Neidio i'r prif gynnwy

Mae Gweinidogion Cymru wedi croesawu adolygiad heddiw gan Chwarae Teg a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ar bolisïau cydraddoldeb rhywiol Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, ymrwymodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones, i sicrhau bod Cymru yn arwain y ffordd o ran cydraddoldeb rhywiol a chomisiynodd adolygiad cyflym o'r hyn sydd angen ei wneud er mwyn rhoi hwb o’r newydd i waith Llywodraeth Cymru. 

Roedd adroddiad Chwarae Teg, sef y cam cyntaf mewn adolygiad dwy ran, yn archwilio polisïau cydraddoldeb rhywiol Llywodraeth Cymru ac yn eu hystyried ar y cyd ag enghreifftiau o'r arferion byd-eang gorau a gyflwynwyd yn adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. 

Er bod Cymru wedi cyflawni llawer, nododd yr adolygiad bod anghydraddoldeb rhwng y rhywiau yn parhau i fod yn nodwedd ystyfnig o fywyd yng Nghymru. Mae adroddiad heddiw yn nodi'r sylfaen ar gyfer newid yn seiliedig ar dair thema allweddol: Gweledigaeth ac Arweinyddiaeth, Polisi Ymarferol ac Atebolrwydd a Chraffu Allanol. 

Gweledigaeth ac Arweinyddiaeth - er bod yr adroddiad yn nodi bod gan Gymru ddeddfwriaeth flaenllaw, mae angen gwneud mwy er mwyn gwneud y mwyaf ohoni ac i gael mwy o effaith. Mae gan Lywodraeth Cymru rôl bwysig i'w chwarae hefyd drwy ddangos esiampl fel cyflogwr a lluniwr polisi er mwyn hybu newid sy'n para.

Mae Polisi Ymarferol yn edrych ar y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn llunio ac yn rhoi polisïau a deddfwriaeth ar waith. Nododd yr adroddiad feysydd arfer da a gwnaeth argymhellion ynghylch sut y gellir gwneud hyn yn fwy cyson. 

Mae Atebolrwydd a Chraffu Allanol yn nodi y croesawir craffu allanol a bod craffu effeithiol yn hybu newid mewn ymddygiad. Mae'r adroddiad yn nodi bod lle i gryfhau ac integreiddio'n well y dulliau atebolrwydd presennol ar draws y fframwaith deddfwriaethol a rheoleiddio.

Bydd Cam Dau'r adolygiad yn ystyried yr heriau hyn ac yn datblygu amcanion clir, targedau mesuradwy a goblygiadau ariannol eu hargymhellion.

Dywedodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones:

"Mae adroddiad Chwarae Teg yn rhoi goleuni ar y pethau y mae angen i ni eu gwella ac sy'n ein herio i wneud pethau'n well. Mae hefyd yn cyflwyno cyfleoedd cyffrous am newid ac rwy'n falch i ddweud fod fy Nghabinet yn cytuno â'r adroddiad ac wedi ymrwymo i sicrhau bod cydraddoldeb rhywiol yn cael ei integreiddio mewn polisïau ac wrth wneud penderfyniadau. 

"Mae angen newid os yw Cymru am arwain y ffordd o ran hawliau menywod a chydraddoldeb rhywiol. Fel mae'r adroddiad yn nodi, mae gennym ddeddfwriaeth flaenllaw ar waith eisoes ac mae ychydig o gynnydd wedi ei wneud, ond mae angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol os ydym am fod yn Llywodraeth Ffeministaidd ac am wella bywydau menywod a merched.

Dywedodd Arweinydd y Tŷ, Julie James:

"Mae'r adroddiad hwn yn her uniongyrchol a phwysig i ni - dyma roeddem yn ei ddisgwyl ac am ei weld. 

"Mae'r adroddiad yn dechrau gofyn y cwestiynau y mae angen inni eu gofyn i ni’n hunain ac ystyried yr hyn y gallwn ei wneud i gryfhau'r datblygiadau i gyflawni cydraddoldeb rhywiol. Mae gweledigaeth ac arweinyddiaeth yng Nghymru i wella cydraddoldeb rhywiol ac i rymuso menywod; fodd bynnag, mae angen eu cryfhau. Gallwn wneud yn well, ac fe wnawn ni hynny."