Neidio i'r prif gynnwy

Rhagair Gweinidogol

Pleser o’r mwyaf yw cael cyflwyno Strategaeth Gofod Cymru, sy'n adlewyrchu'r cyfoeth o allu ac arloesedd sydd gennym yn ein cenedl. Mae gan Gymru hanes o weithgynhyrchu uchel ei werth ac o ddatblygiadau arloesol sy'n rhoi ein cwmnïau mewn sefyllfa wych i weithredu yn y sector hwn, sy’n tyfu. Mae diwydiant byd-eang y gofod yn trawsnewid yn gyflym wrth i dechnoleg y gofod fynd yn llai ac wrth i fynediad i’r gofod ddod yn fwy fforddiadwy ac o fewn cyrraedd i ragor o bobl.

Yn ein bywydau bob dydd, mae pob un ohonom yn fwyfwy dibynnol ar sector y gofod ac ar y data y mae'n eu darparu. Mae hynny’n cynnwys rhagolygon y tywydd, bancio dros y we a llywio â lloeren (Sat Nav) yn ein cerbydau. Yng Nghymru, mae gennym nid yn unig sylfaen gref o gwmnïau a sefydliadau sy'n gweithredu ym maes y cymwysiadau eilaidd hyn, ond mae gennym hefyd sylfaen ffyniannus o gwmnïau sy'n gweithio yn y sector sylfaenol, gan arbenigo mewn caledwedd a systemau’r gofod. Mae Llywodraeth y DU wedi gwneud y penderfyniad cadarnhaol i gefnogi diwydiant y gofod, gan geisio creu un o'r economïau gofod mwyaf arloesol a deniadol yn y byd, a thyfu cenedl ofod yn y DU.

Ei nod yw diogelu ac amddiffyn buddiannau'r DU yn y gofod, mowldio amgylchedd y gofod a defnyddio’r gofod i helpu i ddatrys heriau gartref a thramor. Drwy ymchwil arloesol, mae’n ceisio ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf a chynnal mantais gystadleuol y DU ym maes gwyddoniaeth a thechnoleg y gofod. Mae Llywodraeth Cymru yn llwyr gefnogi'r twf hwn a byddwn yn gweithio'n agos gydag Asiantaeth Ofod y DU i sicrhau bod ein strategaeth genedlaethol ar gyfer Cymru yn cyd-fynd ag uchelgais y DU.

Vaughan Gething AS, Gweinidog yr Economi

Cyflwyniad

Mae gan Gymru boblogaeth o tua 3 miliwn o bobl, tua 5% o gyfanswm poblogaeth y DU.

Yn y sector awyrofod, mae gan Gymru tua 10% o holl weithlu'r DU a gellir dadlau ei bod yn cyflawni y tu hwnt i'r disgwyl.

O ran sector y gofod, mae gan Gymru tua 1% o holl weithlu'r DU ac, felly, mae cyfle enfawr ar gyfer twf yn yr hyn sydd ei hun yn sector twf sylweddol.

Mae sector gofod y DU eisoes wedi pennu targed i sicrhau cyfran o 10% o farchnad y gofod yn fyd-eang y disgwylir iddi fod yn werth £400bn y flwyddyn yn 2030. Byddai cyfran o 5% i Gymru yn cyfateb i £2bn y flwyddyn a chredwn fod y targed hwn yn un realistig y dylem anelu at ei gyrraedd a gweithio i ragori arno.

Gallai twf y sector hefyd ein helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau allweddol y mae ein planed yn eu hwynebu a'r heriau yng Nghymru ei hun.

Cynhaliwyd yr ymarfer cyntaf i fapio'r sector awyrofod yng Nghymru gyda chymorth Fforwm Awyrofod Cymru yn 2006 a bu rhywfaint o ryngweithio â Chanolfan Ofod Genedlaethol Prydain ar y pryd.

Yn 2014, gwelwyd yr ymdrech gyntaf o ddifrif i ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Ofod y DU (UKSA) sydd wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.

Cyhoeddwyd Strategaeth Ofod gyntaf Cymru yn 2015 a dilynodd taflen wybodaeth “Porth Gofod Eryri Cymru” Llywodraeth Cymru ar ddechrau 2017.

Cynhaliwyd Cynhadledd Gofod y DU 2019 yn y Ganolfan Gynadledda Ryngwladol a oedd newydd agor yng Nghasnewydd ac roedd yn llwyfan i sawl cyhoeddiad ynglŷn â dyfarnu cyllid grant i'r sector yng Nghymru gan UKSA a Llywodraeth Cymru.  Roedd hyn yn cynnwys swm o £500k a ddyfarnwyd i Ganolfan Awyrofod Eryri, gan Gronfa Datblygu Pyrth Gofod Llorweddol UKSA, ar gyfer Cynllun Datblygu Porth Gofod Eryri.

Dros y pum mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru ac Awyrofod Cymru wedi bod yn cydweithio i ddatblygu rhwydwaith sector y gofod er mwyn codi ei broffil a datblygu a meithrin ei allu.

Sefydlwyd Partneriaeth Gofod Academaidd Cymru (WASP) er mwyn annog Prifysgolion sy'n gweithredu yn sector y gofod i gydweithio ac atgyfnerthu'r cysylltiadau â'r diwydiant yn yr “arc arloesedd” fel y'i gelwir.

Ffurfiodd Awyrofod Cymru Grŵp y Gofod er mwyn annog rhwydweithio rhwng arbenigwyr presennol yn y sector a grŵp o fusnesau technoleg tarfol newydd. Mae Llywodraeth Cymru, Awyrofod Cymru a chynrychiolwyr o'r byd academaidd a diwydiant wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau sy'n ymwneud â'r gofod yn rheolaidd.

Mae'r gwaith a wnaed i fapio'r sector yng Nghymru yn dangos sawl canolfan o dwf posibl mewn gweithgareddau sylfaenol ac eilaidd sy'n cyfrannu at dwf economaidd ac at greu swyddi ledled Cymru. Gallai manteisio ar ddata'r gofod a gwasanaethau a alluogir gan y gofod gyfrannu at ymdrechion i ateb rhai o'r heriau allweddol y mae Cymru yn eu hwynebu o ran newid yn yr hinsawdd, cysylltedd a gofal iechyd.

Ers i'r strategaeth gyntaf gael ei chyhoeddi yn 2015, mae sawl cyfranogwr newydd wedi ymuno â'r sector. Mae Canolfan Awyrofod Eryri wedi parhau i ychwanegu at y rhestr o gleientiaid sy'n defnyddio, neu sy'n bwriadu defnyddio, ei chyfleuster, ar gyfer gweithrediadau hedfan a gweithrediadau sy'n gysylltiedig â'r gofod yn y dyfodol. Mae gweithrediadau'r gofod agos eisoes wedi dechrau gyda hediadau gan falŵn stratosfferig B2Space a'r Astigan HAPS, gan fanteisio'n llawn ar gyfleuster tracio sefydledig y Weinyddiaeth Amddiffyn/QinetiQ ym Mae Ceredigion.

Mae dros £20m wedi'i ddyrannu ar gyfer gwelliannau i seilwaith ar y safle ac o'i amgylch, i'w cwblhau erbyn 2023. Mae Spaceflight Academy, un o aelodau consortiwm Porth Gofod Eryri, yn bwriadu dechrau datblygu cyfleuster a fydd yn cynnig profiad o hedfan i'r gofod a chyfleuster hyfforddiant ar faes awyr Llanbedr yn Eryri o fewn 18 mis. Hefyd yn gysylltiedig â'r Academi mae cynllun ar gyfer awyren corff llydan disgyrchiant sero sy'n cynnig profiad o hedfan a fydd yn gweithredu o Gymru.

Mae consortiwm o gwmnïau gan gynnwys Black Arrow Space Technologies, Ddiwydiannol, Recurved-Space a rhwydwaith diwydiannol Cyngor Celtaidd y Gofod yn bwriadu sefydlu canolfan gweithgynhyrchu a gweithrediadau'r gofod ym Mhort Talbot, a fydd yn gysylltiedig â gallu lansio i'r gofod ar y môr erbyn 2024.

Mae Space Forge wedi agor cyfleuster datblygu ar gyfer llwyfan gweithgynhyrchu dychweladwy sy'n defnyddio manteision y gofod i wneud deunyddiau newydd nad ydynt yn bosibl ar y Ddaear. Bydd y dechnoleg sy'n cael ei datblygu yn lleihau cost dychwelyd i'r atmosffer ac yn ei gwneud yn bosibl i loerennau gael eu hadnewyddu a'u hailddefnyddio. Mae'r cwmni yn bwriadu lansio ei loeren gyntaf yn 2023, a fydd yn dychwelyd i'r ddaear erbyn 2024 ac yn cael ei hail-lansio erbyn 2025.

Yn 2017, lansiodd Environment Systems, sef cwmni data a leolir yn Aberystwyth, ei Wasanaethau Data Lloerennau. Llwyfan cwmwl i ddarparu metrigau amser real bron sydd bob amser ymlaen er mwyn cefnogi cadwyni cyflenwi amaethyddol, gweithgarwch monitro amgylcheddol ac asesiadau o gyfalaf naturiol.  Yn 2020, prosesodd a dadansoddodd Gwasanaethau Data Environment Systems fwy na 400 miliwn cilometr sgwâr o ddelweddau arsylwi'r Ddaear o loerennau ledled y byd.

Dair blynedd yn ôl, dyfarnwyd cyllid i Brifysgol Aberystwyth, a oedd eisoes yn ganolfan ragoriaeth ar gyfer ymchwil ac addysgu sy'n ymwneud ag Arsylwi'r Ddaear, ar gyfer prosiect Cymru Fyw. Mae Cymru Fyw yn gysyniad unigryw a newydd, y cyntaf o’i fath yn y byd, sy'n anelu at nodi cyflwr a deinameg tirwedd Cymru, mewn amser real bron, yn hanesyddol ac i’r dyfodol, drwy integreiddio data arsylwi’r ddaear, mesuriadau tir ategol a modelau proses. Yn ddiweddar, cafodd y prosiect gyllid ar gyfer dwy flynedd arall ac mae'r Brifysgol yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru gan ddarparu system hirdymor ar gyfer deall, monitro a chynllunio newidiadau tirwedd sy'n gymwys yn genedlaethol ac yn seiliedig ar arsylwadau hanesyddol ac amser real bron o'r ddaear.

Mae Rhwydwaith Cenhadon y DU ESA Business Applications wedi penodi dau genhadwr rhanbarthol sy'n gyfrifol am Gymru: Alan Cross ar gyfer Gogledd Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr ac Andy Williams ar gyfer De Cymru a De-orllewin Lloegr. Mae Alan ac Andy yn helpu i annog a meithrin darpar fusnesau cymwysiadau'r gofod yng Nghymru. Yn ddiweddar, cofrestrodd cwmni Annwen, a leolir yn Abertawe, ag ESA BIC UK (Canolfan Deori Busnesau ) ac mae'n creu ‘cymar digidol’ a actifadir gan lais, sy'n rhoi gwybodaeth gyhoeddus yn Gymraeg neu mewn ieithoedd lleiafrifol eraill, yn enwedig ar gyfer dinasyddion mewn lleoliadau anghysbell, aelodau o gymdeithas sy'n agored i niwed a'r rhai nad ydynt wedi arfer â defnyddio technoleg. Mae'n bwriadu cyflwyno system fonitro â lloeren a 5G i Gymru.

Mae hyn oll yn adeiladu ar sylfeini sefydledig y rhwydweithiau academaidd a diwydiannol presennol yng Nghymru ac yn cysylltu â sectorau a thechnolegau allweddol eraill megis gweithgynhyrchu optoelectroneg ac opteg, lled-ddargludyddion cyfansawdd, seiberddiogelwch, dadansoddeg data a gweithgynhyrchu uwch.

O ganlyniad i'r prosiect datblygu clwstwr a ariennir gan UKSA, rydym wedi mapio'r sector cyfredol yng Nghymru, wedi nodi'r cyfleoedd allweddol a gynigir gan sector y gofod ac wedi amlinellu'r argymhellion allweddol a'r camau sydd i'w cymryd. Rydym wedi sefydlu Grŵp Arwain Gofod Cymru a rhwydwaith Gofod Cymru, gan gynnwys Partneriaeth Gofod Academaidd Cymru.

Yn 2021, rydym yn wynebu cyfuniad unigryw o heriau a chyfleoedd. Mae'r DU wedi cwblhau'r broses o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, mae pandemig COVID-19 yn dal i ymledu ac, uwchlaw pob dim, mae dynolryw yn wynebu trychineb oni allwn lwyddo i fapio dyfodol mwy cynaliadwy i'r Ddaear. Gallai systemau a thechnoleg y gofod a'r defnydd o ddata sy'n dod o'r gofod chwarae rhan arweiniol wrth fynd i'r afael â'r heriau eang hyn. Mae gan Gymru ran allweddol i'w chwarae fel pwll tywod ar gyfer y datblygiadau technolegol a chymdeithasol a alluogir drwy fanteisio ar y cyfleoedd a gynigir.

Mae'r adroddiad hwn yn nodi ein hymatebion yn erbyn fframwaith prosiect datblygu clwstwr Asiantaeth Ofod y DU h.y. mapio'r ecosystem yng Nghymru, ein cyfleoedd a'n strategaeth/cynllun gweithredu i'w gwireddu a sefydlu Grŵp Arwain Gofod Cymru a rhwydwaith Gofod Cymru. Byddwn yn ystyried yn gyntaf drosolwg byr o'r farchnad a'r ffynonellau cyllid.

Bwriedir i'r ddogfen hon gael ei rhannu â'n rhwydwaith a rhanddeiliaid eraill a chaiff ei mireinio a'i hadolygu ymhellach yn rheolaidd, gan ddod yn sail i gynllun busnes strategol ar gyfer y sector yng Nghymru.

Trosolwg o'r farchnad a'r ffynonellau cyllid

Er mwyn amlinellu'r cefndir i'n cyfleoedd a'n camau gweithredu posibl, byddwn yn ystyried yn gyntaf drosolwg o'r farchnad a'r ffynonellau cyllid.

Ers 2010, y Gofod yw un o'r sectorau sydd wedi bod yn tyfu gyflymaf yn y DU, gan dreblu mewn maint ac mae bellach yn cyflogi 42,000 o bobl ac yn cynhyrchu incwm o £14.8bn ($20.5bn) y flwyddyn. Tyfodd economi'r gofod yn fyd-eang 6.7% y flwyddyn, ar gyfartaledd, rhwng 2005 a 2017, bron i ddwywaith twf blynyddol cyfartalog yr economi fyd-eang, sef 3.5%. Bydd yr ecsosffer yn mynd yn brysur iawn yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf. Ar hyn o bryd, mae tua 5000 o loerennau yn mynd o amgylch y ddaear mewn gwahanol orbitau. Dim ond 2,000 o'r rhain sy'n weithredol. Petai OneWeb, Starlink a darpar rwydweithiau eraill yn cael eu ffordd, gallai'r nifer hwnnw gynyddu 4,500% yn ystod y pum mlynedd nesaf, sy'n gynnydd enfawr!

Un agwedd sydd wedi cyfrannu at y twf hwn yw ffenomenon y “Gofod Newydd”, sef cyfres o ddatblygiadau mewn modelau technolegol a modelau busnes sydd wedi lleihau costau yn sylweddol ac wedi arwain at ddarparu cynhyrchion a gwasanaethau newydd sydd wedi ehangu'r sail cwsmeriaid bresennol.

Mae Morgan Stanley yn amcangyfrif y gallai diwydiant y gofod yn fyd-eang gynhyrchu refeniw o $1 triliwn neu fwy yn 2040, o gymharu â $350bn ar hyn o bryd.

Mae Morgan Stanley yn amcangyfrif y bydd band eang lloeren yn cyfrif am 50% o dwf rhagamcanol economi'r gofod yn fyd-eang erbyn 2040 a chymaint â 70% yn y sefyllfa fwyaf optimistaidd. Bydd lansio lloerennau sy'n cynnig gwasanaeth Rhyngrwyd band eang yn helpu i leihau cost data, ar yr union adeg pan fo'r galw am y data hynny'n cynyddu'n sylweddol. Mae Morgan Stanley yn amcangyfrif y bydd cost data di-wifr y megabit yn llai nag 1% o'r lefelau presennol. Mae'r galw am ddata yn cynyddu'n fwyfwy cyflym, ta bod cost mynediad i'r gofod a, thrwy estyniad, ddata yn lleihau yn ôl trefn maint. Sicrheir twf drwy ddarparu mynediad i'r Rhyngrwyd i rannau o'r byd heb wasanaeth digonol neu heb wasanaeth o gwbl a bydd cynnydd hefyd yn y galw am led band gan gerbydau awtonomaidd, y Rhyngrwyd Pethau, deallusrwydd artiffisial, realiti rhithwir a fideos.

Bydd rocedi a lloerennau y gellir eu hailddefnyddio yn helpu i leihau costau, felly hefyd weithrediadau masgynhyrchu lloerennau a datblygu technoleg lloerennau. Ar hyn o bryd, mae cost lansio lloeren wedi lleihau i tua $60m, o $200m, sydd i'w briodoli i rocedi y gellir eu hailddefnyddio, a gallai ostwng mor isel â $5m. A gallai masgynhyrchu lloerennau leihau'r gost honno o $500m y lloeren i $500,000.

“The future of the European space sector. How to leverage Europe’s technological leadership and boost investments for space ventures” a luniwyd gan Fanc Buddsoddi Ewrop (EIB) yn 2018. Mae'n dangos tirwedd gwasanaethau, modelau busnes a segmentau busnes sy'n ymwneud â'r gofod. Cynyddodd cyfanswm y buddsoddiadau mewn cwmnïau sy'n ymwneud â'r gofod 3.5 gwaith rhwng 2012 a 2017 o gymharu â'r cyfnod blaenorol o chwe blynedd. At hynny, ers 2000, mae mwy na 180 o gwmnïau sy'n ymwneud â'r gofod a ariennir gan angylion a chyfalaf menter wedi'u sefydlu. Mae cwmnïau a ariennir gan gyfalaf menter yn cyfrif am y nifer mwyaf o fuddsoddwyr mewn cwmnïau sy'n ymwneud â'r gofod, sef tua 46% o'r holl fuddsoddiadau. Ynghyd ag angylion buddsoddi, mae'r ddau grŵp hyn o fuddsoddwyr yn cyfrif am ddau o bob tri o'r buddsoddwyr mewn mentrau sy'n ymwneud â'r gofod. Mewn gwirionedd, mae buddsoddwyr yn UDA yn cyfrif am tua dau o bob tri o'r holl fuddsoddwyr mewn cwmnïau sy'n ymwneud â'r gofod, y ceir mwy na 400 ohonynt ledled y byd.

Tirwedd gwasanaethau, modelau busnes a segmentau busnes sy'n ymwneud â'r gofod

Yn economi'r gofod yn fyd-eang, gwasanaethau lloerennau yw'r sector mwyaf (tua 37%), wedi'i ddilyn yn agos gan gyfarpar daear. Ar hyn o bryd, sector arsylwi'r ddaear yw defnyddiwr mwyaf gwasanaethau gweithgynhyrchu a lansio lloerennau ac mae'n dal i fod yn allweddol o ran llywio'r diwydiant cyfan. Mae lefelau risg is yn gysylltiedig â modelau busnes sy'n seiliedig ar fodel busnes i ddefnyddiwr (B2C) neu sydd ag amserlen weithredu fyrrach, o gymharu â modelau busnes i fusnes (B2B) neu'r rhai ag amserlenni gweithredu hwy. O gymharu ag UDA, mae gan Ewrop lefel is o gyfranogiad mewn gweithgareddau sylfaenol ac mae hyn yn golygu bod prosesau trosglwyddo technoleg i sector y gofod yn llai effeithiol. Mae prinder cyllid ehangu yn Ewrop yn wendid sylweddol, sy'n aml yn golygu bod talent a chwmnïau yn symud i UDA, lle mae'r dirwedd gyllido yn fwy ffafriol ar hyn o bryd.

Cyfwelwyd â mwy na 40 o gwmnïau sy'n ymwneud â'r gofod ledled yr UE a thu hwnt. Pwysleisiodd y mwyafrif o'r cwmnïau bwysigrwydd arian cyhoeddus ac offerynnau'r sector cyhoeddus, y ceir yn aml mai nhw yw'r unig ffynhonnell hygyrch o gyfalaf. Nododd 40% o'r cyfweleion hefyd fod sicrhau arian cyhoeddus yn aml yn un o'r rhagamodau ar gyfer cael cyfalaf risg breifat. Y ffynonellau mwyaf o gyllid yn yr UE oedd Horizon 2020 ac ESA.

Yn y DU, mae amrywiaeth o gyfleoedd cyllido sector-benodol a chyffredinol, gan gynnwys, er enghraifft, SPRINT, y Gronfa Arloesi Genedlaethol ar gyfer y Gofod a rhaglen 'Space for Smarter Government'.  Bydd y DU yn parhau i gymryd rhan yn rhaglen Horizon yr UE ac mae'n parhau i gyfrannu at gyllideb Asiantaeth Ofod Ewrop. Mae ESA wedi sefydlu rhwydwaith o genhadon rhanbarthol yn y DU er mwyn helpu i ysgogi datblygiad busnesau a chysylltu cwmnïau yn y DU â chyfleoedd cyllido ESA. Mae dau genhadwr yn gyfrifol am Gymru, y naill am y gogledd a'r llall am y de.

Sefydlwyd Banc Datblygu Cymru yn 2017, gan ddisodli ei ragflaenydd Cyllid Cymru. Mae Grŵp Banc Datblygu Cymru ymhlith cwmnïau buddsoddi mewn BBaChau rhanbarthol mwyaf y DU ac mae'n darparu cyfalaf twf i fusnesau bach a chanolig. Cyfrannodd Banc Datblygu Cymru at y cyllid dechrau busnes a roddwyd i Space Forge pan gafodd ei sefydlu yng Nghymru. Mae amrywiaeth o ffynonellau o gyllid cymorth arloesi hefyd ar gael yng Nghymru o dan bennawd cyffredinol SMART Cymru.

Yn Ystod mis Mawrth 2021, cyhoeddodd y DU “Prydain Fyd-eang mewn oes gystadleuol: Yr Adolygiad Integredig o Bolisi Diogelwch, Amddiffyn, Datblygu a Thramor”. Mae'r ddogfen hon yn disgrifio gweledigaeth y Llywodraeth ar gyfer rôl y DU yn y byd dros y degawd nesaf a'r camau y byddwn yn eu cymryd hyd at 2025. Pwysleisiodd bwysigrwydd seiberofod a'r gofod.

Mae'r gofod yn hanfodol bwysig i weithrediadau milwrol ac, felly, mae llwyddiant lluoedd arfog y DU yn dibynnu'n fawr ar reoli'r parth hwnnw. Dros y degawd nesaf, bydd y Llywodraeth yn buddsoddi £5bn yn rhaglen cyfathrebu â lloeren Skynet 6. Caiff y cyllid hwn ei ategu gan £1.4bn sydd wedi'i ddyrannu i'r Ganolfan Rheoli'r Gofod newydd, Canolfan Genedlaethol Gweithrediadau'r Gofod, Academi'r Gofod a chytser o loerennau Gwybodaeth, Goruchwylio a Rhagarchwilio a adeiledir yn y DU.

Mae gan Gymru seilwaith amddiffyn a gallu diwydiannol sylweddol a allai helpu i gyflawni uchelgeisiau'r DU. Mae cwmni Airbus Defence & Space a Raytheon UK ill dau wedi'u sefydlu yng Nghymru ac mae gennym glwstwr a gallu seiberddiogelwch sy'n tyfu'n gyflym. Mae trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth Cymru a phrif gontractwyr amddiffyn eraill megis Thales, BAE Systems, Lockheed Martin a Northrop Grumman. Bydd y Ganolfan Ymchwil Uwch-Dechnoleg (ATRC)  arfaethedig a fydd yn canolbwyntio ar electroneg amddiffyn, yn cynnwys elfen sy'n ymwneud â'r gofod. Bydd cyfleoedd i gwmnïau a chyfleusterau wedi'u lleoli yng Nghymru wneud cais am waith sy'n gysylltiedig â'r Weinyddiaeth Amddiffyn sy'n dod i'r amlwg ym mharth y gofod milwrol.

Mae Llywodraeth Cymru ac Asiantaeth Ofod y DU wedi gwneud cyfraniadau ariannol i sector y gofod yng Nghymru ac ystyrir bod cytuno ar gyllid pellach yn hanfodol i hybu twf y sector. Er mwyn datblygu rhai o'r cyfleoedd arloesi posibl a nodir yn yr adran nesaf, bydd angen cael cymorth ariannol gan Lywodraeth y DU hefyd. Cydnabyddir, yn yr amgylchiadau eithriadol rydym yn eu hwynebu, y bydd cryn gystadleuaeth am yr adnoddau sydd ar gael ac y bydd angen i bob parti gydweithio er mwyn sicrhau'r elw mwyaf posibl ar fuddsoddiad a bod datblygiadau arfaethedig yn cyd-fynd â pholisïau a blaenoriaethau Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi'r blaenoriaethau allweddol mewn dogfennau megis y Cynllun Cryfhau ac Ailadeiladu'r Economi, y Cynllun Gweithredu Allforio a'r Cynllun Gweithredu Gweithgynhyrchu. Mae pob un o'r rhain wedi'i ategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Awgrymodd adroddiad Banc Buddsoddi Ewrop ei bod yn haws cael cyllid cyfalaf menter gan UDA na chan Ewrop ac ategir hyn gan dystiolaeth anecdotaidd gan rai o'n cwmnïau. Mae Asia a'r Môr Tawel a'r Dwyrain Canol hefyd yn cynnig ffynonellau posibl o gyllid a marchnadoedd allforio. Mae pobl o Gymru, sy'n cynnwys llawer o unigolion cyfoethog, ar wasgar ledled y byd ac mae coridorau'r M4 a'r M56 yn cynnwys crynoadau lleol o unigolion cyfoethog iawn y gellid o bosibl eu perswadio i fuddsoddi yn y sector.

Mapio ecosystem Cymru

Cam cyntaf y prosiect datblygu clwstwr oedd mapio ecosystem sector y gofod yng Nghymru. Cynrychiolir allbwn yr ymarfer hwn gan fatrics gallu a chyfeiriadur sector y gofod a bydd ar gael drwy wefan Gofod Cymru a gaiff ei chynllunio i'w diweddaru gan sefydliadau unigol ac i weithredu fel dogfen fyw. Bwriedir i'r dogfennau hyn gael eu defnyddio er mwyn helpu i hyrwyddo'r sector yng Nghymru a gellir eu cyhoeddi ar ffurf brintiedig, yn ôl yr angen, er mwyn cefnogi ein presenoldeb mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd.

Dosbarthwyd holiadur i amrywiaeth eang o sefydliadau masnach, gan gynnwys y rhai a gynrychiolir yng ngrŵp Diwydiant Cymru o gyrff masnach a thrwy wahanol rwydweithiau dosbarthu Llywodraeth Cymru. Hefyd, gwnaed croeswiriadau ag arolygon blaenorol (2006, 2015, 2017, 2019) a chofnodion gweithgarwch ymgysylltu blaenorol â Grŵp Gofod Awyrofod Cymru a Phartneriaeth Gofod Academaidd Cymru. Mae ein profiad gyda dogfennau tebyg ar gyfer sectorau eraill yn awgrymu y bydd y rhestrau yn ddynamig iawn ac y byddant yn parhau i dyfu dros amser wrth i ragor o sefydliadau ymuno â'r farchnad.

Mae'r dirwedd Academaidd wedi'i harolygu gan Bartneriaeth Gofod Academaidd Cymru ac mae'n cael ei diweddaru gan y grŵp ar hyn o bryd.

Dadansoddi ecosystem Cymru er mwyn nodi cyfleoedd i sector y gofod

Adolygwyd gallu sector y gofod yng Nghymru gan ddefnyddio astudiaethau blaenorol, yr allbwn o ymarfer mapio'r sector, gweithdai ar-lein a thrafodaethau unigol ag aelodau o'r diwydiant a'r byd academaidd. Mae sector y gofod yng Nghymru ar hyn o bryd a'r sector a allai fodoli yn y dyfodol yn cynnwys yr elfennau allweddol canlynol:

  • Gallu gweithgynhyrchu uwch a chlystyrau technoleg sy'n bodoli eisoes e.e. awyrofod, modurol, electroneg a meddalwedd, meddygol, lled-ddargludyddion cyfansawdd, ffotoneg/optoelectroneg/opteg, gwyddorau bywyd a seiberddiogelwch.
  • Profi a gwerthuso'r ecosystem yn seiliedig ar y cyfleusterau presennol, gan gynnwys Llanbedr a Maes Tanio Aberporth, Maes Tanio Maesyfed a Phentywyn, sydd ar agor i'w defnyddio at ddibenion milwrol neu sifil.
  • Y gallu i lansio i'r gofod a chynnig hyfforddiant a phrofiad h.y. Porth Gofod Eryri, Spaceflight Academy a Chanolfan Ofod Port Talbot (lansio ar y môr).
  • Egin-allu mewn Gweithgynhyrchu yn y Gofod a'r gallu cysylltiedig i adfer cerbydau gofod – Space Forge a Phorth Gofod Eryri.
  • Rhwydwaith o gyfleusterau ymchwil ac addysgu gan gynnwys Partneriaeth Gofod Academaidd Cymru a safleoedd catapwlt – yr arc arloesedd. Mae'r Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludydd Cyfansawdd wedi'i leoli yng Nghasnewydd a dechreuodd AMRC Cymru ym Mrychdyn weithredu ym mis Rhagfyr 2019, gan newid i gynhyrchu peiriannau anadlu ar ddechrau 2020 er mwyn cefnogi'r GIG yn ystod argyfwng cyfarpar pandemig Covid-19. Mae'r Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau wedi gweithredu is-orsaf yn Llanbedr er mwyn cefnogi rhaglenni dangoswyr ac mae trafodaethau wedi'u cynnal ynghylch cyfleuster Gallu Gofod Arloesol Tarfol (DISC) yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, y Weinyddiaeth Amddiffyn a DECA yn datblygu cynnig ar gyfer creu Canolfan Ymchwil Uwch-Dechnoleg (ATRC) a leolir yn Sealand gyda ffocws ar electroneg amddiffyn, gan gynnwys elfen yn ymwneud â'r gofod.
  • Cryfderau presennol a rhai sy'n datblygu ym maes arsylwi'r ddaear, gan gynnwys synwyryddion, dadansoddi ffynonellau data eraill ac integreiddio â nhw e.e. systemau delweddu hypersbectrol yng Nghanolfan Technoleg OpTIC, Cymru Fyw.
  • Amgylchedd sy'n achosi heriau ac yn cynnig cyfleoedd ar gyfer y defnydd eilaidd o ddata'r gofod o ran daearyddiaeth, cludiant, cyfathrebu, iechyd, cynhwysiant cymdeithasol, rheoli adnoddau naturiol a gefnogir gan adnoddau gweinyddiaeth ddatganoledig, awdurdodau lleol, GIG Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru a chlwstwr Gwyddorau Bywyd. 
  • Ffocws ar ynni glân, cynaliadwyedd a'r agenda werdd wedi'i ategu gan bolisïau a blaenoriaethau allweddol Llywodraeth Cymru.

Gallu gweithgynhyrchu uwch a chlystyrau sy'n datblygu

Mae gan Gymru ecosystem gweithgynhyrchu uwch helaeth sydd â galluoedd cryf mewn meysydd megis y sector awyrofod, y sector modurol a'r sector electroneg. Mae sawl sector arall hefyd yn dangos twf cryf a/neu dechnoleg y gellid ei defnyddio, o bosibl, yn sector y gofod.

Sefydlwyd clwstwr lled-ddargludydd cyfansawdd o amgylch Catapwlt Cymwysiadau CS (gweler adroddiad Catapulse ar 'Space', Gorffennaf 2020) a Newport Wafer Fab. Mae gallu optoelectroneg/ffotoneg/opteg wedi'i wasgaru ledled Cymru, ond mae clwstwr allweddol wedi'i ganoli ar gyfleuster OpTIC Arloesiadau Glyndŵr yn Llanelwy, y mae ganddo record dda iawn eisoes ym maes technoleg gysylltiedig â'r gofod. Ystyrir bod y clwstwr seiberddiogelwch yn ased allweddol ac mae'n cynnwys y Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol yng Nglynebwy, a sefydlwyd drwy bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Thales. Mae sectorau cymwysiadau addawol yng Nghymru yn cynnwys Gofal Iechyd, Gwyddorau Bywyd, Technoleg Ariannol, Technoleg Amaethyddol, cyfathrebu ac ynni glân. Rhennir y gwaith o oruchwylio sectorau gweithgynhyrchu yng Nghymru rhwng Diwydiant Cymru ac Is-adran Trawsnewid Diwydiannol Llywodraeth Cymru.  Mae llawer o gwmnïau sy'n cyflenwi sawl sector eisoes yn cynnal busnes yn sector y gofod.

Yn 2019, comisiynodd Awyrofod Cymru adolygiad o allu gweithgynhyrchu uwch yng Nghymru, a allai gefnogi sector y gofod, a pharatowyd yr adolygiad hwn gan Paul Williams o gwmni International Space Propulsion. Dadansoddodd yr adroddiad restrau aelodau fforymau'r sector a chronfeydd data ehangach a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru. Cadarnhaodd y dadansoddiad fod potensial i ddefnyddio'r gallu gweithgynhyrchu cyfunol hwn yn sector y gofod.

Yn y sector amddiffyn a sector y gofod, mae Awyrofod Cymru wedi hwyluso gweithdai ar y cyd â phrif gontractwyr/gweithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol (Raytheon UK, Airbus Defence & Space a QioptiQ) er mwyn paru eu hanghenion â galluoedd cwmnïau posibl yn y gadwyn gyflenwi. Mae'r broses hon wedi gweithio'n dda a gallai gael ei hailadrodd gyda chwsmeriaid eraill. Mae Raytheon UK yn awyddus i dyfu ei fusnes gofod ac rydym yn trafod cynlluniau i ymgysylltu â darpar gyflenwyr yng Nghymru.

Mae'r consortiwm a oedd yn gysylltiedig â datblygu Canolfan Ofod Port Talbot wedi datblygu rhwydwaith o ddarpar gyflenwyr yng Nghymru, Iwerddon ac Ynys Manaw, sy'n gweithredu fel Cyngor Celtaidd y Gofod.

Ecosystem profi a gwerthuso

Mae gan Gymru sawl safle sy'n addas ar gyfer profi a gwerthuso/dilysu caledwedd, deunyddiau a chydrannau systemau'r gofod, yn enwedig y rhai sydd â chynhyrchion peryglus neu a allai gynhyrchu allyriadau tarfol.

Safle'r Weinyddiaeth Amddiffyn ym Mhentywyn

Mae Pentywyn ar ben Gorllewinol aber Afon Llwchwr. Mae'r safle yn cynnwys sawl ardal wahanol, pob un â galluoedd unigol. Defnyddiwyd y draethlin yn y gorffennol ar gyfer ymarferion hyfforddi peilotiaid i lanio awyrennau, tra bod yr Ardal Perygl o'r Môr fawr yn ymestyn i Fae Caerfyrddin. Mae'n cynnwys Ardal Perygl o'r Awyr hefyd sy'n ymestyn hyd at 23,000 o droedfeddi o uchder.

Mae'r cyfleusterau yn cynnwys ardaloedd diogel wedi'u paratoi yn bennaf, sydd ag adeiladau a chyflenwadau pŵer parhaol. Mae cyfleuster y Trac Profi Hir, sy'n addas ar gyfer treialon dynamig cyflymder uchel, yn unigryw yn y DU. Pen Dwyreiniol y maes tanio sydd fwyaf addas i'w ddefnyddio at ddibenion sy'n ymwneud â'r gofod.

Maes Tanio Maesyfed

Mae Maes Tanio Maesyfed yn dŷ profi annibynnol wedi'i achredu gan Weinyddiaeth Amddiffyn y DU sy'n cynnig cyfuniad unigryw o alluoedd i gynnal asesiadau a threialon yng nghyfadeilad y maes tanio neu mewn cyfleusterau eraill.

Mae Maesyfed yn cynnal profion gan ddefnyddio'r cyfarpar llawn ar gerbydau arfog (sifil a milwrol), deunyddiau arfog a strwythurau arfog wedi'u saernïo'n llawn i'r holl safonau profi rhyngwladol ac yn cefnogi gweithgarwch hedfan dronau a gweithgarwch atal dronau.

Aberporth

Mae Maes Tanio Aberporth, a leolir ar arfordir gorllewinol Cymru, yn darparu amgylchedd diogel dan reolaeth ar gyfer tanio taflegrau a gaiff eu lansio o’r tir, o’r awyr ac o’r môr yn ogystal â dilysu offer, gweithgarwch ymyrryd gan ddefnyddio pelydrau is-goch/amleddau radio goddefol a gweithredol a’r gallu i reoli gweithgarwch treialon uwchsonig yn ei 7,500km² o ofod awyr wedi'i saniteiddio o'r wyneb i uchder diderfyn.  Mae'r cyfleuster yn perthyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn cael ei weithredu gan QinetiQ ac ers 2003 mae wedi bod ar gael i'w ddefnyddio at ddibenion sifil.

Mae gan y Maes Tanio ardal 3D wedi'i chyfarparu'n llawn ar gyfer Profi a Gwerthuso a lle i gynnal gweithgareddau hyfforddi. Mae'n darparu amgylcheddau byw a rhithwir, data amser real a systemau lleoladwy, oll wedi'u cefnogi gan gyfoeth o arbenigedd.

Mae buddsoddiad diweddar wedi creu Canolfan Ragoriaeth Parc Aberporth, gan sicrhau bod gan systemau awyrennau di-griw sifil fynediad i ardaloedd perygl awyrofod presennol y Weinyddiaeth Amddiffyn dros Fae Ceredigion a sefydlu awyrofod gwahanedig newydd, ag uchder diderfyn dros y dŵr, sydd wedi'i neilltuo'n benodol ar gyfer profi a gwerthuso systemau awyrennau di-griw.

Er eu bod yn asedau daearol, mae systemau awyrennau di-griw yn defnyddio systemau cyfathrebu â lloeren ac offer synhwyro o bell a all greu cyfleoedd i gadwyn gyflenwi sector y gofod yng Nghymru drwy gynhyrchion a gwasanaethau a rennir.

Gan fod disgwyl i wariant ar waith ymchwil a datblygu mewn perthynas â systemau awyrennau di-griw gynyddu i £7bn dros y degawd nesaf, disgwylir y bydd y twf hwn o fudd i sector y gofod yng Nghymru.

Maes Awyr Llanbedr

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi i ddatblygu Llanbedr yn Eryri er mwyn darparu'r seilwaith i gefnogi amgylchedd systemau awyrennau di-griw Cymru a'r DU. Rhagwelir y bydd yn cael ei ddatblygu ymhellach fel canolfan gofod ac awyrofod.  Mae hefyd yn cael ei gynnig fel porth gofod a chyfleuster a fydd yn cynnig profiad o hedfan yn y gofod, hyfforddiant a gwasanaethau awyrfeddygol (Spaceflight Academy).

Bydd angen datblygu a gwella'r prif safleoedd profi a gwerthuso (Pentywyn, Maes Tanio Maesyfed, Maes Tanio Aberporth a Llanbedr) ymhellach er mwyn cefnogi'r twf rhagamcanol ym mharth y gofod.

Mae gan Bentywyn a Maes Tanio Maesyfed gyfleusterau sy'n gysylltiedig â'r sector amddiffyn eisoes. Fodd bynnag, er mwyn darparu ar gyfer cynnal profion ar beiriannau rocedi gwthiad uchel i'w defnyddio yn y gofod, bydd angen cynnal astudiaethau asesu'r tir a'r amgylchedd a gwneud gwaith sifil er mwyn i'r safleoedd allu cael eu gwella a'u huwchraddio'n effeithiol, lle y bo angen.

Mae'r Ganolfan Gwthiant Gofod Genedlaethol (NSPF) yn Westcott, Swydd Buckingham, yn darparu safleoedd profi ar gyfer peiriannau gwthiad isel i'w defnyddio ar loerennau ac ni all ddarparu ar gyfer y lefelau uwch sydd eu hangen i ddefnyddio cerbydau lansio. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw safle diogel yn y DU lle y gellir cynnal profion ar beiriannau rocedi ar y lefelau uchel gofynnol o ran gwthiad (a sŵn), ac mae'r ddau gyfleuster Maes Tanio hyn yn addas iawn i ddarparu gwasanaethau o'r fath gyda buddsoddiad priodol.

Mae Llanbedr yn gartref i Borth Gofod Eryri. Er mwyn cyflawni prif amcanion datganedig y porth gofod sy'n ymwneud â'r gofod (sef Ymchwil, Datblygu, Profi a Gwerthuso a Hyfforddiant Hedfan Is-orbitol), bydd angen i Lywodraeth Cymru barhau i gefnogi'r gwaith o ddatblygu'r safle.

Mae cyfleusterau Maes Tanio Aberporth yn perthyn i'r Weinyddiaeth Amddiffyn ac yn cael eu rheoli gan QinetiQ fel rhan o'r Cytundeb Partneriaeth Hirdymor. Mae'r Maes Tanio yn cefnogi profion ar systemau awyrennau di-griw a phrofion is-goch/amleddau radio, yn bennaf at ddibenion amddiffyn.

Safleoedd Ychwanegol

Mae potensial masnachol a strategol ar gyfer cyfleuster profi a gwerthuso penodol ar gyfer afioneg sifil a thechnolegau cysylltiedig, gyda safle posibl yng Ngorllewin Sir Benfro, a fydd yn cael budd o'i leoliad anghysbell a hawdd i'w ddiogelu ym mhen Gorllewinol Aberdaugleddau, yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a'r ffaith ei fod yn weddol agos i'r gweithrediadau pelydrau is-goch/amleddau radio gweithredol yn Aberporth.

Er ei fod wedi'i gynllunio i gynnal gweithgareddau tracio â phelydrau is-goch/amleddau radio a datblygu afioneg sifil sy'n ymwneud â lansio o'r môr a Systemau Awyr/Môr Di-griw, byddai'r cyfleuster yn gallu gweithredu fel is-ganolfan bosibl i'r Ganolfan Ymchwil Uwch-Dechnoleg y bwriedir ei datblygu ger safle Sealand DECA yn Sir y Fflint.

Gallai'r cyfleuster hefyd weithredu fel canolfan derbyn o bell ar gyfer trawsyriadau amledd radio amrediad pell er mwyn dilysu a graddnodi systemau a phrotocolau afioneg i'w defnyddio yn sectorau lansio i'r gofod a thelathrebu â lloerennau'r DU, yn ogystal â phrofi systemau laser ar gyfer cyfnewid data orbital (o loeren i loeren) yn gyflym – sy'n fantais fawr i weithgynhyrchu mewn orbit, llywio a throsglwyddo data yn gyflym o loeren i orsaf ar y tir.

Byddai safle electroneg penodedig o ddiddordeb mawr i wahanol sectorau o ddiwydiant arloesol a gallai ddarparu canolfan ar gyfer tracio gweithrediadau lansio i'r gofod (o'r môr a'r awyr).  Mae'r farchnad bosibl ar gyfer y gwasanaeth hwn yn tyfu'n gyflym.

Bydd y ddarpariaeth gynyddol a gynigir gan y sector mewn perthynas â lloerennau y gellir eu hailddefnyddio, rhannau uchaf sy'n dychwelyd a lleihau gweddillion hefyd yn cael budd o leoliad Twnnel Gwynt Plasma er mwyn gallu modelu dilead deunyddiau pan fyddant yn dychwelyd i'r atmosffer yn gywir. Dim ond un cyfleuster o'r fath sy'n bodoli yn Ewrop, gyda'r DLR (Asiantaeth Ofod yr Almaen). Mae'r cyfleuster hwnnw'n ddrud ac, i raddau helaeth, nid yw ar gael i'w ddefnyddio gan fusnesau yn y DU. Gellid lleoli'r adnodd hwn yng Nghanolfan Ymchwil Tyrbinau Nwy Prifysgol Caerdydd ym Mhort Talbot neu ar y safle Profi a Gwerthuso Afioneg y cyfeiriwyd ato uchod.

Lansio i'r Gofod, Hyfforddiant a Phrofiad

Lluniwyd cynllun Datblygu Porth Gofod Eryri ym mis Mawrth 2020 ac fe'i hariannwyd gan Gronfa Datblygu Pyrth Llorweddol UKSA. Yn 2014, nodwyd Maes Awyr Llanbedr/Canolfan Awyrofod Eryri gan Asiantaeth Ofod y DU (UKSA) a'r Awdurdod Hedfan Sifil (CAA) fel un o'r darpar safleoedd posibl ar gyfer Porth Gofod yn y DU a fyddai'n canolbwyntio ar lansio llorweddol.

Mae Porth Gofod Eryri yn cael sylw yn nhaflen wybodaeth newydd Asiantaeth Ofod y DU, sef “Launch UK – A guide to the UK’s commercial spaceports.”

Mae Canolfan Awyrofod Eryri yn datblygu cais gyda'r Awdurdod Hedfan Sifil i greu ardal perygl parhaol o amgylch Maes Awyr Llanbedr ac mae ganddi fap ffordd i sicrhau bod y safle yn cael ei achredu'n borth gofod erbyn diwedd 2022.

Lleolir y maes awyr ger Maes Tanio presennol D201 Bae Ceredigion, sydd â galluoedd tracio awyrofod, rheoli a goruchwylio o'r awyr/môr sylweddol eisoes a ddarperir gan QinetiQ ar ran y Weinyddiaeth Amddiffyn. Mae ganddo hanes hir a nodedig o gefnogi hediadau profi arbrofol yn y DU ac mae'n parhau hyd heddiw fel cartref Canolfan Awyrofod Eryri, gan ddarparu gwasanaethau awyr a thir a chyfleusterau ar gyfer ymchwilio i systemau awyrofod newydd a thechnoleg hedfan y dyfodol sy'n datblygu, yn arbennig dronau, awyrennau trydan a cherbydau symudedd awyr trefol, eu datblygu, eu profi a'u gwerthuso.

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai'r safle fod yn safle defnydd cymysg i gynnal amrywiaeth o ddefnyddiau awyrofod nad ydynt yn gwrthdaro â'i gilydd, yn enwedig rhai sy'n ymwneud â'r marchnadoedd technoleg hedfan sy'n datblygu. Argymhellir y dylid cyflwyno Porth Gofod Eryri yn ddelfrydol fel canolfan ymchwil, datblygu, profi a gwerthuso bwysig ar gyfer gweithgareddau sylfaenol sy'n ymwneud â'r gofod yn y DU ac i allu darparu hyfforddiant ar hedfan yn y gofod a phrofiad o hedfan yn y gofod agos. Mae'r safle hefyd wedi'i ddefnyddio ar gyfer gweithrediadau BVLOS a alluogir gan y gofod a bydd y cynnig i greu safle defnydd cymysg yn hwyluso'r gwaith o integreiddio moddau a ffynonellau data gwahanol i gefnogi defnyddiau eilaidd.

Cynigir y dylid gwahaniaethu rhwng Eryri a Phyrth Gofod eraill yn y DU drwy ddatblygu'r safle fel campws hyblyg ac amlddefnydd sy'n cynnal gweithgareddau ymchwil, datblygu, profi a gwerthuso sy'n gysylltiedig â'r gofod, hyfforddiant ac (i raddau llai) weithrediadau lansio lloerennau ac y dylid cynyddu ei botensial i'r eithaf o ran amrywiaeth o ddefnyddiau awyrofod eraill.

Mae B2Space eisoes yn cynnal gweithrediadau balŵn stratosfferig o Lanbedr.

Diben B2Space, a sefydlwyd yn 2016, yw darparu mynediad dibynadwy, hyblyg a chost isel i Orbit Isel y Ddaear ar gyfer lloerennau bach a microloerennau, democrateiddio mynediad i'r gofod a hwyluso'r gwaith o ddatblygu technolegau newydd a ffyrdd newydd o ddefnyddio'r gofod. Mae dull lansio lloerennau B2Space yn seiliedig ar gysyniad “rockoon” (roced a balŵn) a bydd yn cynnwys balŵn stratosfferig a fydd yn codi llwyfan hunanweithredol lle y bydd y lansiwr wedi'i osod. Bydd roced tanwydd solet tri cham yn cludo'r lloerennau i orbitau gofynnol cwsmeriaid (o fewn Orbitau Isel y Ddaear, sef orbitau sy'n cyrraedd uchderau rhwng 200km a 1000km, yn fras). Yng Nghanolfan Deori Busnesau ESA yn Harwell, mae B2Space wedi datblygu gwasanaeth Profi yn y Gofod Agos: sef  “labordy hedfan” sy'n seiliedig ar falwnau stratosfferig i brofi technolegau sy'n ymwneud â'r Gofod. Mae'r labordy hedfan hwn bellach yn weithredol gyda balwnau yn cael eu lansio o Lanbedr a safleoedd eraill.

Mae gan Spaceflight Academy gynlluniau uchelgeisiol i ddechrau datblygu ei gyfleuster profiad, hyfforddiant ac awyrfeddygol ar y safle o fewn 18 mis. Gweledigaeth Spaceflight Academy yw sicrhau mai'r cwmni yw “prif ddarparwr masnachol y byd o ran hyfforddiant Hedfan i'r Gofod a hyfforddiant awyrfeddygol, wedi'n hysgogi gan ein cred a chyngor arbenigwyr bod problemau awyrfeddygol a achosir gan ffactorau dynol sy'n gysylltiedig ag ehediadau masnachol i'r gofod a thwristiaeth y gofod yr un mor bwysig â'r heriau technolegol sy'n gysylltiedig ag anfon pobl i'r Gofod.” Bydd ei gyfleusterau arfaethedig yn cynnwys adeilad campws wedi'i ddylunio i fod  porth trawiadol a fydd yn denu ymwelwyr i Borth Gofod Eryri. Bydd cyfleuster arloesol Spaceflight Academy yn cynnwys ffyrdd arloesol a rhyngweithiol o ymgysylltu â'r cyhoedd a'i ysbrydoli i gael ‘profiad cyflawn o'r Gofod’. Bydd yr amgylchedd cwbl drochol, cymhellol a chyffrous hwn yn helpu i ddatblygu'r Gofod a thwristiaeth fasnachol y Gofod ac yn cefnogi ac yn hyrwyddo hynny. Bydd y cyfleuster yn cynnwys efelychydd Desdemona NG, sef efelychydd symud, hyfforddwr dryswch gofodol a labordy uwch cyfunol, ail genhedlaeth, unigryw a chyfunol, a all gynnal G-lwythi uwch hyd at 7g. Darperir hyfforddiant awyrfeddygol ar gyfer y marchnadoedd hedfan a hedfan i'r gofod gan weithio mewn partneriaeth agos ag arbenigwyr yn King's College yn Llundain.

Ar hyn o bryd, mae defnyddwyr eraill yn trafod eu gofynion ar gyfer y dyfodol â Phorth Gofod Eryri ac mae trafodaethau yn parhau rhwng Llywodraeth Cymru, Eryri a darparwr lansio llorweddol yn UDA.

Mae pob un o'r safleoedd fertigol a llorweddol sydd wedi'u nodi ar hyn o bryd yn y DU wedi'u lleoli ar y tir.  Mae Black Arrow Space Technologies yn cynnig dull gweithredu amgen. Bydd yn lansio prif lwythi yn pwyso hyd at 500Kg i Orbit Isel Pegynol y Ddaear neu hyd at 300Kg i Orbit Cydamserol yr Haul, o long lansio forol.

Mae manteision y gallu i lansio o'r môr o gymharu â phorth gofod wedi'i leoli ar y tir yn cynnwys y canlynol:

  • Nid oes angen datblygu tirweddau arfordirol nac anghysbell i ddarparu ar gyfer y safle lansio na'r cyfleusterau paratoi/storio am fod tir ger cei yn cael ei ystyried yn ‘dir llwyd’.
  • Pan gynhelir gweithgareddau lansio ar y môr, nid oes unrhyw sŵn na tharfu arall ar y boblogaeth leol.
  • Mae'r llwybrau hedfan dros y môr ac nid ydynt yn croesi poblogaethau nac eiddo nac yn hedfan drostynt.
  • Gellir eu lleoli yn agosach i ganolfannau gweithgynhyrchu a meysydd awyr, gan leihau'r amser i gludo prif lwythi i'r safle i'w lansio.
  • Nid yw tywydd anrhagweladwy o reidrwydd yn ffactor cyfyngol am fod cyfleuster symudol yn gallu dod o hyd i amodau lansio addas.
  • Mae gweithredu o borth cartref yn Ne Cymru a lansio o dde-orllewin Iwerddon yn darparu llwybr clir, gan hedfan i'r Gogledd, i orbitau isel mwyaf poblogaidd y ddaear.

Yn 2020, cafodd Deddf Diwydiant y Gofod ei phasio gan alluogi'r DU i ddarparu gwasanaethau lansio, ar yr amod bod cyfres o ofynion yn cael eu bodloni fel y'u nodir gan Reoliadau Diwydiant y Gofod. Yn y Rheoliadau, mae'r mwyafrif o'r cynigion Cysyniad o Weithrediadau (CONOPS) ar gyfer y cyfleusterau lansio o'r môr arfaethedig wedi'u derbyn, yn gyson â moddau lansio symudol tebyg (e.e. lansio o'r awyr) ac, felly, maent yn agored i system drwyddedu'r DU o dan y Rheoliadau.

Er mwyn bodloni'r disgwyliadau i ddarparu gwasanaethau lansio i'r gofod risg isel i orbitau Pegynol a Chydamserol yr Haul o Gymru, caiff y gweithrediadau eu cynnal o long fasnachol wedi'i haddasu'n arbennig a leolir yn nwyrain yr Iwerydd i'r de-orllewin o Iwerddon. Felly, roedd yn hollbwysig lleoli'r porth cartref yn Ne Cymru neu dde-orllewin Lloegr.

Cyfaddawdodd Black Arrow Space Technologies a, phan ystyriwyd yr holl baramedrau perthnasol, penderfynwyd mai Port Talbot oedd y lleoliad delfrydol oherwydd ei harbwr dŵr dwfn, ei threftadaeth leol o ran gweithgynhyrchu a deunyddiau, argaeledd tir datblygu ar raddfa fawr, ei hygyrchedd i ganolfannau yn y DU, ei gweithlu medrus a'r ffaith ei bod yn agos i sefydliadau academaidd a sefydliadau â safleoedd profi.

Mae Ardal Fenter Glannau Port Talbot, sy'n eiddo i Associated British Ports, yn cynnwys digon o dir llwyd preifat lle y gellir adeiladu canolfan integreiddio cerbydau a phrosesau prif lwythi a chyfleuster storio ar gyfer cydrannau a thanwydd a gweithdai, y cyfan o fewn perimedr diogel. Mae'n darparu ar gyfer y proffil twf uchelgeisiol yn y cynllun datblygu ac yn cynnwys lle oddi amgylch ar gyfer cyflwyno gallu gweithgynhyrchu cydrannau sy'n ymwneud â'r gofod, a fydd yn helpu i sefydlu canolfan ofod De Cymru yn yr ardal (Canolfan Ofod Port Talbot).

Ers ei sefydlu, mae Black Arrow Space Technologies wedi creu sawl partneriaeth strategol ag endidau yng Nghymru, yn y DU ac yn rhyngwladol, mewn amrywiaeth o ddisgyblaethau a chynhyrchion a gwasanaethau sy'n gymwys ar gyfer y gofod a'r gobaith yw y bydd y cyfan yn cyfrannu at economi gydweithredol lwyddiannus yn Ne Cymru.

Cynlluniwyd Canolfan Ofod Port Talbot i fod yn gyrchfan addas i'r diwydiant cyfan ac ni fydd, o reidrwydd, yn cael ei defnyddio gan y cwmni lansio yn unig. Dylai ddatblygu'n ganolfan gweithgynhyrchu a Phrofi a Gwerthuso technolegau'r gofod i Dde Cymru yn ei rhinwedd ei hun ac mae Castell-nedd Port Talbot (Bae Abertawe) yn lleoliad delfrydol i'r ganolfan honno, o ystyried y gallu gweithgynhyrchu a saernïo a geir yn yr ardal.

At hynny, bydd Canolfan Ofod Port Talbot yn cynnwys galluoedd Tracio, Telemetreg a Rheoli i gefnogi'r gweithgareddau lansio lleol a gweithgareddau lansio mewn rhannau eraill o'r DU. Gellid cynnwys yr ased hwn yng nghampws PTSC (Glannau Port Talbot) neu mewn lleoliad anghysbell addas ar wahân yng Ngorllewin Cymru.

Byddai i gyfleuster anghysbell o'r fath fanteision, gan gynnwys gweithgareddau lansio â Llinell Weld uniongyrchol i'r gofod a system gyfathrebu glir â meysydd profi a gwerthuso ag amleddau radio pwysig eraill ar gyfer dilysu systemau afionig. Bydd y cyfleuster yn datblygu'n ased pwysig, rhyngwladol o bosibl, ar gyfer gweithgarwch profi, gwerthuso a dilysu systemau electronig ar gyfer defnyddiau sifil, yn ogystal â chanolfan ddiogel ar gyfer datblygu a phrofi gorsafoedd tracio symudol, gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd yng Nghymru. 

Gweithgynhyrchu yn y gofod ac achub cerbydau gofod

Y llynedd, cafodd Space Forge becyn cyllid gwerth £600,000 gan Fanc Datblygu Cymru, Clwb Ecwiti Preifat Bryste ac Innovate UK i sefydlu canolfan yng Nghymru er mwyn datblygu lloeren LEO weithgynhyrchu y gellir ei hailddefnyddio a'r gallu i ddychwelyd lloerennau i'r Ddaear i'w hatgyweirio a'u hadnewyddu.

Yn hanesyddol, roedd cost mynd ag un cilo i orbit isel y ddaear tua $65000, a leihaodd i $5000 y cilo ar Falcon 9 Space X. Gallai ei roced enfawr, 'Starship', leihau'r gost hon i $10  y cilo. Mae gweithgarwch gweithgynhyrchu peilot eisoes yn mynd rhagddo ar yr Orsaf Ofod Ryngwladol. Yn UDA, cyhoeddodd Varda, sef cwmni gweithgynhyrchu yn y gofod newydd, ym mis Rhagfyr 2020, ei fod wedi cael $9m gan ei fuddsoddwyr a bydd Space Forge; dyma'r rownd cronfa hadau fwyaf erioed yn Ewrop ar gyfer cwmni technoleg ofod ar US$10.2m ym mis Rhagfyr 2021.

Ym mis Ionawr 2021, cysylltodd y Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau ag Awyrofod Cymru a Llywodraeth Cymru er mwyn gofyn i ni gefnogi ei gais i raglen Ysgogi Marchnadoedd Rhwydwaith Tyfu Busnes yn y Gofod Asiantaeth Ofod Ewrop. Bwriedir i'r rhaglen hon sefydlu fframwaith ar gyfer nodi cyfleoedd busnes, eu rhoi ar waith a'u datblygu, gan fanteisio ar amgylchedd y gofod ar gyfer deunyddiau a gweithgynhyrchu gan ddefnyddio llwyfannau gofod sydd ar gael yn fasnachol yn orbit isel y ddaear. Roeddem yn falch o gefnogi'r cais hwn ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda'r Catapwlt i gynyddu'r farchnad a galluoedd perthnasol yng Nghymru

Mae gan weithgynhyrchu yn y gofod a lloerennau y gellir eu hailddefnyddio gryn botensial fel marchnad dwf ac mae'r ffaith bod Space Forge wedi ymsefydlu yng Nghymru yn rhoi sylfaen dda i ni. Mae gan y cwmni gynlluniau uchelgeisiol:

  • 2022: Lansio'r lloeren gyntaf a adeiladwyd yng Nghymru (o borth gofod yng Nghymru os bydd un ar gael)
  • 2023: Dychwelyd lloeren i Gymru ag ymchwil gan un o brifysgolion Cymru neu ar gyfer cadwyn gyflenwi yng Nghymru
  • 2024: Lansio lloeren wedi'i hadnewyddu i droi ymchwil prifysgol yn nwyddau i'w cynhyrchu yn y gofod a'u defnyddio yn ôl ar y Ddaear, cyfansoddion newydd ar gyfer peiriannau/lled-ddargludyddion ar gyfer telathrebu/deunyddiau seramig ar gyfer tyrbinau ac ati.

Byddai'r cadens lansio posibl yn cynyddu o 4 uned yn 2023, i 12 uned yn 2024 ac i un yr wythnos yn 2025 i 2026.

Gellid rheoli'r gwaith o achub cerbydau gofod o Ardal Berygl y Weinyddiaeth Amddiffyn/QinetiQ ym Mae Ceredigion gyda chymorth Porth Gofod Eryri.

Mae Space Forge wedi nodi galluoedd ategol sydd ar goll neu heb gynrychiolaeth ddigonol yn y DU: ymarfer integreiddio lanswyr, ystafelloedd glân ar lefel prif lwyth sy'n fwy hygyrch ar gyfer ymchwil mewn microddisgyrchiant – mae amseroedd aros yn hir neu mae'n rhaid iddynt gael eu hadeiladu at y pwrpas gan academyddion, trosglwyddo o ystafelloedd glân gwyddorau bywyd i ystafelloedd glân yn y gofod. Mae'r cwmni wedi bod yn trafod y posibilrwydd o ddatblygu cyfleusterau ategol addas yng Nghymru â Llywodraeth Cymru, Gofod Cymru a'r Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau. Mae trafodaethau hefyd wedi'u cynnal â'r Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau ynghylch creu cyfleuster “DISC” (Gallu Gofod Arloesol Tarfol). Mae cyfleuster DISC sefydlog yn Harwell a rhagwelir y gallai'r cyfleuster yng Nghymru lenwi'r bylchau a rhwystrau yn y dyfodol o ran cyfleusterau ar gyfer cymhwyso cyfarpar ac integreiddio pecynnau prif lwythi mewn llwyfannau gofod a ddatblygwyd i ddarparu ar gyfer gweithgynhyrchu yn y gofod.

Mae cyfle i ddatblygu cysylltiadau â'r ganolfan Gwyddorau Bywyd bresennol yng Nghymru er mwyn ystyried y posibilrwydd o ddatblygu cynhyrchion fferyllol mewn orbit

Cyfleusterau ymchwil ac addysgu

Rhoddir manylion cyfleusterau ymchwil ac addysgu sy'n ymwneud â'r gofod yn ein Cyfeiriadur a dogfennaeth Partneriaeth Gofod Academaidd Cymru. Yn ogystal â'r prifysgolion, mae gennym gyfleusterau catapwlt megis AMRC Cymru, y Catapwlt Cymwysiadau Lled-ddargludyddion Cyfansawdd a'r Ganolfan Ymchwil Uwch-Dechnoleg (ATRC) arfaethedig. Bydd yr ATRC wedi'i lleoli ger DECA (yr Asiantaeth Electroneg a Chydrannau Amddiffyn) yn Sealand yn Sir y Fflint a bydd yn canolbwyntio ar electroneg amddiffyn gan gynnwys gweithgareddau sy'n ymwneud ag amleddau radio a'r gofod. Cefnogir y cyfleuster gan Lywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Amddiffyn a phob un o'r prif gontractwyr amddiffyn.

Mae gennym gyfleusterau preifat hefyd megis cyfleuster TWI ym Mhort Talbot a Maes Tanio Maesyfed.

O ran pynciau STEM neu STEAM, mae eisoes gennym sefydliadau a allai ychwanegu'r gofod at eu portffolio a chwmnïau megis Sefydliad Enbarr a G2G sydd eisoes wedi gwneud hynny. 

Mae trafodaethau wedi'u cynnal â'r Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau ynghylch sefydlu cyfleuster DISC (Gallu Gofod Arloesol Tarfol) yng Nghymru. Rydym wedi ystyried sawl lleoliad a gweithrediad ond ystyrir bod cysylltiad â gweithrediad Space Forge yn bosibiliad cryf.

Rydym hefyd wedi cynnal trafodaethau â'r Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau ynghylch darparu Labordy Gofod ar gyfer Arloesedd yng Nghymru. Gan adeiladu ar ddatblygiad cyflym ymgysylltu rhithwir yn ystod y pandemig, bydd Labordai Gofod ar gyfer Arloesedd yn ei gwneud yn bosibl i rwydwaith porth y Catapwlt gael ei ddefnyddio i fanteisio ar ei arbenigwyr, ei wasanaethau a'i arddangosiadau, o bob rhan o'r DU.

Arsylwi'r Ddaear

Caiff dros hanner y nanoloerennau/microloerennau yn y dyfodol eu defnyddio at ddibenion arsylwi'r ddaear a synhwyro o bell. Mae cryn botensial ar gyfer uwch-weithgynhyrchu offer yn y farchnad lloerennau arsylwi'r ddaear. Mae canolfan OpTIC Arloesiadau Glyndŵr a'r clwstwr optoelectroneg/ffotoneg/opteg cysylltiedig eisoes wedi sefydlu gallu sylweddol sy'n ymwneud â'r gofod. O ran dadansoddi arsylwadau o'r ddaear, mae gennym gryn allu, gan gynnwys Prifysgol Aberystwyth a chwmnïau arbenigol megis Environment Systems a Geo Smart Decisions.

Mae gan Environment Systems 17 o flynyddoedd o brofiad o ddefnyddio arsylwadau o'r ddaear i fynd i'r afael â heriau amgylcheddol ac amaethyddol.  Mae hyn yn cynnwys popeth o asesiadau risg o gyfalaf naturiol yn y Caribî, monitro bananas yng Ngholombia, datblygu seilwaith  data amaethyddol yn Nhwrci i asesu a yw ffermwyr yn gymwys i gael cymorthdaliadau yng Nghymru.  Yn fwyaf diweddar, mae Environment Systems wedi bod yn defnyddio dadansoddeg arsylwi'r ddaear fel rhan o'r dystiolaeth ar gyfer fframwaith datblygu cenedlaethol Llywodraeth Cymru: cynllun cenedlaethol 2040.  

Mae Cymru Fyw yn gysyniad unigryw a newydd, y cyntaf o’i fath yn y byd, sy'n anelu at nodi cyflwr a deinameg tirwedd Cymru, mewn amser bron yn real, yn hanesyddol ac i’r dyfodol, drwy integreiddio data arsylwi’r ddaear, mesuriadau tir ategol a modelau proses.  Yn ddiweddar, cafodd y prosiect gyllid ar gyfer dwy flynedd arall ac mae Prifysgol Aberystwyth yn gweithio'n agos gyda Cyfoeth Naturiol Cymru gan ddarparu system hirdymor ar gyfer deall, monitro a chynllunio newid tirwedd sy'n gymwys yn genedlaethol ac yn seiliedig ar arsylwadau hanesyddol ac amser real bron o'r ddaear.

Mae cyfle i fynd â'r prosiect hwn y tu hwnt i ymchwil i weithrediad masnachol tymor hwy neu efallai fel rhan o Arsyllfa Gofod Genedlaethol Cymru ac mae angen gwneud hynny. Mae faint o ddata a ddaw o'r gofod yn mynd i gynyddu'n gyflym a bydd ansawdd y data hynny'n gwella hefyd, a bydd heriau a chyfleoedd yn gysylltiedig â hyn o ran prosesu symiau mawr o ddata yn wybodaeth y gellir ei defnyddio ar gyfer defnyddiau eilaidd. Mae gan Gymru gryn allu sy'n ymwneud â data megis y Ganolfan Ecsbloetio Digidol Genedlaethol (NDEC) ac mae angen i ni ddeall sut y gallwn fanteisio ar y gallu hwn o ran gwella ein gallu dadansoddol.

Cymru – heriau a chyfleoedd
Ein nod yw gwasanaethu pobl Cymru. Dywedir yn aml bod Cymru yn wlad o sawl hanner. Ceir heriau daearyddol o ran cludiant, cyfathrebu a darparu gwasanaethau hanfodol.

Mae gennym dair miliwn o bobl yng Nghymru, y rhan fwyaf ohonynt wedi'u lleoli ar hyd arfordiroedd y gogledd a'r de gyda gweddill poblogaeth y wlad yn byw, ar y cyfan, mewn cymunedau gwledig eithaf anghysbell. Dengys y dadansoddiad o amddifadedd cymdeithasol fod pocedi o dlodi cymharol ledled Cymru, mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Dylem ddefnyddio'r dechnoleg a'r gwasanaethau a hwylusir gan sector y gofod er mwyn helpu i dyfu'r economi yng Nghymru a helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol gwell ledled y wlad. Rydym wedi gweld bod GIG Cymru wedi mabwysiadu atebion seiliedig ar dechnoleg yn frwd yn ystod y pandemig presennol, gan gynnwys dronau ac elfennau sy'n ymwneud â'r gofod. Mae Cymru yn wlad gymharol fach ac mae mewn sefyllfa dda i weithredu fel pwll tywod ar gyfer datblygiadau technolegol a chymunedol arloesol.

Mae Morgan Stanley yn amcangyfrif y bydd band eang lloeren yn cyfrif am 50% o dwf rhagamcanol economi'r gofod yn fyd-eang erbyn 2040 a chymaint â 70% yn y sefyllfa fwyaf optimistaidd. Bydd lansio lloerennau sy'n cynnig gwasanaeth Rhyngrwyd band eang yn helpu i leihau cost data, ar yr union adeg pan fo'r galw am y data hynny'n cynyddu'n sylweddol.
Mae OneWeb, sef cwmni cyfathrebu â lloerennau yn Orbit Isel y Ddaear, sy'n eiddo ar y cyd i Lywodraeth y DU a Bharti Global, wedi sicrhau cyllid gwerth cyfanswm o $1.4bn. Mae'r cyfalaf a godwyd hyd yma yn golygu bod y cwmni mewn sefyllfa i sicrhau cyllid llawn ar gyfer ei fflyd o 648 o loerennau cenhedlaeth gyntaf, erbyn diwedd 2022. Cenhadaeth OneWeb yw darparu cysylltedd band eang ledled y byd er mwyn pontio'r gagendor digidol byd-eang drwy gynnig mynediad i'r Rhyngrwyd Pethau a llwybr at 5G i bawb ym mhobman. Mae SpaceX Elon Musk wedi gofyn am ganiatâd i ddefnyddio hyd at 42000 o loerennau ar gyfer Starlink, ei system ryngrwyd ei hun yn y gofod. Mae Llywodraeth Cymru ac Awyrofod Cymru hefyd wedi dechrau deialog â darpar gyflenwr gwasanaethau 5G drwy'r awyr, sy'n cynnig y potensial ar gyfer system tir, awyr a gofod integredig. Gallai rhwydwaith integredig o'r fath oresgyn yr heriau sy'n gysylltiedig â system wedi'i lleoli ar y tir yn unig oherwydd topograffi Cymru.

Mae'r sbectrwm radio yn debygol o fynd yn orlawn o ganlyniad i ehangiad cyflym gwasanaethau symudol. Mae Prifysgol Aberystwyth a QinetiQ yn gweithio mewn partneriaeth i sefydlu'r Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol er mwyn hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o beirianwyr sbectrwm radio a systemau radio a gwella sgiliau peirianwyr presennol er mwyn iddynt allu manteisio ar botensial technolegau sbectrwm radio sy'n galluogi cysylltedd di-wifr rhwng lleoedd, pobl a dyfeisiau. Bydd y ganolfan hefyd yn galluogi diwydiant a'r Llywodraeth i nodi ac arddangos y genhedlaeth nesaf o gymwysiadau di-wifr arloesol sydd eu hangen i ddyblu cyfraniad blynyddol y sbectrwm radio at economi'r DU i fwy na £100bn erbyn 2025.

Ym mis Rhagfyr 2020, cyhoeddodd Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru adroddiad a oedd yn mynegi pryder ynghylch pa mor gyflym roedd gwasanaethau band eang a gwasanaethau symudol yn cael eu cyflwyno. Os na chymerir unrhyw gamau, dywedodd yr adroddiad y gallai cwmnïau symud i rannau o'r DU sydd â band eang ffeibr cyflym a signal 4G a 5G da.

Gallai cyfuniad o wasanaethau ffeibr, gwasanaethau tir, awyr a gofod drawsnewid gwasanaethau data a chyfathrebu ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Mae'n costio tua phum gwaith yn fwy na chyfartaledd y DU i gael cysylltiadau ffeibr â chartrefi a busnesau yng Nghymru.

Er bod Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i sicrhau bod gan bob cartref gysylltiad band eang ffeibr erbyn 2025, nid yw Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru yn credu bod hynny'n realistig ac mae'n pryderu ynghylch yr "heriau penodol" sy'n gysylltiedig â darparu ffeibr yng Nghymru. Galwodd ar Lywodraeth Cymru i wneud yn siŵr bod yr un flaenoriaeth yn cael ei rhoi i Gymru mewn cynlluniau i'r DU gyfan, i newid rheolau cynllunio er mwyn ei gwneud yn haws i ddarparwyr gyflwyno gwasanaethau newydd ac i ymrwymo i strategaeth 5G, fel mae'r Alban wedi'i wneud. Awgrymodd yr adroddiad hefyd y dylid dargyfeirio arian cyhoeddus o fand eang er mwyn sicrhau ei bod yn fwy cyffredin defnyddio gwasanaethau symudol ar gyfer data.

Mae cwmni Annwen, sydd wedi'i leoli yn Abertawe, yn enghraifft wych o'r defnydd arloesol o ddata'r gofod. Mae'n creu ‘cymar digidol’ a actifadir gan lais, sy'n rhoi gwybodaeth gyhoeddus yn Gymraeg neu mewn ieithoedd lleiafrifol eraill, yn enwedig ar gyfer dinasyddion mewn lleoliadau anghysbell, aelodau o gymdeithas sy'n agored i niwed a'r rhai nad ydynt wedi arfer â defnyddio technoleg. Mae'n bwriadu cyflwyno system fonitro â lloeren a 5G i Gymru.

Mae gwaith sydd eisoes wedi'i wneud yn Llanbedr ac ardal ehangach Gwynedd wedi dangos potensial cyfuno technoleg y gofod a thechnoleg awyrofod â gweithgarwch dadansoddi data ac ymgysylltu cymdeithasol er mwyn cefnogi trawsnewid mewn economïau gwledig. Drwy gyfuno pob un o elfennau'r gadwyn werth mewn meysydd sylfaenol ac eilaidd, mae gan Gymru gyfle i chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o ddatblygu economi wledig a alluogir gan y gofod, gyda manteision i'r farchnad gartref ac o ran allforion posibl.

Cymru Gynaliadwy

Ym mis Tachwedd 2020, amlinellodd y Prif Weinidog ei gynllun 10 pwynt ar gyfer chwyldro diwydiannol gwyrdd i greu 250,000 o swyddi.

Mae glasbrint y Prif Weinidog, sy'n ymdrin ag ynni glân, trafnidiaeth, natur a thechnolegau arloesol, yn nodi sut y bydd y DU yn cyflawni ei thargedau mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd erbyn 2050, sy'n arbennig o bwysig yn ystod y cyfnod yn dilyn uwchgynhadledd hinsawdd COP26 yn Glasgow ym mis Tachwedd 2021.

Mae Cymru eisoes yn gwneud cyfraniad sylweddol ym mhob maes ar y rhestr ac mae ein hymrwymiad wedi'i ategu gan ddeddfwriaeth. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yng Nghymru yn rhoi'r uchelgais, caniatâd a rhwymedigaeth gyfreithiol i wella ein llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd. Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus yng Nghymru feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau a’i gilydd, a goresgyn yr heriau sy'n gysylltiedig â thlodi, anghydraddoldebau iechyd a newid yn yr hinsawdd.

Mae lloerennau yn darparu gwybodaeth hollbwysig am iechyd ein planed. Mae'r mesuriadau a ddarperir ganddynt yn ein helpu i ragweld newidiadau yn yr hinsawdd, sicrhau arferion pysgota cynaliadwy, diogelu'r amgylchedd yn fwy a monitro ein moroedd sy'n codi. Maent yn helpu i ddarparu gwasanaethau hanfodol mewn meysydd megis gofal iechyd a gwasanaethau hollbwysig megis morlywio, telathrebu a darlledu. Mae cyfle i ddatblygu'r cysylltiadau rhwng y clystyrau a'r sefydliadau sy'n llywio'r agenda werdd a sector y gofod er mwyn cynyddu effaith cymwysiadau sy'n seiliedig ar y gofod er mwyn ein helpu i gyflawni ein nodau o ran cynaliadwyedd a chenedlaethau'r dyfodol.

Cydnabyddir hefyd y gall teithiau i'r gofod eu hunain, ar bob cam o'r broses o'u cynllunio a'u cyflawni, hefyd gael effaith ecolegol negyddol ar ein planed yn ogystal â'r gofod. Yn 2012, sefydlodd ESA fenter y Gofod Glân, gan lunio a mabwysiadu dulliau newydd o ddylunio llongau gofod a defnyddio technoleg y gofod gyda'r nod o gyflwyno dewisiadau amgen glanach er mwyn lleihau effaith amgylcheddol teithiau i'r gofod.

Mae cyfle i ddatblygu deunyddiau a thanwyddau er mwyn osgoi llygredd troposfferig a morol a grëir gan weithgarwch lansio i'r gofod. Mae hyn yn cyd-fynd â datblygiadau presennol ac arfaethedig yng Nghymru sy'n ymwneud â deunyddiau a thanwyddau'r dyfodol, gan gynnwys y cyhoeddiad diweddar ynghylch cyllid i Glwstwr Diwydiannol De Cymru. Mae cyfle i ddatblygu tanwyddau gwyrdd ar gyfer lloerennau a rhannau uchaf a fydd yn gwneud y gwaith o'u trin a pharatoi ar gyfer eu lansio yn fwy diogel.

Gall y gwaith o reoli a gwaredu gweddillion yn y gofod gael ei hwyluso gan y gallu i ddatblygu ac achub synwyryddion gofod.  Er enghraifft, mae Prifysgol De Cymru yn gweithio ar ddatblygu synwyryddion goruchwylio'r gofod gyda NORSS (Northern Space & Security). Ar lefel y DU, bydd arddangosiad Astroscale o sut i waredu gweddillion yn y gofod yn gweithredu fel catalydd ar gyfer datblygu cynhyrchion a gwasanaethau perthnasol yn fasnachol.

Fel rhan o Gofod Cymru mae gennym grŵp sy'n datblygu cysyniad i sicrhau mai Cymru yw'r wlad ofod gynaliadwy gyntaf yn y byd erbyn 2040, gan arwain y ffordd at ofod gwyrddach.

Mae'r weledigaeth yn un arloesol ac eto benodol ar gyfer y gofod sy'n cynnwys y canlynol:

  • Arweinyddiaeth ym maes cynaliadwyedd sector y gofod drwy greu Cyflymydd Gofod Cynaliadwy (SSA). Bydd yr SSA yn hyrwyddo arferion sylfaenol cynaliadwy ac yn codi ymwybyddiaeth ac yn cynyddu galw ymhlith cwsmeriaid, gan lywio gwaith ymchwil a datblygu sy'n seiliedig ar y galw.
  • Strategaethau lansio ac achub amgen, sy'n arbennig o addas ar gyfer daearyddiaeth Cymru, er mwyn gwella galluoedd cenedlaethol a sofran.
  • Sefydlu “Strategaeth Ddenu” er mwyn denu “Busnesau magned” i'r sector er mwyn hyrwyddo mewnfuddsoddi, dangos galluoedd Cymru yn y maes a chreu cyfleoedd haenau cyflogaeth sylfaenol ac eilaidd.
  • Model cyllido arloesol fel cyd-fenter rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, a fydd yn darparu gallu cenedlaethol newydd gan barchu manteision gweithio mewn partneriaeth ddatganoledig a chadarnhaol.
  • Trefniadau llywodraethu cyllid sy'n sicrhau bod penderfyniadau buddsoddi mor agos â phosibl i gyfleoedd ecsbloetio masnachol.
  • Cyfleoedd i gynnal a datblygu gwaith ymchwil a datblygu rhwng sefydliadau academaidd ac atgyfnerthu ffocws masnachol ar ymchwil a datblygu.
  • Y gallu i adeiladu ar y buddsoddiad cynnar yn y gofod a wnaed gan Asiantaeth Ofod y DU yng Nghymru.

Strategaeth ar gyfer datblygu clwstwr gofod Cymru

Gwnaed cryn dipyn o gynnydd ers cyhoeddi Strategaeth Ofod Cymru yn 2015. Rydym wedi llwyddo i godi proffil y sector yng Nghymru ac ymwybyddiaeth ohono ond mae'r diwydiant yn dal i fod yn fach o gymharu â llawer o'r rhanbarthau eraill yn y DU. Mae'r rhaglen datblygu clwstwr wedi'n galluogi i ganolbwyntio mwy ar y sector drwy sefydlu rhwydwaith Gofod Cymru a Grŵp Arwain Gofod Cymru ac ailsefydlu Partneriaeth Gofod Academaidd Cymru. Rydym hefyd wedi ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid a “chanolfannau gofod” eraill a ariennir gan raglen datblygu clystyrau UKSA. Mae'r Alban wedi bod o gymorth mawr i ni drwy rannu ei phrofiad. Mae pob un o'r rhanbarthau rydym wedi bod yn ymgysylltu â nhw wedi bod yn fwy na pharod i rannu gwybodaeth a syniadau ac maent yn awyddus i ystyried sut y gallwn gydweithio.

Mae angen i fanteisio nawr ar y wybodaeth a'r deunydd rydym wedi'u cael drwy gymryd rhan yn y rhaglen. Gan weithio mewn partneriaeth ag eraill, byddwn yn datblygu rhaglen ymgysylltu drwy ddigwyddiadau a chymryd rhan mewn arddangosfeydd a chynadleddau sy'n ymwneud â'r sector. Defnyddir ein hasedau newydd er mwyn helpu i hyrwyddo'r sector yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol. Rydym yn bwriadu cynnal Gofod Cymru a'r Grŵp Arwain fel rhwydwaith gweithredol a dynamig yng Nghymru a byddwn yn datblygu fframwaith er mwyn helpu i sicrhau y bydd yn parhau i ddatblygu yn y dyfodol. Ein bwriad yw datblygu ein cynigion mewn partneriaeth â Lywodraeth y DU ac Asiantaeth Ofod y DU er mwyn sicrhau bod amcanion yn cyd-fynd â'i gilydd, fel sy'n ofynnol.

  • Cam gweithredu: Byddwn yn cytuno ar broses i fesur maint y diwydiant yng Nghymru er mwyn gwerthuso cynnydd o leiaf unwaith y flwyddyn. Un o rolau allweddol Grŵp Arwain Gofod Cymru fydd adolygu cynnydd yn erbyn ein cynllun gweithredu strategol a helpu i ddiwygio'r cynllun wrth i amgylchiadau newid. Cytuno ar fframwaith mesur.

Nawr byddwn yn ystyried pob un o'r prif grwpiau o gyfleoedd a nodwyd gan ein hastudiaeth, gan gydnabod y bydd y gwahanol elfennau yn gorgyffwrdd â'i gilydd. Gellir ystyried bod rhan o'r hyn yr rydym yn ei gynnig yn ychwanegiadau, sy'n adeiladu ar y sylfeini sydd gennym eisoes. Fodd bynnag, mae'n rhaid i ni hefyd anelu at weithgarwch arloesol a fydd yn helpu i drawsnewid tirwedd ddiwydiannol a chymdeithasol Cymru.

Ein gweledigaeth yw sicrhau, erbyn 2040, mai Cymru fydd y wlad ofod gynaliadwy gyntaf yn y byd, gan arwain y ffordd at ofod gwyrddach.

Hedfan i'r Gofod, Hyfforddiant a Phrofiad

Porth Gofod Eryri

Mae Canolfan Awyrofod Eryri wedi llunio map ffordd (Chwefror 2021) ar gyfer datblygu maes awyr Llanbedr a Phorth Gofod Eryri ymhellach. Rhestrir yr eitemau allweddol yma:

  • Mae uwchgynllun drafft ar gyfer datblygu'r safle wedi'i lunio sy'n ymdrin â'r paramedrau diogelwch sy'n gysylltiedig â gweithredu'r maes awyr ar gyfer gweithrediadau sy'n ymwneud â'r gofod.
  • Cam gweithredu: Sicrhau cyllid er mwyn i'r Asesiad o'r Effaith Economaidd a'r gwaith cynllunio cysylltiedig allu cael eu gwneud – tua £65K
  • Cam gweithredu: Sicrhau cyllid er mwyn i ragor o waith cynllunio amddiffynfeydd rhag llifogydd a gwaith modelu allu cael eu gwneud.
  • Cam gweithredu: Nodi'r costau a'r cyfleoedd cyllido ar gyfer adeiladu amddiffynfeydd newydd rhag llifogydd.
  • Cam gweithredu: Cytuno â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a QinetiQ ar weithdrefnau a chostau sy'n fforddiadwy i'r farchnad ar gyfer cael mynediad i'w Hardal Berygl bresennol ym Mae Ceredigion.
  • Cam gweithredu: Cydweithio â Techniquest Glyndŵr sydd wedi'i benodi gan Asiantaeth Ofod y DU o dan y Rhaglen Porth Awyr mewn Cymunedau i ymgysylltu'n helaeth â'r gymuned leol er mwyn dangos manteision Porth Gofod i'r gymuned leol. Cytuno ar amserlen newydd ar gyfer ymgysylltu â'r gymuned â Techniquest Glyndŵr.
  • Cam gweithredu: Gan ein bod bellach wedi ymuno â Chynghrair Pyrth Gofod y DU, chwarae rhan weithredol drwy gefnogi'r grŵp wrth iddo ymgysylltu â Llywodraeth y DU, UKSA a'r awdurdodau rheoleiddio. – parhaus.
  • Cam gweithredu: Cyflwyno rhaglen ddangos o'r dechrau i'r diwedd a fyddai'n ceisio dangos holl gyfleusterau, gwasanaethau a galluoedd gweithredol y Porth Gofod – 2023-2024.
  • Cam gweithredu: O 2025 ymlaen darparu mynediad cost isel/cyflym rheolaidd a chynaliadwy at allu profi yn y gofod agos i ddiwydiant a byd academaidd y DU – tua 6 i 10 lansiad y flwyddyn.
  • Cam gweithredu: Datblygu cynllun wedi'i gostio a cheisio cyllid – canol 2022.
  • Cam gweithredu: Cwblhau proses Drwyddedu'r Awdurdod Hedfan Sifil a cheisio Trwydded Porth Gofod ar ddiwedd 2022.

Mae Grŵp Strategaeth Porth Gofod Eryri wedi'i ffurfio dan gadeiryddiaeth Canolfan Awyrofod Eryri a chyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru, Gofod Cymru/Awyrofod Cymru, Spaceflight Academy, B2Space, Newton Launch Systems, Space Forge a Deimos Space. Mae'r grŵp yn bwriadu cyfarfod bob mis.

Mae amserlenni unigol yn cael eu datblygu a'u cyflwyno i Eryri gan ddefnyddwyr, gan gynnwys B2Space, Newton Launch Systems a Space Forge. Mae Spaceflight Academy yn awyddus i ddechrau datblygu ar y safle, ar gyfer ei ganolfan hyfforddiant, profiad ac awyrfeddygol.

Mae Llywodraeth Cymru ac Awyrofod Cymru wedi ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a darpar ddefnyddwyr er mwyn ystyried defnyddio'r cyfleuster ar gyfer gofod milwrol. Mae Llanbedr yn parhau i fod yn safle datblygu ar gyfer cysyniadau hedfan yn y dyfodol ac mae cleientiaid wedi cynnwys BAE Systems, Astigan a Vertical Aerospace. Mae Awyrofod Eryri eisoes wedi cwblhau dangosiad profi cysyniad ar gyfer danfon mini-ddiffibriliwr ar ddrôn i leoliad gwledig anghysbell mewn partneriaeth â Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Ariannwyd y prosiect gan Asiantaeth Ofod y DU a Llywodraeth Cymru o dan Raglen Genedlaethol Technoleg y Gofod /Rhaglen y Gofod ar gyfer Llywodraethu Doethach er mwyn dangos sut y gellid defnyddio dronau a alluogir gan loerennau fel rhan o rwydwaith ehangach a alluogir gan loerennau i gefnogi gwasanaethau gofal iechyd o bell mewn cymunedau gwledig yng Nghymru.

Mae'r prosiect hwn yn cynnig pont rhwng elfennau sylfaenol ac eilaidd sector y gofod. Gydag ardal berygl breifat ei faes awyr lleol, a roddir ar waith yn fuan, sy'n gysylltiedig â'r 8500 o gilometrau sgwâr o awyrofod gwahanedig hygyrch y Weinyddiaeth Amddiffyn, mae'r maes awyr mewn sefyllfa unigryw yn y DU o ran datblygu hediadau BVLOS gan roi cyfleoedd i integreiddio â data'r gofod. Argymhellir y dylai grŵp strategaeth Porth Gofod Eryri, sydd newydd ei ffurfio, ystyried y potensial a gynigir gan y gallu hwn a gweithio gyda phartneriaid posibl megis GIG Cymru a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru i ddatblygu atebion integredig ar gyfer economi wledig a alluogir gan y gofod.

Mae Porth Gofod Eryri wedi diffinio'r meysydd y mae'n awyddus i weithredu ynddynt ac wedi amlinellu'r camau gweithredu a'r buddsoddiad i gyflawni ei uchelgeisiau. Bydd hyn yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU ac Asiantaeth Ofod y DU. Yn benodol, argymhellir y dylid ymgysylltu'n fwy â thîm Spaceflight UKSA ac y dylai Eryri wneud defnydd da o'i aelodaeth newydd o Gynghrair Pyrth Gofod y DU yn ystod y cyfnod hollbwysig hwn o ddatblygu hediadau i'r gofod yn y DU.

Black Arrow Space Technologies/Gwasanaeth Lansio o'r Môr Horizon/Canolfan Ofod Port Talbot

Mae Black Arrow Space Technologies yn cynnig lansio prif lwythi yn pwyso hyd at 500Kg i Orbit Isel Pegynol y Ddaear neu hyd at 300Kg i Orbit Cydamserol yr Haul, o long lansio forol. Caiff y gwasanaeth ei farchnata o dan ‘Horizon Sea Launch’ a'i weithredu o Ganolfan Ofod arfaethedig ym Mhort Talbot. Caiff cerbyd lansio dau gam Black Arrow 2 ei ddylunio a'i weithgynhyrchu ar ei safle yn Swydd Rydychen. Caiff y roced ei bweru gan dechnolegau peiriannau a gyriant profedig, ei addasu i'w ddefnyddio yng ngherbyd lansio Black Arrow 2, a fydd yn cynnwys cydrannau printiedig 3D arloesol ac yn defnyddio tanwyddau Nwy Naturiol Hylifedig (LNG) ac Ocsigen Hylifedig (LOx) cryogenig.  Mae hon yn system gosteffeithiol ac ecogyfeillgar, sy'n addas i gynnal systemau y gellir eu hailddefnyddio.  Bydd pum peiriant yn darparu gwthiad o ~450kN i'r Cam Cyntaf, gyda gweithrediad dibynadwyedd ac achub ychwanegol, gydag un peiriant yn gyrru'r Cam Uchaf. Mae'r cwmni yn bwriadu sefydlu cyfleusterau profi gwthiad uchel, er mwyn cefnogi profion ‘stac’ (hyd at 1MN o wthiad i ddechrau) a chyfleusterau integreiddio systemau/prosesu, ochr yn ochr â chanolfan y porth gofod. Mae Black Arrow Space Technologies wedi bod yn datblygu partneriaethau diwydiannol i gefnogi'r prosiect ac wedi creu rhwydwaith o gwmnïau gweithgynhyrchu, Clwstwr Celtaidd y Gofod, gyda gallu sy'n ymwneud â'r gofod yng Nghymru, Iwerddon ac Ynys Manaw.

Bwriedir i Ganolfan Ofod Port Talbot (PTSC) fod yn ganolfan alluogi gweithgynhyrchu a gweithgarwch sylfaenol yn ymwneud â'r gofod, wedi'i lleoli yn ardal dociau Port Talbot ac wedi'i hailddatblygu o dan arweiniad Cyngor Castell-nedd a Phort Talbot. Mae'r datblygiad ger Parc Ynni Baglan, y Ganolfan Hydrogen a'r Ganolfan Ymchwil Tyrbinau Nwy .

Mae ardal Port Talbot wedi cynnal sylfaen weithgynhyrchu weithredol a hyfedr gyda chwmnïau ategol sy'n darparu deunyddiau a chyflenwr pwysig a all gynhyrchu amrywiaeth o nwyon awyr yn uniongyrchol o'r atmosffer.

Mae PTSC yn cynnig cartref delfrydol i weithrediad lansio a gludir ar y môr a gweithgynhyrchwyr cydrannau cysylltiedig, ac mae lle ar gael yn ardal y dociau i adeiladu neuaddau integreiddio, storio a phrosesu a gweithdai o fewn ffin ddiogel ger yr harbwr llanw a'r doc mewnol. Mae'r pen rheilffordd yn arbennig o bwysig o ran cludo cydrannau a chyfarpar o leoedd ymhellach i ffwrdd.

Disgwylir i bartner masnachol ganoli'r gweithgareddau paratoi ar gyfer lansio yng Nghanolfan Ofod Port Talbot, ynghyd â chyfleusterau storio cydrannau a thanwyddau, er mwyn i'r gweithrediadau lansio o'r môr allu cael eu cydgysylltu a'u cefnogi mewn un lleoliad. At hynny, mae'n bosibl y cyflwynir is-adrannau (neu is-gwmnïau) gweithgynhyrchu peiriannau, strwythurau a thanciau tanwydd o fewn ffiniau ardal ehangach y dociau. Mae'n bosibl y cyflwynir cyfleusterau ategol eraill hefyd, er mwyn canolbwyntio'r gweithrediad a sicrhau'r gadwyn gyflenwi. Cyflwynir cyfleusterau storio hefyd er mwyn sicrhau y gall prosesau integreiddio gael eu cyflawni'n gyflym ac yn ddidrafferth, heb rwystrau amlwg. Bydd y gweithrediad yn creu tua 350 o swyddi uniongyrchol a disgwylir iddo greu 500 o swyddi anuniongyrchol.

  • Cam gweithredu: Argymhellir y dylid ffurfio cyd-weithgor diwydiant/llywodraeth â Llywodraeth Cymru a Gofod Cymru, yn debyg i'r un a sefydlwyd yn Eryri, er mwyn datblygu achos busnes a phroffil buddsoddi a rennir.

Defnyddio Pyrth Gofod eraill

Mae trafodaethau â Space Forge a'i ofynion o ran lansiadau a chadens y lansiadau hynny yn awgrymu y bydd y galw am lansiadau yn y DU, yn ôl pob tebyg, yn fwy na gallu byrdymor y DU i ddarparu slotiau lansio am bris cystadleuol yn y farchnad ryngwladol. Dylem fod yn gweithio fel rhwydwaith i hyrwyddo twf y farchnad prif lwythi a llwyfannau er mwyn manteisio ar ein galluoedd sylfaenol a llywio'r gwaith o ddatblygu defnyddiau eilaidd. Byddwn yn meithrin cydberthnasau â darparwyr gwasanaethau lansio eraill yn y DU ac yn rhyngwladol er mwyn sicrhau bod aelodau'r clwstwr yn cael y mynediad angenrheidiol a chosteffeithiol at allu lansio ac yn dysgu gan ddarparwyr eraill er mwyn cefnogi twf ein gallu domestig ein hunain. Bydd Llywodraeth Cymru, Gofod Cymru a chwmnïau yn rhwydwaith Gofod Cymru yn ymgysylltu â darpar ddarparwyr gwasanaethau lansio mewn digwyddiadau ac arddangosfeydd a gynhelir gan sector y gofod a thrwy ein gweithgarwch rhwydweithio ar y cyd. Mae'r Gynghrair Pyrth Gofod Fyd-eang wedi cysylltu â ni a byddwn yn ystyried pa fanteision a allai ddeillio o gydberthynas â'r gynghrair honno.

Gweithgynhyrchu yn y gofod ac achub cerbydau gofod

Mae Space Forge wedi cael cyllid ac wedi cytuno ar gyllid er mwyn helpu i sefydlu ei gyfleuster datblygu ac integreiddio yng Nghaerdydd. Ei gynllun presennol yw:

2023: lansio'r lloeren gyntaf a adeiladwyd yng Nghymru (o borth gofod yng Nghymru os bydd un ar gael). 
2024: dychwelyd lloeren i Gymru ag ymchwil gan un o brifysgolion Cymru neu ar gyfer cadwyn gyflenwi yng Nghymru e.e. Aston Martin/ GD/ BAE ac ati.
2025: lansio lloeren wedi'i hadnewyddu i droi ymchwil prifysgol yn nwyddau i'w cynhyrchu yn y gofod a'u defnyddio yn ôl ar y Ddaear, cyfansoddion newydd ar gyfer peiriannau/lled-ddargludyddion ar gyfer telathrebu/deunyddiau seramig ar gyfer tyrbinau ac ati.
Byddai'r cadens lansio posibl yn cynyddu o 4 uned yn 2023, i 12 uned yn 2024 ac i un yr wythnos yn 2025-26.

Gellid rheoli'r gwaith o achub cerbydau gofod o Ardal Berygl y Weinyddiaeth Amddiffyn/QinetiQ ym Mae Ceredigion gyda chymorth Porth Gofod Eryri.

Mae'n cynnal trafodaethau â Llywodraeth Cymru er mwyn ystyried cyfleoedd cyllido pellach. Mae trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a'r Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau yn ystyried y posibilrwydd o sefydlu cyfleuster DISC (Gallu Gofod Arloesol Tarfol) yng Nghymru ac mae potensial ar gyfer synergedd rhwng y cyfleusterau arfaethedig.

  • Cam gweithredu: Argymhellir y dylai Llywodraeth Cymru/Gofod Cymru, Space Forge a'r Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau gydweithio i ddatblygu cysyniad DISC a chyflwyno cynigion cadarn.
  • Cam gweithredu: Mae twneli gwynt plasma yn darparu'r gallu i efelychu amodau dychwelyd i atmosffer y Ddaear, sef gallu y bydd ei angen ar Space Forge i ddatblygu ei gynigion ar gyfer achub llongau gofod. Mae cyfle i ddatblygu cyfleuster o'r fath yn y DU ac argymhellir y dylai Llywodraeth Cymru/Gofod Cymru a Space Forge ystyried cost gallu o'r fath a'r galw domestig amdano a chyhoeddi eu canfyddiadau.
  • Cam gweithredu: Mae'r Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau yn ceisio cyllid gan ESA er mwyn ateb y galw am weithgynhyrchu yn y gofod a chefnogi'r gallu i wneud hynny. Mae Llywodraeth Cymru/Gofod Cymru wedi addo cefnogi'r nod hwn. Argymhellir y dylem gytuno ar gynllun yn nodi sut y byddwn yn cydweithio.

Ecosystem profi a gwerthuso

Mae Asiantaeth Ofod y DU wedi gofyn i Y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) gynnal arolwg mapio'r ffordd o gynigion ar gyfer seilwaith a chyfleusterau cenedlaethol mawr sy'n ymwneud â'r gofod er mwyn hybu twf a ffyniant economaidd a phenderfynu pa rai o'r datblygiadau hyn y gallai fod angen cymorth gan y Llywodraeth arnynt. Mae bob amser yn anodd cynnal arolygon o'r fath ac roedd angen rhywfaint o ymyrraeth hwyr ar yr arolwg blaenorol a gynhaliwyd er mwyn sicrhau bod Cymru wedi'i chynrychioli'n ddigonol. Mae twf posibl gallu'r DU o ran lansio a cherbydau lansio yn debygol o ddatgelu bylchau a rhwystrau yng ngallu profi a gwerthuso cyffredinol y DU. Mae gan Gymru rai cyfleusterau ardderchog ond nid yw'r gwaith o farchnata ein gallu ar y cyd yn effeithiol ar hyn o bryd. Oherwydd blaenoriaethau a phwysau eraill, mae'n debygol na fydd yr ymateb cyfunol i UKSA/STFC, o bosibl, wedi nodi popeth sydd gennym i'w gynnig na phopeth sydd ei angen arnom er mwyn hybu twf yn y dyfodol.

  • Cam gweithredu: ceisio adolygu ymateb Cymru gydag UKSA/STFC a llenwi unrhyw fylchau.

Mae angen i ni feithrin dealltwriaeth well o'r ffordd mae ein cyfleusterau a'n hanghenion presennol yn cyd-fynd â thirwedd gyffredinol y DU. Dylem gynnwys TWI, ATRC, AMRC Cymru a GTRC yn y trafodaethau hyn. Rydym wedi trafod y potensial ar gyfer cyfleuster DISC a'r posibilrwydd o'i leoli ger cyfleuster arfaethedig Space Forge yng Nghaerdydd.

  • Cam gweithredu: adolygu cynigion ar gyfer datblygu a marchnata cyfleusterau yng Nghymru mewn partneriaeth ag UKSA a chytuno arnynt.

Rydym eisoes wedi ymdrin â chynigion ar gyfer y cyfleusterau yn Llanbedr/Porth Gofod Eryri. Rydym wedi nodi bod cyfundrefn codi tâl bresennol y Weinyddiaeth Amddiffyn/QinetiQ yn rhwystro BBaChau a busnesau newydd rhag gwneud mwy o ddefnydd o faes tanio Bae Ceredigion.

  • Cam gweithredu: Dechrau trafodaethau â Llywodraeth y DU er mwyn ceisio cyfraddau sy'n fwy deniadol yn fasnachol er mwyn annog busnesau i ddefnyddio'r ased cenedlaethol hwn er mwyn cefnogi sector twf.

Mae'r Ganolfan Gwthiant Gofod Genedlaethol (NSPF) yn Westcott, Swydd Buckingham, yn darparu safleoedd profi ar gyfer peiriannau gwthiad isel i'w defnyddio ar loerennau ac ni all ddarparu ar gyfer y lefelau uwch sydd eu hangen i ddefnyddio cerbydau lansio. Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw safle diogel yn y DU lle y gellir cynnal profion ar beiriannau rocedi ar y lefelau uchel gofynnol o ran gwthiad (a sŵn), ac mae'r ddau gyfleuster Maes Tanio hyn yn addas iawn i ddarparu gwasanaethau o'r fath gyda buddsoddiad priodol. Mae gan Bentywyn a Maes Tanio Maesyfed gyfleusterau sy'n gysylltiedig â'r sector amddiffyn eisoes. Fodd bynnag, er mwyn darparu ar gyfer cynnal profion ar beiriannau rocedi gwthiad uchel i'w defnyddio yn y gofod, bydd angen cynnal astudiaethau asesu'r tir a'r amgylchedd a gwneud gwaith sifil er mwyn i'r safleoedd allu cael eu gwella a'u huwchraddio'n effeithiol, lle y bo angen.

  • Cam gweithredu: Llywodraeth Cymru/Gofod Cymru i weithio gydag UKSA a pherchenogion y safleoedd er mwyn cytuno ar y potensial i gefnogi sector y gofod yn y dyfodol a gwerthuso costau a refeniw posibl.

Gallai'r Ganolfan Ofod arfaethedig ym Mhort Talbot gynnwys galluoedd Tracio, Telemetreg a Rheoli i gefnogi'r gweithgareddau lansio lleol a gweithgareddau lansio mewn rhannau eraill o'r DU neu mewn lleoliad anghysbell addas ar wahân yng Ngorllewin Cymru. Mae potensial masnachol a strategol ar gyfer cyfleuster profi a gwerthuso penodol ar gyfer afioneg sifil a thechnolegau cysylltiedig, gyda safle posibl yng Ngorllewin Sir Benfro, a fydd yn cael budd o'i leoliad anghysbell a hawdd i'w ddiogelu ym mhen Gorllewinol Aberdaugleddau, yn Ardal Fenter Dyfrffordd y Ddau Gleddau a'r ffaith ei fod yn weddol agos i'r gweithrediadau pelydrau is-goch/amleddau radio gweithredol yn Aberporth.

  • Cam gweithredu: Llywodraeth Cymru/Gofod Cymru i ymgysylltu â chonsortiwm Port Talbot er mwyn ystyried potensial y cyfleusterau hyn a'r cyfleoedd y gallent eu cynnig

Gallu Gweithgynhyrchu Uwch a chlystyrau sy'n datblygu

Rydym wedi rhestru ein galluoedd yn yr ymarfer mapio diweddar sydd wedi'i ategu gan arolygon blaenorol a gwaith dadansoddi ategol yn y DU. Rydym wedi datblygu adnoddau ar ffurf matrics a chyfeiriadur gallu sector y gofod.

  • Cam gweithredu: Dylem geisio ymgysylltu â phrif gontractwyr allweddol a gweithgynhyrchwyr cyfarpar gwreiddiol yn sector y gofod er mwyn datblygu ein cydberthnasau â nhw ac anelu at raglennu 6 diwrnod cyflenwr dros y ddwy flynedd nesaf. Gallem ddechrau gyda chwmnïau sydd â phresenoldeb yng Nghymru e.e. Airbus Defence a Space, Raytheon UK.
  • Cam gweithredu: Dylem weithio gydag UKSA a chanolfannau/clystyrau rhanbarthol eraill er mwyn ystyried cyfleoedd a synergeddau posibl, dadansoddiad cychwynnol.
  • Cam gweithredu: O fewn rhwydwaith Gofod Cymru, cynnal o leiaf ddau ddigwyddiad y flwyddyn gyda chyflwyniadau gan ddarpar gwsmeriaid, aelodau llwyddiannus o'r rhwydwaith a gwesteion o ganolfannau/clystyrau eraill.
  • Cam gweithredu: Llywodraeth Cymru/Gofod Cymru i baratoi rhaglen o ddigwyddiadau ac arddangosfeydd mewn perthynas â sector y gofod, y cynigir y dylai “Tîm Cymru” fod yn bresennol ynddynt. Gwneud gwaith paratoi a dadansoddi ar ôl digwyddiadau gyda'r trylwyredd arferol, sy'n arfer safonol ar hyn o bryd mewn sectorau eraill. Cytunir ar y rhestr gychwynnol chaiff ei diweddaru bob blwyddyn.

Arsylwi'r Ddaear

Mae gennym lawer o elfennau allweddol o ecosystem gyffredinol ar gyfer arsylwi'r ddaear a'r gofod. Mae gennym allu uwch o ran synwyryddion mewn llawer o'n prifysgolion gyda chymwysiadau masnachol drwy gwmnïau megis QMC Instruments ac Arloesiadau Glyndŵr. Mae gallu arsylwi'r ddaear yng Nghymru ac, yn arbennig, brosiect Cymru Fyw yn Aberystwyth ynghyd â chwmnïau masnachol megis Environment Systems a Geo Smart Decisions yn darparu gallu cyffredinol cryf yn y maes hwn.  Cyfle penodol i'r cwmnïau masnachol yw adeiladu ar eu llwyddiannau presennol ym maes allforio er mwyn datblygu'r sector ymhellach ac ehangu ymhellach alluoedd cryf presennol o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial i ddarparu dadansoddeg ar raddfa fawr. Yng Nghymru, mae sefydliadau megis Cyfoeth Naturiol Cymru bellach yn defnyddio data arsylwi'r ddaear yn rheolaidd. Mae datblygwyr cymwysiadau megis Annwen Satellites yn datblygu'r gallu i gefnogi cymunedau lleol. Mae ein gallu i ddadansoddi data a'n cryfderau mewn meysydd megis seiberddiogelwch a deallusrwydd artiffisial hefyd yn cynyddu.

  • Cam gweithredu: Sefydlu Grŵp Arsylwi'r Ddaear arbenigol gyda chynrychiolwyr o'r elfennau a nodwyd uchod er mwyn datblygu cynigion manwl ar gyfer cynyddu'r gweithgarwch hwn, gan gynnwys y potensial i sefydlu Arsyllfa Gofod Genedlaethol Cymru.

Cyfleusterau Ymchwil ac Addysgu

Mae Partneriaeth Gofod Academaidd Cymru (WASP) wedi'i hadfer ac mae cyd-gadeiryddion, sef yr Athro Peter Hargrave o Brifysgol Caerdydd a Richard Hazelwood o Arloesiadau Glyndŵr, wedi'u hethol. Mae'r archwiliad o allu a arferai gael ei gyflawni yn cael ei ddiweddaru. Y bwriad yw y bydd y bartneriaeth yn cyfarfod bob mis. Bydd Gofod Cymru a Nick Crew o Airbus Endeavr yn parhau i gefnogi WASP ac i ddarparu cyswllt â rhwydwaith Gofod Cymru.

  • Cam gweithredu: Byddwn yn gweithio gyda'r grŵp i lunio cynigion ar gyfer atgyfnerthu'r cysylltiadau rhwng WASP a gweddill sector y gofod yng Nghymru.
  • Cam gweithredu: Fel y nodwyd uchod, byddwn yn cyhoeddi cynigion ar gyfer cyfleuster DISC a Thwnnel Gwynt Plasma, gan dybio y gellir cyflwyno'r achos dros y cyfleusterau hyn.
  • Cam gweithredu: cwblhau trafodaethau â'r Catapwlt Cymwysiadau Lloerennau ynghylch darparu Labordy Gofod ar gyfer Arloesedd yng Nghymru.

Cymru: heriau a chyfleoedd

  • Cam gweithredu: Datblygu rhaglen o ddigwyddiadau a rhyngweithiadau â gwahanol gymunedau buddiant, mewn partneriaeth â Chenhadon Rhanbarthol ESA sy'n gyfrifol am Ogledd a De Cymru, Busnes Cymru a Fforymau eraill.
  • Cam gweithredu: Gallai'r sector cyhoeddus fod yn allweddol o ran annog cwmnïau i fanteisio ar gymwysiadau eilaidd.  Cytuno ar raglen o ddigwyddiadau a rhyngweithiadau â sefydliadau'r Llywodraeth a sefydliadau Llywodraeth Leol yng Nghymru. Cytuno ar raglen 12 mis. Ystyried dulliau cyllido posibl ar gyfer y gweithgarwch hwn.
  • Cam gweithredu: Nodwyd bod cyflwyno gwasanaethau band eang a 5G yng Nghymru yn her sylweddol, oherwydd daearyddiaeth Cymru. Dylid ffurfio gweithgor yn cynnwys Llywodraeth Cymru, Gofod Cymru, y Ganolfan Sbectrwm Genedlaethol a darparwyr megis Annwen er mwyn datblygu cynigion ar gyfer rhwydwaith cyfathrebu tir, awyr a gofod integredig posibl ar gyfer y dyfodol.

Cymru Gynaliadwy

  • Cam gweithredu: Datblygu cynigion ar gyfer Cyflymydd Gofod Cynaliadwy (SSA). Gellid ei leoli mewn prifysgol i ddechrau, efallai mewn partneriaeth ag un neu fwy o gwmnïau. Rhagwelir y bydd yn cael ei rannu rhwng sawl lleoliad yn hytrach na'i leoli mewn un adeilad penodol. Bydd yr SSA yn hyrwyddo arferion sylfaenol cynaliadwy ac yn codi ymwybyddiaeth ac yn cynyddu galw ymhlith cwsmeriaid, gan lywio gwaith ymchwil a datblygu sy'n seiliedig ar y galw.

Diben yr SSA yw mynd i'r afael â heriau yr ymrwymwyd iddynt ar lefel genedlaethol a'u cefnogi drwy ddefnyddio technolegau sy'n ymwneud â'r gofod a manteisio arnynt mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy, lleihau llygredd ac allyriadau niweidiol, gan sicrhau twf mewn sectorau hanfodol ar yr un pryd. Cam ymarferol cyntaf prosiect yr SSA fydd sefydlu swyddfa cyflawni a gweithredu ar gyfer y prosiect a fydd yn cysylltu galluoedd cenedlaethol presennol yn y DU ac yn ysgogi cyfleoedd i greu cadwyn gyflenwi'r dyfodol.

Dim ond yn y tymor canolig y caiff cyfleusterau ffisegol a chynaliadwy eu creu er mwyn datblygu galluoedd nad ydynt ar gael yng Nghymru na'r DU ar hyn o bryd.

Bydd y pethau sydd i'w cyflawni gan y prosiect yn hyrwyddo ymchwil i dechnolegau cynaliadwy, megis deunyddiau y gellir eu dileu, tanwyddau lloerennau gwyrdd, tanwyddau lanswyr glân a gweithrediadau lansio/achub camau cyfrifol.

Grŵp Arwain Gofod Cymru

Ers 2006, mae Awyrofod Cymru wedi cynnwys sector y gofod fel rhan o'i bortffolio ochr yn ochr ag awyrofod, hedfan ac amddiffyn. Mae'n amlwg bod synergeddau cryf rhwng y sector awyrofod a'r sector gofod eilaidd gan fod elfennau o ddiwydiant y DU wedi datblygu o ochr awyrofod y busnes. Cydnabuwyd bod sector y gofod sy'n tyfu yn cynnwys llawer o gyfranogwyr sy'n darfwyr, sef cwmnïau entrepreneuraidd newydd sydd â diwylliant gwahanol iawn i'r sector awyrofod prif ffrwd. Mae elfen eilaidd sector y gofod o ran ei natur yn un ban-sector sy'n dod ag amrywiaeth eang o feysydd cymwysiadau posibl at ei gilydd. Am y rheswm hwn, ffurfiodd Awyrofod Cymru Grŵp Gofod ar wahân ac mae wedi gweithio gyda grwpiau eraill megis Technology Connected a Llywodraeth Cymru er mwyn hwyluso ymdrechion i ymgysylltu â'r gymuned ehangach hon o randdeiliaid. Fel rhan o'r prosiect hwn, rydym wedi sefydlu brand Gofod Cymru newydd a Grŵp Arwain Gofod Cymru (SWLG), y daw ei aelodau o amrywiaeth eang o sefydliadau, er mwyn cydnabod natur amrywiol y sector. Ar hyn o bryd, mae'n gweithredu o dan adain Awyrofod Cymru ond rhagwelir y bydd yn datblygu'n sefydliad annibynnol. Mae Awyrofod Cymru ei hun yn aelod o grŵp Diwydiant Cymru sy'n cynnwys sefydliadau tebyg sy'n cynrychioli sectorau eraill. Yn ystod y prosiect, mae Grŵp Arwain Gofod Cymru wedi bod yn cyfarfod bob wythnos ac fe'i cadeirir ar y cyd gan Helen Swift (Airbus) a John Whalley (Awyrofod Cymru).

  • Cam gweithredu: Parhau i weithredu'r rhwydwaith a'r grŵp arwain o dan nawdd Llywodraeth Cymru ac Awyrofod Cymru ar y cyd. Ceisio nodi llwybrau cyllido/modelau gweithredu posibl ar gyfer parhau i weithredu gyda chynigion.

Casgliadau ac argymhellion allweddol

Mae rhaglen datblygu clystyrau'r gofod a ariennir gan Asiantaeth Ofod y DU wedi ein galluogi i fapio ecosystem y gofod yng Nghymru, nodi cyfleoedd ar gyfer twf yn y dyfodol a chasglu argymhellion allweddol at ei gilydd.

Rydym hefyd wedi sefydlu Grŵp Arwain Gofod Cymru, sydd wedi cyfarfod yn rheolaidd yn ystod y prosiect a rhwydwaith Gofod Cymru.

Argymhellion

Bydd Grŵp Arwain Gofod Cymru a rhwydwaith Gofod Cymru yn parhau i weithredu a datblygu'r camau gweithredu byrdymor a nodwyd mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru. Bydd Gofod Cymru yn parhau i weithredu fel cangen o Awyrofod Cymru a chynhelir trafodaethau â'r aelodau a Llywodraeth Cymru er mwyn penderfynu ar fodelau cyllido a llywodraethu ar gyfer y dyfodol.

Bydd Gofod Cymru, Llywodraeth Cymru ac UKSA yn cytuno ar y fframwaith ar gyfer mesur maint y sector yng Nghymru er mwyn nodi'r cynnydd sy'n cael ei wneud tuag at gyflawni ein nod o sicrhau trosiant o £2bn erbyn 2030.

Caiff gweithgorau eu sefydlu i ystyried cyfleoedd penodol megis y Cyflymydd Gofod Cynaliadwy, Arsyllfa Gofod Genedlaethol Cymru, system band eang a chyfathrebu a alluogir gan y gofod i Gymru, ymgysylltu â'r sector cyhoeddus, cymhwyso prosesau gweithgynhyrchu uwch at sector y gofod a datblygu a marchnata cyfleusterau profi.

Dylai rhaglenni allweddol megis datblygu a defnyddio Porth Gofod Eryri, Canolfan Ofod Port Talbot a gweithgynhyrchu yn y gofod barhau i gael eu datblygu drwy bartneriaethau rhwng y diwydiant a'r Llywodraeth.

Anogir Partneriaeth Gofod Academaidd Cymru i ddatblygu a thyfu a gweithio mewn partneriaeth agos â Gofod Cymru a Llywodraeth Cymru.

Bydd yr adroddiad hwn, y camau gweithredu a'r argymhellion yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru a'r Gweinidogion priodol.