Neidio i'r prif gynnwy

Cymru sy’n falch o’r mislif

Mae’r mislif yn naturiol. Nid yw’n ddewis. Rydym i gyd yn ei gael, wedi’i gael, neu'n adnabod pobl sydd neu wedi’i gael.

Dydy'r mislif ddim yn 'fater i fenywod' yn unig, nac yn beth budr, ac yn bendant nid yw’n rhywbeth i gywilyddio yn ei gylch.

Ni ddylai neb fod o dan anfantais oherwydd mislif.

Pam ein bod am ddod â thlodi mislif i ben

Mae cael gwared o dlodi mislif yn golygu sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at:

  • golli addysg
  • absenoldeb o’r gwaith
  • tynnu’n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol

Mae tawelwch, stigma a thabŵau am y mislif wedi para gormod o amser. Ni ddylai menywod, merched a’r rhai sy’n cael mislif gael eu hamddifadu rhag cael y cymorth a’r nwyddau sydd eu hangen arnynt.

Beth mae bod yn falch o’r mislif yn ei olygu i chi?

Gwrandewch ar brofiad pobl o’u mislif:

Gwrandewch ar bobl yn rhannu eu profiad personol:

Ble allaf i ddarganfod mwy am y mislif?

Ewch i Mislif Fi, ffynhonnell gwybodaeth a chymorth i bobl ifanc.

Drwy ddarparu gwybodaeth am iechyd y mislif ac agor y sgwrs, rydym am:

  • helpu cenedlaethau o bobl ifanc i beidio dioddef mewn tawelwch gan ofni siarad ynghylch y mislif  
  • gwella dealltwriaeth ehangach ynghylch beth sy’n arferol o ran y mislif

Ble allaf i gael nwyddau am ddim?

Er mwyn darganfod ble gallwch chi gael nwyddau am ddim yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch awdurdod lleol.

Adnoddau

Rydym wedi gweithio gydag Eco-Ysgolion Cadwch Gymru’n Daclus i ddarparu adnoddau i hyrwyddo sgwrs agored gyda phobl ifanc.

Wedi’u hanelu yn bennaf at ysgolion uwchradd, mae’r adnoddau’n cynnwys gwybodaeth ynghylch:

  • nwyddau mislif cynaliadwy yn lle nwyddau untro
  • yr effaith y gall y nwyddau hyn ei chael ar yr amgylchedd

Gallai’r adnoddau hyn fod o ddefnydd i grwpiau cymunedol hefyd.

Lawrlwytho adnodd Chwalu’r mythau am y mislif a nwyddau’r mislif.

Ein camau i greu Cymru sy’n falch o’r mislif

Rydym am newid y tawelwch, y stigma a’r tabŵ sydd wedi eu cysylltu â’r mislif am gyfnod rhy hir. Dylai pawb allu rheoli eu mislif â balchder.

Gydag ysgolion, colegau, prifysgolion, grwpiau cymunedol, grwpiau ieuenctid, ymgyrchwyr, cyflogwyr a chynghorau, ein nod yw creu #Cymrusynfalchormislif i bawb.

Darllenwch ein cynllun i greu Cymru sy’n falch o’r mislif

Darganfyddwch fwy am sut gallwn greu Cymru sy’n falch o’r mislif.