Neidio i'r prif gynnwy

Heddiw, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi'r rhestr lawn o ddigwyddiadau a gefnogir gan Gronfa Dydd Gŵyl Dewi 2026.

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Chwefror 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r gronfa gwerth £1 miliwn yn galluogi grwpiau cymunedol, rhanbarthol a chenedlaethol i ddathlu diwrnod nawddsant Cymru, Dydd Gŵyl Dewi, ar 1 Mawrth. Bydd sefydliadau yn cael grantiau sy'n amrywio o £500 ar gyfer digwyddiadau cymunedol bach i £40,000 ar gyfer gweithgareddau ledled y wlad.

Bydd 92 o ddigwyddiadau'n cael eu cynnal ledled Cymru, rhwng 16 Chwefror a 6 Mawrth 2026.

Ar ben hynny, bydd yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol Gwna'r Pethau Bychain hefyd yn dychwelyd, ochr yn ochr â gweithgareddau sy'n cael eu rhedeg gan swyddfeydd tramor Llywodraeth Cymru a hyrwyddo bwyd a diod yng Nghaerdydd a Llundain.

Dywedodd y Prif Weinidog, Eluned Morgan:

"Rwy'n falch iawn o'r ymateb i’r Gronfa Dydd Gŵyl Dewi. Bydd gweithgareddau yn cael eu cynnal ledled Cymru, o gynulliadau cymunedol bach i ddathliadau a gynhelir gan sefydliadau cenedlaethol.

"Rwy'n arbennig o falch o'r amrywiaeth o syniadau a gyflwynwyd – cymysgu cysyniadau newydd cyffrous ochr yn ochr â'n dathliadau traddodiadol adnabyddus.

"Mae Dydd Gŵyl Dewi 2026 yn mynd i fod yn wych a hoffwn ddiolch i bawb a ymgeisiodd. Gyda'n gilydd, rydyn ni'n mynd i wneud Dydd Gŵyl Dewi yn arbennig iawn eleni."