnad lafur ar gyfer rhai grwpiau, gan gynnwys:

  • cynnydd mewn anweithgarwch oherwydd salwch neu ymddeoliad cynnar i'r rhai dros 50 oed, ac mae mwy o fenywod na dynion dros 65 oed wedi gadael y farchnad lafur
  • mae pobl anabl, pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol a'r rhai sydd â chyflyrau iechyd yn parhau heb gynrychiolaeth ddigonol yn y farchnad lafur, gydag unrhyw welliant yn arafu
  • bylchau cyflog parhaus ar draws grwpiau o gymharu â'r boblogaeth gyffredinol yng Nghymru ar gyfer pobl anabl (9.9%), menywod (5%) a gweithwyr ethnig lleiafrifol (1.4%)[1]
  • gostyngodd hunangyflogaeth 6% (12,000) o gymharu â lefelau cyn y pandemig

Er bod ymdeimlad o optimistiaeth ofalus ar hyn o bryd am y farchnad lafur a rhagolygon economaidd yng Nghymru, mae amryw o risgiau. Mae hyn oherwydd prinder rhai gweithwyr allweddol, tagfeydd mewn cadwyni cyflenwi, prisiau ynni uwch a chyfraddau chwyddiant o hyd at 7%, sef cyfradd nas gwelwyd ers 30 mlynedd. Gallai cynnydd gael ei amharu gan chwyddiant uwch yn erydu incwm a phŵer gwario. Mae gwahaniaethau sylweddol hefyd rhwng grwpiau o fewn hyn, yn enwedig ar gyfer pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, pobl anabl a rhieni sengl.

Mae manteision sylweddol posibl i'r farchnad lafur sy'n cyflwyno heriau penodol i lunwyr polisi, yn enwedig o ran risgiau methiant busnes, effeithiau Brexit, anfantais i'r farchnad lafur ac amrywiolion COVID-19 newydd a allai amrywio o ran eu heffaith ar wahanol grwpiau mewn cymdeithas, gan gynnwys grwpiau oedran.

Yn hanesyddol, mae Llywodraeth Cymru wedi cael dylanwad polisi a chyllidebol sylweddol ar yr agenda Cyflogadwyedd yng Nghymru. Fodd bynnag, mae dylanwad yn y dyfodol o dan fygythiad wrth i Lywodraeth y DI ddefnyddio pwerau Deddf Marchnad Fewnol y DU yng Nghymru ac mae Llywodraeth y DU yn gwrthod darparu cyllid yn lle cyllid Ewropeaidd i Gymru – gan ariannu'r Adran Gwaith a Phensiynau a defnyddio'r Gronfa Ffyniant Gyffredin yn lle hynny.

Bydd mynnu ceisio osgoi'r setliad datganoli, a rôl Llywodraeth Cymru, yn arwain at oblygiadau sylweddol i ddarpariaeth cyflogadwyedd Cymru ac yn peryglu datblygiad system sy'n dameidiog.

7.3 Yn sgil yr effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig: yn sicrhau'r cyfraniad mwyaf posibl tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant; a/neu osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol[2] yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus ledled Cymru i wella lles cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol.

Mae angen i bob un ohonom yng Nghymru weithredu er mwyn sicrhau cynnydd tuag at wella canlyniadau'r farchnad lafur a sicrhau cyfleoedd cyfartal i bawb. Mae hyn yn arbennig o wir yn achos y cyrff cyhoeddus a byrddau gwasanaeth cyhoeddus hynny y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn berthnasol iddynt. 

Hyd yma, rydym wedi defnyddio dangosyddion cenedlaethol er mwyn mesur ein llwyddiant. Bydd y gyfres newydd o gerrig milltir cenedlaethol yn ein helpu i ddeall ac i fonitro ein cynnydd ar y cyd, a gweld a ydym ar y trywydd iawn, ac yn symud yn ddigon cyflym fel cenedl tuag at gyflawni'r saith nod llesiant ar gyfer Cymru.

Bydd y strategaeth newydd yn cyfrannu at y Nodau Llesiant canlynol:

  • Cymru lewyrchus: cymdeithas arloesol, gynhyrchiol, carbon isel sy'n cydnabod y terfynau sydd ar yr amgylchedd byd-eang ac sydd, o ganlyniad, yn defnyddio adnoddau mewn modd effeithlon a chymesur (gan gynnwys gweithredu ar newid yn yr hinsawdd); ac sy'n datblygu poblogaeth fedrus ac addysgedig mewn economi sy'n cynhyrchu cyfoeth ac yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth, gan ganiatáu i bobl fanteisio ar y cyfoeth a gynhyrchir drwy gael gafael ar waith addas
  • Cymru iachach: cymdeithas lle mae llesiant corfforol a meddyliol pobl cystal â phosibl a lle deellir dewisiadau ac ymddygiadau sydd o fudd i iechyd yn y dyfodol
  • Cymru sy'n fwy cyfartal: cymdeithas sy’n galluogi pobl i gyflawni eu potensial ni waeth beth fo’u cefndir neu eu hamgylchiadau (gan gynnwys eu cefndir a’u hamgylchiadau cymdeithasol-economaidd)

7.4 Sut y caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth iddo fynd rhagddo a phan ddaw i ben? 

Mae'r Atodiad Technegol sy'n ategu'r ddogfen yn nodi'r mesurau llwyddiant, gan gynnwys meysydd ar gyfer cyflymu cynnydd, y trywydd presennol a'r trefniadau monitro ac adrodd.

Mae'r Cynllun yn cynnwys nifer sylweddol o ymyriadau polisi a rhaglenni sy'n gweithredu er mwyn darparu swyddogaethau monitro a gwerthuso. 

Byddwn yn parhau i asesu effaith rhaglenni Llywodraeth Cymru a'r ffordd y maent yn cyd-fynd â blaenoriaethau'r Cynllun yn benodol, gan sicrhau bod anghenion y bobl hynny sydd â nodweddion gwarchodedig a nodweddion gwarchodedig mewn cyffredin yn cael eu diwallu, a bod unrhyw beth sy'n eu rhwystro rhag manteisio ar hyfforddiant neu gymorth, yn ogystal â lefelau  cyrhaeddiad, yn cael eu nodi a'u lliniaru. Drwy hynny, byddwn yn sicrhau y rhoddir blaenoriaeth iddynt wrth roi cymorth. Byddwn yn datblygu camau gweithredu pellach i lenwi unrhyw fylchau, gan gynnwys adolygu cymhellion a chyfraddau ymyrraeth er mwyn helpu i recriwtio pobl dan anfantais i'r farchnad lafur.

[1] I nodi gwahanol gyfresi amser data ar gyfer grwpiau fel a ganlyn: Mae Pobl Anabl ar gyfer 2018, Menywod ar gyfer 2021, Ethnig Lleiafrifol yw 2019.

[2] Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol | LLYW.CYMRU